Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Cadarnhau Cynullydd Cofnodion: Cadarnhawyd y Cynghorydd Chris Holley fel Cynullydd y Panel Datblygu ac Adfywio ar gyfer 2023-24. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a
chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol
dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth.
Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes
digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar
ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin
â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Derbyniwyd y
cwestiynau canlynol gan aelodau'r cyhoedd ac ymatebodd Lee Richards. Cwestiwn 1 - Yng
nghyfarfod y Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio ar 20 Mawrth roedd
cyfeiriad at 'ymateb cadarnhaol' yn y cyfarfodydd ymgynghori. Nid yw hyn yn sôn
am wrthwynebiad sylweddol mewn cyfarfodydd. A all yr agwedd hon gael ei
chrybwyll? YMATEB - "Mae
cefnogaeth eithaf sylweddol i'r cynllun ac i'r holl gynlluniau, bydd rhywfaint
o wrthwynebiad. Ond ymholiadau yn bennaf oedd y sylwadau gwrthwynebol a
ddarparwyd. Darparwyd yr wybodaeth hon i ni gan Skyline gan nad y cyngor
yw'r datblygwr yn yr achos hwn. Dim ond i atgoffa pawb mai'r cyfan rydym ni'n
ei wneud yw galluogi a rhentu'r tir i Skyline. Felly, mae'r wybodaeth y maent
wedi'i darparu a'r wybodaeth hon yn rhan o'u pecyn sef yr ymgynghoriad cyn
cyflwyno cais. Mae'n cefnogi eu cais cynllunio, sy'n rhestru'r holl gwestiynau
a godwyd yn ystod y cyfarfod a'r atebion fel rhan o'r digwyddiad ymgynghori.
Roedd nifer o'r cwestiynau yn ymwneud â phethau fel beth yw'r prisiau a fydd yn
berthnasol i'r cynllun, a chwestiynau ar fynediad ac ecoleg. Felly, dyna oedd y
prif gwestiynau a ofynnwyd gan y gwahanol bartïon a oedd yn bresennol yn y
digwyddiad." Cwestiwn 2 -
Dywedwyd wrthym yn yr ymgynghoriad bod y tocyn blynyddol a grybwyllwyd ar gyfer
preswylwyr Abertawe yn berthnasol i daith gondola yn unig (a dyma’r hyn rwyf
wedi ei weld yn cael ei hysbysebu). Nid oedd y prisiau ar gyfer 'atyniadau'
eraill wedi'u pennu eto. A ellir gwneud hyn yn glir ar lefel graffu? YMATEB - "Mae
datganiad a ddarperir gan Skyline yn darllen - mae cynllun prisio yn cael ei
ddatblygu ar hyn o bryd gyda'r bwriad o sicrhau y bydd pawb yn gallu mwynhau
gwahanol agweddau ar yr atyniad. Er eu bod yn gweithio ar hwn ar hyn o bryd,
maen nhw'n gobeithio gallu ei gyhoeddi a'i rannu â phawb yn fuan." Cwestiwn 3 - Mae
datganiadau i'r wasg yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £4 miliwn yn
hytrach na £3 miliwn i'r cynllun. YMATEB - "£4
miliwn ydyw mewn gwirionedd ac mae hynny wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru -
o'r £4 miliwn, mae £3 miliwn ohono yn arian grant ac mae £1 miliwn ohono’n
fenthyciad". |
|
Y diweddaraf am Arena Abertawe PDF 237 KB Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth Lee Richards – Arweinydd Tîm Canol y Ddinas Lisa Mart – Cyfarwyddwr Lleoliad Arena Abertawe Cofnodion: Roedd Robert
Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a
Thwristiaeth, swyddogion a Lisa Mart o Arena Abertawe yn bresennol i drafod yr
eitem. Gwnaed y pwyntiau canlynol - ·
Mae'r
Arena wedi perfformio'n well na'r disgwyl ac wedi cyflawni lefel ddeiliadaeth o
78.9%, sy'n fwy na'r amcanestyniad o 65% yn y flwyddyn gyntaf. ·
Gwerthwyd
241,000 o docynnau ar gyfer digwyddiadau a chafwyd 74 o berfformiadau ym
mlwyddyn un sy'n gyson neu'n uwch na lleoliadau mwy sefydledig eraill o faint
tebyg. Er bod hyn yn llai na'r hyn a nodwyd yn y cynllun busnes, mae ffigurau
deiliadaeth wedi bod yn uwch felly mae refeniw wedi cyfartaleddu. ·
Mae
hyblygrwydd y lleoliad a chyflymder y newid drosodd rhwng perfformiadau wedi
bod yn ased. ·
Cafwyd
adborth cadarnhaol yn benodol ynghylch digwyddiadau cerddoriaeth, sain a
chyfleusterau cefn y tŷ. ·
Mae'r
heriau yn ystod y flwyddyn gyntaf wedi cynnwys costau cyfleustodau, rhwystrau
bach, ymgyfarwyddo â thechnoleg/gweithrediad y lleoliad. ·
Mae'r
gwasanaeth bar a threfniadau gadael y maes parcio wedi'u gwella ar ôl derbyn
adborth, ond, yn gyffredinol, mae nifer y cwynion wedi bod yn isel. ·
Mae'r
Arena yn gweithio mewn cydlyniant â lleoliadau lleol eraill ac mae ganddi
berthynas gref gyda hwy, gan gynnwys Neuadd Albert, sy'n agor cyn bo hir. ·
Mae
perfformwyr wedi rhoi adborth cadarnhaol gyda rhai perfformwyr yn dychwelyd. ·
Telir
rhent i'r cyngor a thâl gwasanaeth ar gyfer Bae Copr yn ogystal â chyfran o
werthiant y tocynnau ac elw o lolfeydd VIP. Mae hyn cyn rhannu'r elw maes o
law. ·
Mae'r
Arena wedi chwarae rôl allweddol wrth ddenu datblygwyr eraill i Abertawe. |
|
Adroddiad Monitro Rhaglenni/Prosiectau Adfywio PDF 203 KB Y Cynghorydd Robert Francis-Davies
– Aelod y
Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth Phillip Holmes - Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas Huw Mowbray
– Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisego Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr
adroddiad diweddaraf ar raglen/prosiectau adfywio i'r Panel. Rhoddodd
swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol: Bae Copr: ·
Mae
cynnydd yn cael ei wneud i gwblhau'r gwaith. ·
Bydd
y gwaith o baentio'r gwaith dur wedi'i gwblhau erbyn diwedd 2023. ·
Mae
unedau masnachol yn agos at eu cwblhau. Mae diddordeb mawr wedi bod mewn gosod
y rhain. Adfywio
Abertawe ·
Mae Urban Splash yn datblygu'r uwchgynllun yn St Thomas. ·
Yn yr
Hafod mae Urban Splash wedi
penodi penseiri i edrych ar yr uwchgynllun mewn
partneriaeth â Chyngor Abertawe. ·
Mae
ceisiadau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn aros am ganlyniadau yn fuan
ac mae Comisiwn Dylunio Cymru wedi bod yn ymgysylltu â nhw. Gogledd
Abertawe Ganolog ·
Cafwyd
ymgysylltu cadarnhaol â thenantiaid ar gyfer y swyddfeydd 350,000 troedfedd a
cham 1 y dyluniadau sydd wedi'u cwblhau. ·
Mae
cynnydd yn cael ei wneud gan gynnwys cynnal cyfarfodydd gyda chyllidwyr. 71-72 Ffordd y
Brenin ·
Mae'r
adeilad wedi cyrraedd lefel y 4ydd llawr a disgwylir iddo gael ei gwblhau'n
brydlon. ·
Mae
diddordeb gan ddarpar breswylwyr. ·
Mae
adeilad Barclays cyfagos yn debygol o gael ei
farchnata i'r sector preifat. ·
Bydd
hyn yn ategu'r datblygiad bioffilig Hacer
cyfagos. ·
Mae
cyfleusterau parcio beiciau a gwefru beiciau trydan wedi'u cynnwys yn y gwaith
adeiladu. ·
Mae
trafodaethau'n cael eu cynnal ynglŷn â mynedfa ochr i mewn i Arcêd Picton. Sgwâr y
Castell ·
Mae
tendrau contract yn cael eu dadansoddi a disgwylir i'r gwaith ddechrau ar y
safle yn gynnar yn 2024. ·
Cafwyd
arian gan Gyngor Abertawe ynghyd â Grant Llywodraeth Cymru drwy Drawsnewid
Trefi. Skyline ·
Mae'r
cyngor yn aros am ganlyniad cofrestru tir ac mae Skyline
yn paratoi ar gyfer y cais cynllunio. Ailddatblygu
Pwerdy Gwaith Copr yr Hafod ·
Mae
hyn wedi'i gyflawni ac mae'r agoriad swyddogol ar fin digwydd. Theatr y Palace ·
Mae'r
datblygiad sector preifat hwn yn mynd rhagddo. Cronfa Codi'r
Gwastad – Cwm Tawe Isaf ·
Mae
adroddiad diweddar Colliers yn dangos bod gan
Abertawe botensial ar gyfer dros 300 o ystafelloedd gwestai. Mae diddordeb gan
weithredwyr gwestai hefyd. ·
Amcangyfrifir
y bydd y gwaith ar adeilad y labordy yn dechrau yr haf hwn. |
|
Adolygiad Blynyddol PDF 251 KB Adolygiad o eitemau o fewn Cynllun Gwaith 2022-23. Cofnodion: Nododd y Panel y
dogfennau adolygu blynyddol. |
|
Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd wrth y Panel am uno posib y Panel Craffu Perfformiad Gwella
Gwasanaethau a Chyllid a'r Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio. Caiff
hwn ei gynnig yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 18 Gorffennaf
ac os cytunir arno dyma fydd cyfarfod olaf y Panel Craffu Perfformiad Datblygu
ac Adfywio. Daeth y cyfarfod
i ben am 3.36pm |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth PDF 191 KB |