Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·          Y Cynghorydd Mary Jones - merch yn fydwraig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

·         Y Cynghorydd Jeff Jones - merch yn fydwraig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

·         Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams - Aelod o gynghorau cymuned Y Crwys a Chilâ Uchaf

·         Y Cynghorydd Peter Jones - Aelod o Dasglu 'Gweithio gyda Natur'

·         Martyn Waygood - Barnwr yn y Siambr Hawliadau Cymdeithasol a'i ferch yn gweithio fel gweithiwr cyfreithiol gyda Coastal Housing.

·         Y Cynghorydd Terry Hennegan - Aelod o Dîm Rheoli Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

·         Dim

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 113 KB

·         Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

 

5.

Adolygiad o'r Strwythur Llywodraethu Newydd pdf eicon PDF 102 KB

Cyfle i’r panel gyfrannu syniadau ac arsylwadau

 

·         Clive Lloyd – Trawsnewid Busnes a PherfformiadYn agor mewn ffenest newydd

·         Suzy Richards – Swyddog PolisÏau Cynaliadwyedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Mae'r adolygiad wedi dod i ben a bydd y strwythur â mwy o ffocws wrth symud ymlaen
  • Bydd nifer bach o bobl yn bresennol yn y cyfarfodydd partneriaeth
  • Mae'r Athro Andrew Davies wedi camu lawr fel Cadeirydd oherwydd ymddeoliad
  • Cadeirydd Cyngor Abertawe ac Is-gadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Ffocws ar weithgorau yn yr adroddiad blynyddol a defnyddio'r strwythur llywodraethu newydd i sicrhau bod y gweithgorau'n cael eu cyflwyno
  • Dim sôn am Aelodau Etholedig yn yr adran 'Partneriaid Eraill'
  • Bydd y Cadeirydd yn penodi arolygydd annibynnol os bydd anghydfodau yn codi
  • Mae deddfwriaeth yn ceisio cynnwys Cynghorau Cymuned yn y BGC
  • Trafod ag 'Un Llais Cymru' mewn perthynas â chynghorau cymuned
  • Mae'r strwythur llywodraethu newydd yn caniatáu cydweithrediad â mwy o ffocws - mae gan grwpiau ffocws ganlyniadau penodol fel eu bod yn fwy effeithiol
  • Mae'r strwythur newydd yn cael ei arwain gan gam gweithredu o bob maes amcan sydd ag arweiniad clir ac atebolrwydd am fod yr aelodau statudol yn gyfrifol am y canlyniadau
  • Mae'r camau gweithredu wedi'u nodi yn y cynlluniau gwaith o dan y camau - mae pob grŵp yn gweithio ar ei gynlluniau gweithredu
  • Bydd y camau gweithredu'n rhan o’r cyfarfodydd nesaf
  • Mae trafodaethau ar waith er mwyn hysbysebu cyfarfodydd
  • Dylai pob partner rannu gwybodaeth drwy ei strategaethau a'i sianeli cyfathrebu ei hunan
  • Cyfleoedd i ehangu cyfathrebu ym mhob cymuned, yn enwedig grwpiau gwirfoddol
  • Am i egwyddorion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gael eu gwreiddio ym mhopeth
  • Dylai'r BGC sicrhau bod amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth wraidd popeth y maent yn ei wneud
  • Mae'r gwaith yn seiliedig ar ewyllys da ac ychwanegu gwerth
  • Am gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â chynnydd yn cael ei fwydo yn ôl i'r panel
  • Aros am arweinydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Mae'r diben yn ymwneud â chyflwyno gwasanaeth ond mae hefyd yn cynnwys 'sut' y cyflwynir gwaith a'r cynnydd tymor hir
  • Nid yw'r pum ffordd o weithio'n cael eu trafod yn fanwl mewn perthynas â dibenion cylch gorchwyl BGC (adlewyrchu deddfwriaeth). Fodd bynnag gellid gwella'r cylch gorchwyl drwy fanylu ar y pum ffordd o weithio gan gynnwys cydweithio.

 

6.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer 2018/19 - Power Point pdf eicon PDF 102 KB

Cyfle i’r panel gyfrannu syniadau ac arsylwadau

 

  • Clive Lloyd – Trawsnewid Busnes a PherfformiadYn agor mewn ffenest newydd
  • Suzy Richards – Swyddog PolisÏau Cynaliadwyedd

 

Cofnodion:

  • Dylai'r strwythur llywodraethu fod yn gatalydd ar gyfer cyflwyno gweithgorau
  • Mae'r ffocws ar arweinwyr a ddylai darparu camau gweithredu trawsbynciol a gwybodaeth
  • Rhai dangosyddion megis gordewdra plant, digartrefedd, ansawdd aer etc.
  • Wedi edrych ar le'r oedd adborth yn gorgyffwrdd er mwyn dangos lles a chanlyniadau - bydd yr ymchwilydd yn datblygu canlyniadau mwy manwl ar gyfer y dangosyddion
  • Y Blynyddoedd Cynnar - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae Jig-So a SKIP wedi bod yn llwyddiannus o fewn y 1000 o ddiwrnodau cyntaf.
  • Byw'n Dda Heneiddio'n Dda - Cyngor Abertawe. Sgwrs rhwng y cenedlaethau ynghylch Atal Cwympiadau, Dinas sy'n Ystyriol o Oed wedi'i chynnal
  • Gweithio gyda Natur - CNC. Plannu coed yn y ddinas, pecyn cymorth man gwyrdd, datblygu strategaeth isadeiledd gwyrdd
  • Cymunedau Cryf - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Coastal wedi cynnig hwb cymunedol yn ardal Mount Pleasant, Clase 4 All, gwella cyfleusterau yn y Clâs
  • Mae Abertawe'n gweithio tuag at fod y ddinas gyntaf yng Nghymru i lofnodi datganiad ar gyfer Hawliau Dynol
  • Mae pawb yn rhan o gyflwyno amcanion - dylai'r strwythur newydd gryfhau amcanion
  • Yr angen am fodloni perfformiad a chanlyniadau
  • Nid yw caledi'n helpu'r cynnydd a'r ymchwil wrth ddatblygu'r camau gweithredu
  • Prosiect Biophillic Wales Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - ffocws ar wella ardaloedd o gwmpas adeiladau'r bwrdd iechyd. Adborth arloesol a chyffrous

 

7.

Adolygiad Diwedd Blwyddyn pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

·         Mwy o ffocws ar gyfeiriad teithio

·         Cyfarfod gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi mynd yn dda iawn

·         Am weld y cynlluniau gweithredu a'r canlyniadau

 

8.

Cynllun Gwaith 2019/20 pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

  • 2 gyfarfod ar ôl cyn diwedd y flwyddyn
  • Am weld cynlluniau gweithredu'n gysylltiedig â phob gweithgor
  • Byw'n Dda Heneiddio'n Dda a Gweithio gyda Natur yn yr un cyfarfod
  • Y Blynyddoedd Cynnar a Chymunedau'n Gryfach yn yr un cyfarfod
  • Posibilrwydd y bydd cyfarfod ychwanegol os oes angen

 

Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 566 KB