Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 320 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Awst 31 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cynllun Gwaith 2019 - 2020 pdf eicon PDF 259 KB

Cofnodion:

 Ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel. 

 

Aildrefnwyd eitem y Pentref Digidol i'r cyfarfod ar 27 Ionawr 2020.

 

5.

Adroddiad dangosfwrdd pdf eicon PDF 210 KB

 

           Phil Holmes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas

 

           Huw Mowbray - Rheolwr Datblygu Eiddo

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

Rhoddodd Huw Mowbray, Rheolwr Datblygu Eiddo, ddiweddariad 'yn ôl eithriad' i'r Panel am y prosiectau adfywio yn Abertawe.

 

Cam 2

  • Gwaith yn datblygu
  • Prif gynllun wedi'i lunio
  • Edrych ar adroddiad cyflwyno maes o law

 

Ffordd y Brenin - Strategaeth a Phentref Digidol

  • Wedi symud un cylch yn ôl gan fod y Systemau Draenio Cynaliadwy newydd yn achosi problemau 
  • Symud ymlaen - dechrau trafodaethau gosod 
  • Angen edrych ar incwm a sicrhau tenantiaid masnachol mawr. Mae diddordeb cadarnhaol
  • Dylai gael ei orffen yn ystod chwarter cyntaf 2020

 

Marchnata Safleoedd Strategol

  • Chwilio am bartner datblygu mawr
  • Bydd buddsoddiad ym mhrosiect yr arena'n gweithredu fel ysgogydd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol

 

Arall

  • Sgwâr y Castell - dylai fod gennym wybodaeth am gynlluniau yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf
  • Theatr y Palace - wedi sicrhau grant gwerth £4.9m gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Gobeithio agor yn 2022/2023
  • Skyline - angen penderfynu'n swyddogol a fydd yn croesi Afon Tawe.
  • Adleoli safle Parcio a Theithio Glandŵr - edrych ar opsiynau amrywiol.

 

6.

Craffu Cyn Penderfynu: Cam 1 Abertawe Ganolog - Adroddiad Cyflwyno Terfynol pdf eicon PDF 204 KB

a)  Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

b)  Barn y panel i'r Cabinet

 

Dolen i Bapurau’r Cabinet:

 

https://democracy.swansea.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=124&MId=8585&Ver=4&LLL=1

 

 

Mynychu i drafod:

 

·         Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd)

·         Phil Holmes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas

·         Huw Mowbray - Rheolwr Datblygu Eiddo

 

 

Cofnodion:

Daeth Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd), Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a swyddogion allweddol i'r cyfarfod i gyflwyno Adroddiad Cyflwyno Cam 1 Abertawe Ganolog a'i drafod.

 

Yn seiliedig ar ein trafodaeth, cytunodd y panel i gyfleu ei farn a'i argymhellion i fynd i'r Cabinet.

 

Amlinellodd y panel y materion canlynol:

 

  1. Mae'r panel yn cydnabod yr adroddiadau manwl a'r wybodaeth helaeth sydd ynddynt. Yn anffodus, nid oedd gan y panel ddigon o amser i'w hastudio'n fanwl iawn. Mae'r panel hefyd yn gwerthfawrogi presenoldeb a mewnbwn Arweinydd y Cyngor, Aelodau'r Cabinet a'r swyddogion allweddol a oedd yn rhan o broses paratoi'r adroddiadau a chyflwyno'r prosiect.
  2. Mae'r panel yn nodi cwmpas y datblygiad arfaethedig ac yn cydnabod bod angen adfywio canol y ddinas fel rhan o'r cynllun ar gyfer yr ardal amgylchynol. Mae'r panel yn croesawu cynigion i lasu canol y ddinas a'r ffocws ar bwysigrwydd annog bioamrywiaeth fel rhan o'r datblygiad.
  3. Mae graddfa'r buddsoddiad cyfalaf a gynigir can y cyngor yn sylweddol. Mae'n swm mawr iawn o arian i'w fenthyca, ac mae dulliau ad-dalu'n gyfyngedig. Mae'r panel yn gwerthfawrogi'r eglurhad a roddwyd gan y swyddogion mewn perthynas â fforddadwyedd y prosiect. Fodd bynnag, mae'r panel yn nodi ei bod hi'n anochel y bydd gwario arian cyhoeddus yn golygu y bydd gan drethdalwyr y ddinas fudd sylweddol yn llwyddiant y prosiect oherwydd gallai'r effaith ar gyfrif refeniw'r cyngor olygu bod adnoddau'n cael eu defnyddio at ddibenion benthyca yn hytrach nag ar gyfer ei wasanaethau craidd. Felly, mae'r panel yn croesawu'r manylion a ddarparwyd ar ddatblygu ffrydiau incwm amrywiol a fydd, gobeithio, yn cael effaith gadarnhaol ar liniaru effaith y pwysau ariannol yn y dyfodol. Dros y 6 blynedd nesaf, caiff yr effaith ar refeniw ei chydbwyso gan y gronfa gwariant cyfalaf sydd wedi'i chynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

  • Bydd Cynullydd y Panel yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 21 Tachwedd 2019 i amlinellu barn y Panel a chaiff llythyr ei anfon at Aelod y Cabinet.

 

 

7.

Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 235 KB

Cofnodion:

Pleidleisiodd y Panel a chytunodd i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod eitem 9, am ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig. Paragraff 14 yw'r paragraff perthnasol ym mhrawf budd y cyhoedd.

 

8.

Craffu Cyn Penderfynu: Cam 1 Abertawe Ganolog - Adroddiad Cyflwyno Terfynol

a)   Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

b)   Barn y panel i'r Cabinet

 

Mynychu i drafod:

 

·         Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd)

·         Phil Holmes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas

·         Huw Mowbray - Rheolwr Datblygu Eiddo

 

 

 

Cofnodion:

 Parhaodd y Panel â'r drafodaeth am yr adroddiad yn ystod sesiwn gaeëdig.

 

Caiff barn ac argymhellion y Panel eu trafod yng nghyfarfod y Cabinet ar 21 Tachwedd 2019 a chaiff llythyr ei anfon at Aelod y Cabinet.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 357 KB