Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 400 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau'r Cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect PDF 209 KB ·
Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas · Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Huw Mowbray, y Rheolwr Datblygu Eiddo, y diweddaraf i'r panel ynghylch y prosiectau adfywio yn Abertawe. Abertawe Ganolog
- Cam 1 • Prif gontract - mae 10% o'r
seiliau wedi'u cwblhau. Mae'r prif gontractwr
yn cael trafferth
dod o hyd
i gyflenwyr lleol. Mae cynifer o brosiectau adeiladu'n digwydd yn lleol,
nid yw'r contractwyr lleol yn gallu ymdopi.
Prif becynnau'n unig sydd wedi
cael eu tendro
ar hyn o bryd. Caiff pecynnau
bach eu tendro
yn y 6 i 7 mis nesaf. Hoffai'r
panel weld y ffigurau sy'n dangos faint o gyflenwyr lleol a ddefnyddir. • Mae'r panel wedi gyfer am gopi o'r
contract ar gyfer yr arena. Cytunwyd i'w ddarparu ond
mae'n gyfrinachol gan fod gan
y cyngor Gytundeb Peidio â Datgelu â'r contractwr. • Wal werdd - Mae'r
cais am grant isadeiledd gwyrdd yn symud
yn ei flaen.
£5 miliwn ar gael i Gymru. Os bydd
yn llwyddiannus, bydd yn golygu
y gellid defnyddio mwy o blanhigion aeddfed nag a fwriadwyd
wrth blannu'r wal werdd. • Digidol - Dechreuwyd ar ymarfer caffael
ar gyfer darparwr band eang newydd. Teimlai'r Panel y dylid fod wedi
dechrau ar yr ymarfer hwn
yn gynt. Mae'r ceblau sy'n
cael eu gosod
yn eiddo i'r cyngor felly bydd yn cadw'r
gystadleuaeth i fynd ac yn caniatáu
i'r cyngor ddewis partner. • Gwesty - Cyflwynwyd prydles ddrafft i'r darparwr a ffefrir. Mae'r cyngor yn hyderus
bod digon o gyllid ar gael
am westy, ond maent yn aros
iddo gael ei orffen. Abertawe Ganolog
- Canolfan Sector Cyhoeddus • Canolfan Sector Cyhoeddus - Mae'r panel yn poeni y caiff pobl
o ardaloedd eraill yn Abertawe eu
symud i'r ganolfan hon. Fe'i hysbyswyd y byddai rhai yn symud,
ond y disgwylir deiliaid newydd posib hefyd. • Trafnidiaeth yng Nghanol y Ddinas - Gofynnodd y panel pryd y byddai'r uwch gynllun
yn cael ei
gwblhau. Dywedwyd nad oedd
yn hyn yn
hysbys. Nodwyd dan y risgiau efallai
na fyddai
digon o leoedd parcio ar gael.
Dyma risg allweddol ar gyfer
yr arena a'r ganolfan. Polisi cyffredinol y cyngor yw lleihau lleoedd
parcio a chreu cynllun trafnidiaeth cadarn. Bydd hwn
yn brawf go iawn. Bydd angen
cynllun teithio cadarn cyn y rhoddir
caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu.
Hoffai'r panel i Stuart
Davies ddod i gyfarfod o'r panel er mwyn iddynt
gael dealltwriaeth
o'r hyn a fwriedir mewn perthynas
â thrafnidiaeth. Isadeiledd Ffordd
y Brenin • Tirlunio gwyrdd - Rydym yn gwneud
cymaint â phosib er mwyn atal
pobl rhag mynd i mewn
i'r ardaloedd gwyrdd eto. • Mae pobl yn parcio
ar y palmant newydd gan nad oes unrhyw
gyrbau. Dylai cyflwyno mannau cyhoeddus helpu i atal parcio.
• Mae pryderon ynghylch traffig yn cronni
pan fydd gan Ffordd y Brenin un lôn i
bob cyfeiriad. • Mae nifer o leoedd wedi cael eu
hadeiladu ar hyd Ffordd y Brenin
rhag ofn y bydd cerbyd yn
torri i lawr
etc. • Cyfanswm cost y prosiect £12.7m. Mae'n bosib y bydd
hyn yn cynyddu
gan nad
oedd Dawnus wedi cywiro'r diffygion
cyn mynd i'r wal. Gobeithir
y bydd bond o £500 mil yn talu am y rhan
fwyaf o'r gwaith i atgyweirio'r
diffygion. Ar hyn o bryd, mae'r
prosiect o fewn y gyllideb ond mae'r
arian wrth
gefn yn debygol
o gael ei ddefnyddio. Byddai'r panel yn gwerthfawrogi gweld manylion y gost derfynol. Ffordd y Brenin
- Strategaeth a Phentref Digidol • Teimla'r panel ei bod yn bwysig bod gennym
gysylltiadau â Phrifysgol Abertawe. Nid yw'r
adran yn gweld unrhyw gystadleuaeth
â'r Hwb Technoleg
gan ei fod
ar raddfa wahanol. • Hoffai'r panel weld Banc Datblygu
Cymru'n ymwneud yn fwy â'r
ardal. Fodd bynnag, nid yw'n
rhad yn nhermau'r
cynigion y mae'n ei ddarparu. • Mae angen cyflwyno'r holl agweddau hyn
fel rhan o arolwg cyffredinol o'r ganolfan. Y Fargen Ddinesig • Cytunwyd i'r amodau
a thelerau. • Rhyddhawyd £18m i Gyngor Sir Gâr fel yr arweinydd.
Bydd Cyngor Abertawe'n derbyn ei gyfran o hyn
maes o law. Mae'r panel yn deall y bydd yr
arian yn
cael ei ryddhau'n
raddol dros 15 mlynedd ac nid mewn cyfandaliadau ymlaen llaw. Hyd
yma, ni
ryddhawyd unrhyw arian gan Abertawe.
• Mae trafodaethau rhanbarthol yn parhau ar
sut y caiff y £36m ei dderbyn dros
y 10 mlynedd nesaf. Sgwâr y Castell • Penodwyd Rheolwr Datblygu. • Mae trafodaethau'n parhau â CADW i sicrhau nad ydynt yn gwrthwynebu sut y mae'r cyngor
yn symud ymlaen. Felindre • Adolygu'r strategaeth marchnata. Adfywio Bae Abertawe • Nod y prosiect hwn yw
atgyfnerthu'r morglawdd. • Caiff yr orsaf
fysus ei hystyried fel rhan
o brosiect arfaethedig y morglawdd, oherwydd mae'n debygol na chawn unrhyw gyllid ar
gyfer gorsaf os na wneir
gwaith i atgyfnerthu'r morglawdd. Cyllid Allanol • Blaenoriaeth 4 y Gronfa Datblygu Rhanbarthol - Pryder ynghylch ariannu yn y dyfodol.
Bydd ymgynghoriad yn dod o
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru - "Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn
y Dyfodol", yn ystod mis Mawrth
2020 yn ôl pob tebyg. Defnyddir
hyn i ddyrannu
cyfran y cyngor o'r gronfa. Awgrymwyd
y dylai'r panel ystyried y canlynol. Camau Gweithredu: • Rheolwr Datblygu'r Prosiect i ddarparu'r
ffigurau (%) ar gyfer y darparwyr
lleol a ddefnyddir wrth i brosiect
Cam 1 Abertawe ddatblygu. • Darparu manylion y gost derfynol ar
gyfer Isadeiledd Ffordd y Brenin i'r panel. • Rheolwr Datblygu Eiddo i ddarparu'r
contract ar gyfer yr arena i'r panel. • Ychwanegu Cynllun Trafnidiaeth Canol y Ddinas at y Rhaglen Waith - cyfarfod 18 Mai 2020. • Dosbarthu ymgynghoriad Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru - "Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn y Dyfodol" i aelodau'r panel er gwybodaeth, pan fydd ar gael. |
|
Cyflwyniad: Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio - Unedau Preswyl Uwchben Siopau PDF 100 KB · Y Cyng. Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddiad, Adfywio a Thwristiaeth · Phil Holmes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas Cofnodion: Roedd
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Datblygu a Phennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yn bresennol
i gyflwyno trosolwg o'r Cynllun
Grant Byw Cynaliadwy, a ariennir trwy
Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru, ac i ddarparu
enghreifftiau o brosiectau sydd wedi'u cwblhau.
Pwyntiau i'w
trafod: • Arian grant
gwerth cyfanswm o £1.175m yn Abertawe dros
3 blynedd, rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2021 • Arian y
grant yw'r isafswm y mae ei angen er mwyn
i'r prosiect fynd rhagddo, hyd
at uchafswm o 40% o gostau cymwys y prosiect. Nid yw
hyn yn effeithio
ar y gyfradd rhent a chaiff eiddo eu rhentu
ar gyfraddau'r farchnad. Os caiff
yr eiddo ei werthu, mae'n
rhaid talu'r grant yn ôl yn
seiliedig ar amserlenni. • Bydd y cyngor yn
ceisio cynorthwyo mewn unrhyw ffordd
y gall. Yn ogystal â grant,
bydd yn ystyried
benthyciad ar yr eiddo. • Yn ogystal ag
yng nghanol y ddinas, mae cynllun
peilot ar waith ar Stryd
Woodfield, Treforys. • Mae'r cyngor yn
cynnal trafodaethau â'r Gweinidog ynghylch
Cronfa Trefi ar gyfer ardaloedd
pellennig ar gyfer siopau sydd
wedi cau etc. • Mae ambell un o'r
6 chynllun sydd i ddod ar
raddfa fwy. • Mae'r cyngor yn
hyrwyddo'r cynlluniau. Mae Partneriaeth Adfywio Abertawe yn cytuno
â'r cynlluniau. • Mae'r panel yn hapus iawn â'r cynllun hwn. Mae llawer o eiddo cymdeithasau tai yng nghanol y ddinas a bydd yr eiddo rhentu preifat hyn yn cydbwyso'r sefyllfa felly bydd cymysgedd da yng nghanol y ddinas. |
|
Cyflwyniad: Pentref Digidol - Dyluniadau a Chynlluniau PDF 266 KB · Y Cyng. Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd) · Phil Holmes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas · Gareth Hughes - Prif Reolwr Adfywio Ffisegol Cofnodion: Roedd Aelod
y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd) a'r Prif Reolwr Adfywio
Ffisegol yn bresennol i gyflwyno
trosolwg o Ailddatblygu 71
a 72 Ffordd y Brenin, sy'n brosiect Bargen Ddinesig Ranbarthol Abertawe. Pwyntiau i'w
trafod: • Mae'r panel yn teimlo bod angen i Iard Picton for yn rhan o'r
cynllun teithio a dylid cyfyngu'r mynediad ar gyfer
dosbarthu nwyddau i amserau penodol
er diogelwch. • Hoffai'r panel weld blaenau siopau ar yr
Iard ac ar y llwybr trwy Stryd
Rhydychen. • Bydd gan yr
adeilad mewnol mannau gwaith ac ardaloedd cyfarfod addasadwy fel ei
fod yn addas
ar gyfer cymysgedd o fusnesau o feintiau gwahanol. • Bydd cawodydd a chyfleusterau storio yn yr adeilad
ar gyfer beicwyr. • Mae gan y panel bryderon gan fod llawer
o swyddfeydd o safon yn cael eu
hadeiladu yn Abertawe. Bydd angen arian
i'w cynnal ac mae'n annhebygol y bydd digon o rent i dalu am y costau
cynnal yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Mae Aelod y Cabinet yn hyderus y bydd
digon o bobl yn barod i'w
rhentu er mwyn bwrw ymlaen
â'r prosiect hwn. • Nid yw lefel
bresennol y rhent yng nghanol y ddinas
yn fasnachol ddichonadwy. Rydym yn ceisio codi
hynny. Ar hyn o bryd, caiff
y bwlch ei lenwi gan arian y Fargen Ddinesig. • Dylid dyfarnu'r contract erbyn diwedd y flwyddyn hon. Amcangyfrifir cost o £30m ar gyfer y prosiect hwn. |
|
Cynllun Gwaith 2019/20 PDF 259 KB Cofnodion: Ystyriwyd y rhaglen
waith gan y panel. Camau Gweithredu: • Ychwanegu sesiwn friffio ar y Cynllun Teithio at gyfarfod 18 Mai 2020. |
|