Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cynigion Drafft Cyllideb y Datblygu ac Adfywio

Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 20 Chwefror 2020, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 13 Chwefror 2020.)

 

Cofnodion:

Aeth y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Jeff Dong, Dirprwy Brif Swyddog Ariannol a Huw Mowbray, Rheolwr Datblygu Eiddo drwy'r cynigion cyllidebol arfaethedig mewn perthynas â Datblygu ac Adfywio, gan amlygu'r prif faterion ac ateb cwestiynau.

4.

Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion

Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Datblygu ac Adfywio er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

Bydd cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 19 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu.

 

Cofnodion:

Cytunodd y panel â'r farn a'r argymhellion canlynol am y cynigion cyllidebol mewn perthynas â Datblygu ac Adfywio yr hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet:

 

              Roedd gan y panel bryderon am y gofyniad benthyca cyffredinol, ac nid oedd yn glir faint y byddwn yn ei fenthyca.  Mae angen eglurhad ar y panel ar (i) faint y byddwn yn ei fenthyca, (ii) beth fydd costau'r benthyca hwn a (iii) sut byddwn yn ariannu cost ychwanegol y benthyciad.

              Teimlai'r panel nad oedd sicrwydd ynghylch faint o arian y bydd y cyngor yn ei dderbyn na faint y bydd yn rhaid iddo dalu.

              Mynegodd y panel bryder ynghylch yr arian a ddefnyddir dros 15 mlynedd oddi wrth y Fargen Ddinesig.  Bydd swm yr arian y byddwn yn ei dderbyn o hyn yn fach iawn ac nid yw hyd yn oed yn talu am y taliadau llog. 

              Hoffai'r panel gael eglurhad ynghylch y costau £200,000 ar gyfer ein cyfraniad at drefniadau rhanbarthol y Fargen Ddinesig.  Ar gyfer beth y mae'r arian hwn a thros ba gyfnod o amser caiff ei dalu?

              Mynegodd y panel bryder am bwysau ariannol o ganlyniad i daliadau cyllid cyfalaf a hefyd y defnydd o DLlR a'r gronfa cyfartalu cyfalaf i dalu am y taliadau hyn.

              Hoffai'r panel gael rhagor o eglurhad ynghylch yr hyn a adroddir i'r panel o ran sut pennir costau cynlluniau Datblygu ac Adfywio a'r hyn sydd ynghlwm wrthynt.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

Bydd y cynullydd yn cyflwyno barn y panel, ar y cyd â chynullyddion paneli eraill, i'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid, sy'n cwrdd ar 19 Chwefror.  Yna bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet.