Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 636292
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
2. |
Cofnodion PDF 108 KB
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
3. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
·
Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan
agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
|
4. |
Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect
·
Huw Mowbray - Gwasanaeth
Adfywio Economaidd A Chynllunio
Cyfle i’r panel dderbyn diweddariad am amrywiaeth o brosiectau adfywio
Cofnodion:
- Aed â'r panel
drwy'r adroddiad dangosfwrdd
- Mae'r adroddiad hwn ar gyfer
y Grŵp Llywio a Bwrdd y Rhaglen at ddiben cynorthwyo wrth fonitro prosiectau
- Nid yw llif yr
wybodaeth ar y pwynt hwn wedi bod yn hawdd
- Bydd angen mewnbwn ariannol
gan y swyddog perthnasol
- Mae Cam 1 yn mynd
rhagddo - nid yw pob rhan o Gam 1
yn rhan o'r Fargen Ddinesig
- Mae manylion yr
arena ddigidol yn cael eu datblygu
- Mae angen i'r
gwesty fod yn un 3* i ddenu arian grant
- Mae arolygon yn
cael eu cynnal i edrych ar faterion 'hawl i oleuo' a allai god.
- Nid yw'r holl
brosiectau'n rhai'r Fargen Ddinesig
- Mae rhai
prosiectau'n gymysgedd o arian y Fargen Ddinesig ac arian arall - teimlwyd
y gallai hyn fod yn ariannol gymhleth
Cwestiynau
- Beth yw'r cynllun
wrth gefn os na lwyddir i gael gwesty 4*?
- Mae'n debygol na
chaiff gwesty ei adeiladu
- Mae trafodaeth
barhaus ynghylch amodau grant
- Mae rhai problemau
amseru posib, ac yn ddelfrydol mae angen adeiladu'r arena a'r gwesty ar yr
un pryd.
- Beth yw'r gyllideb
gyfalaf ymrwymedig?
- £124m gan gynnwys
adeiladu, arian wrth gefn a ffïoedd ond nid yw'r
ffigur terfynol wedi'i bennu eto
- Mae Cyngor Abertawe'n benthyca swm mawr
- Llunnir adroddiad
â'r holl gostau terfynol fel y gellir penderfynu ar fenthyca
- Daw'r gyllideb o'r
gronfa refeniw a hon fydd yr ased cyfalaf yn y pen draw
- Mae hyn yn rhoi
pwysau ar y gyllideb refeniw
- Mae peth o'r arian
yn fenthyciad gwerth £6.8m gan Lywodraeth Cymru sy'n daladwy dros 20
mlynedd ar ôl i'r arena gael ei hadeiladu. Mae’n ddi-log a chaiff y
taliadau cyntaf eu gohirio nes agoriad yr arena
- Yr unig swm cyfalaf
yw £1.5m ar gyfer gwaith cynnar
- Daw'r prif gyfalaf
unwaith y ceir y ffigurau terfynol o ran costau
- I adeiladu gwesty
4*, a ydym yn prydlesu i gwmni gwestai
- Bydd datblygwr yn contractio
i Gyngor Abertawe ac yna’n rhoi ei ryddfraint i'r cwmni perthnasol
- Bydd Croeso Cymru'n
rhoi'r grant i'r datblygwr, nid y cyngor
- O gofio bod gwaith
yn mynd rhagddo yn yr ardal, sut beth fydd y siâp mewnol?
- Mae'r siâp mewnol
yn hyblyg a gall fod fformatiau gwahanol iddo
- Mae lle i uchafswm
o 3,500 o bobl
- Gellir sicrhau lle
hefyd ar gyfer cynadleddau ac ystafelloedd cyfarfod gydag ardaloedd VIP
- Os cynhelir
ymgynghoriad parhaus â phobl leol, pa mor aml fyddwn ni'n cwrdd â phobl a
busnesau?
- Dyma un o'r
prosiectau cyntaf yng Nghymru i fynd drwy'r broses gynllunio newydd y mae
angen ymgynghori'n fwy helaeth yn ei chylch.
- Cynhelir
cyfarfodydd rheolaidd a pharhaus, weithiau'n
fisol, â'r busnesau y mae hyn yn effeithio arnynt
- Mae lle i 3,500 o
bobl yn ymddangos yn gymedrol ar gyfer cyngerdd bop.
- Dywedwyd bod y
diwydiant arenâu'n newid ac mae pobl am fynd i gyngherddau llai
- Mae’r grym
bargeinio yn nwylo ATG, gweithredwyr yr arena
- Gwnaed llawer o
ymchwil i'r farchnad ymlaen llaw
- Mae ATG yn ymrwymo
i brydles 30 mlynedd
- Mae'r brifysgol yn
awyddus i ddenu cynadleddau addysgol ynghyd â'r diwydiant technoleg
- Mae'n faes
cystadleuol
- A yw'r cynllun
busnes wedi'i gymeradwyo - roedd hyn fod i ddigwydd ym mis Mehefin?
- Dim eto
- Cyngor Abertawe sy'n
talu am isadeiledd Ffordd y Brenin a grant gan WEFO
- Cafwyd peth
problemau gyda chontractwyr ond mae'r rhain wedi'u datrys a chynhelir
cyfarfodydd misol ac ymgynghoriadau â phreswylwyr
- Mae'r gwaith ar
Ffordd y Brenin wedi'i rannu'n gamau - a yw'r holl brosiectau hyn yn
gweithio gyda'i gilydd?
- Mae'r gwaith yn
cael ei fonitro'n ddyddiol i liniaru unrhyw broblemau
- Bydd tarfu gan ei
fod yn waith sylweddol
- Mae rheoli'r
lleoedd caeedig yn bwysig
- A oes diddordeb
mewn llenwi lleoedd ar Ffordd y Brenin?
- Os na fyddwn yn ei
datblygu, bydd yn aros yn wag
- Mae datblygwyr yn
prynu llawer o eiddo
- Ni fydd byth yn
ardal fanwerthu eto
- Ystyrir manteisio
ar ddatblygwyr preifat a siopau annibynnol
- Mae gan Abertawe
lefelau GVA isel
- Rydym yn gobeithio
creu incwm, gyda swyddi uwch-dechnoleg
- Cyhyd ân bod ar
darged, dylem barhau â'r cynllun, ac mae angen i ni sicrhau bod yr
awdurdod yn cefnogi siopau bach
- Nid oes digon o
bobl yn gweithio ac yn byw yng nghanol y ddinas, a'r gobaith yw y bydd hyn
yn newid
- Mae gormod o fyfyrwyr
yng nghanol y ddinas
- Beth yw'r
'strategaeth chwarae' ac ym mhle y bydd hi?
- Mabwysiadodd y
cyngor y polisi chwarae a'r cymeriad yw Dilly'r
Ddraig
- Bydd llwybrau
chwarae ledled canol y ddinas
- Mae'r prosiect
CUIDAR yn edrych ar sut mae angen cynnwys plant a phobl ifanc pan fydd
pethau'n mynd o'i le e.e. lleoliadau risg uchel. Dylai'r math hwn o
gynllunio mewn argyfwng gael ei ystyried
- Bydd y tîm yn dilyn
trywydd hyn (anfonwyd dolenni)
- Beth yn union yw
sgwâr digidol?
- Y sgwâr digidol
yw’r arena a'r ardal gyhoeddus o'i chwmpas
- Y Pentref Digidol
yw lle swyddfa Ffordd y Brenin
- Mae gan Abertawe
hanes cryf o greu busnesau ond hanes gwael o'u cadw
- Beth yw'r
cynlluniau ar gyfer yr arcêd yn y dref?
- Hoffai'r cyngor
weld mwy o ymwelwyr a newidiadau i fynediad i mewn ac allan o'r arcêd i
greu gwell cysylltiadau
- Beth yw effaith
colli'r prosiect 5?
- Collwyd i ardaloedd
mwy datblygedig ond roedd y cais yn dda
- Rydym eisoes yn
edrych ar gynigion eraill ond llwyddodd i godi proffil Abertawe
- Beth yw lefel
deiliadaeth yr adeiladau ar Ffordd y Brenin?
- Mae angen gosod 50%
cyn i ni symud ymlaen
- Mae deiliaid posib
- Beth yw'r broses ar
gyfer y cytundeb busnes wedi iddo gael ei gymeradwyo?
- Disgwylir adborth
gan y Llywodraeth ym mis Hydref
- Mae grŵp
sector cyhoeddus a grŵp sector preifat
- Bydd y grŵp
sector preifat yn dadansoddi'r prosiectau yna'r grŵp sector cyhoeddus
- Ymddengys fod arian
y Fargen Ddinesig yn eilradd
- Mae'r cyngor wedi
gorfod benthyca ymlaen llaw a thelir yr arian yn ôl wrth iddo ddod i mewn
dros y 15 mlynedd nesaf
- Arian cam cyntaf
sydd ar gyfer Prosiect Abertawe
- Bydd y Llywodraeth
yn rhoi gwerth tua £36m o gyllid ar gyfer y Fargen Ddinesig dros y 15
mlynedd nesaf a'r awdurdod lleol yn rhoi tua £76m. Bydd prosiectau eraill
yn ogystal â hyn, a bydd angen eglurhad ynghylch hyn.
Gwybodaeth arall
- Mae peth problemau
llifogydd a draenio ar afon Tawe ar hyn o bryd - mae hyn yn cael ei
adolygu
- Yr unig arian sydd
wedi'i awdurdodi ar gyfer Sgwâr y Castell yw £50 mil ar gyfer astudiaethau
dichonoldeb, yna aiff unrhyw gynnig gerbron y Cabinet
- Bwriedir edrych ar
y mannau lle ceir tagfeydd o gwmpas y ddinas - Dyfaty
a Ffordd Fabian
- Nid yw timau'r
prosiectau sy'n ymdrin â'r gwaith hwn yn ddigon mawr ac maent yn
gweithio'n hynod galed
|
5. |
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 57 KB
Cofnodion:
·
Cadw'r
cynllun gwaith fel y mae
·
Gwahodd
aelodau perthnasol o'r Cabinet i bob sesiwn
·
Y
potensial ar gyfer y cynllun gwaith i fod yn hyblyg wrth symud ymlaen
|