Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Dim

3.

Nodiadau, Llythyr y Cynullydd ac Ymateb pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd

4.

Ymgynghoriad ar y Cynllun Lles drafft pdf eicon PDF 143 KB

Penny Gruffydd – Swyddog PolisÏau Cynaliadwyedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

·         Cyhoeddwyd y cynllun lles drafft ar gyfer ymgynghoriad ar 21 Tachwedd 2017.

·         Cynhaliwyd gweithdai ym mis Mehefin a mis Gorffennaf a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol gwahanol.

·         Datblygwyd 10 thema yn gychwynnol, a'r canlyniad oedd 4 amcan drafft.

·         Dwy thema a ddiystyrwyd oedd tai a'r Fargen Ddinesig. Er eu bod yn hanfodol i'r nodau lles, y teimlad oedd bydd y meysydd hyn yn cynnig llai o gyfle ar gyfer gweithredu ar y cyd.  Ystyriwyd tai fel thema a fyddai'n cael ei hadlewyrchu yn yr amcanion eraill ac sydd â deddfwriaeth sylweddol a fydd yn gofyn am gamau gweithredu gan sefydliadau unigol penodol. Mae gan y Fargen Ddinesig raglen gyflawni glir a strwythur llywodraethu. 

·         Roedd gofyniad statudol 14 wythnos gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol rhwng mis Mehefin a mis Hydref ac ystyriwyd yr adborth o hyn.

·         Nid oes gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus grŵp cynnwys ac felly gofynnwyd i'r partneriaid sydd ynghlwm gynnwys eu defnyddwyr gwasanaeth/y cyhoedd drwy eu dulliau presennol i gasglu adborth.

·         Bydd yr wybodaeth hon yn dod yn ôl am ddadansoddiad ar ôl 14 Chwefror a chaiff y cynllun terfynol ei gymeradwyo gan y 4 aelod craidd a'r bartneriaeth cyn iddo gael ei gyhoeddi.

·         Datblygir proses ar hyn o bryd i ymateb i'r sylwadau a fydd yn cael eu hadrodd yn ôl, ac i ymdrin â hwy.

·         Dywedodd y panel fod y penderfyniad i gael gwared ar dai fel amcan yn peri dryswch. Mae tai yn bwnc sy'n gyffredin yn yr holl themâu ac mae stoc y cyngor yn rhan fach yn unig. Mae camau gweithredu ar y cyd mewn perthynas â holl feysydd tai, gan gynnwys rhentu preifat, addasrwydd llety, amgylcheddau tai, etc. 

·         Cafwyd sylwadau am y ffaith nad oes llawer o sôn am gamau gweithredu yn y cynllun drafft - neb yn cymryd cyfrifoldeb dros y gweithgareddau.

·         Mae angen cysylltu gwelliannau o ran ansawdd aer â'r prosesau cynllunio, isadeiledd ac argaeledd cludiant cyhoeddus addas.

·         Datblygir 'sut', h.y. y cynllun gweithredu, fel rhan o'r cyfnod ymgynghori. Bydd angen datblygu cynllun gweithredu manwl ar ôl i'r cynllun lles gael ei gyhoeddi, gan amlinellu sut cyflawnir y camau gweithredu yn ogystal â rôl a chyfrifoldeb pob aelod o'r bartneriaeth wrth gyflawni'r amcanion. 

·         Dylid crybwyll camau gweithredu yn y gymuned yn fwy yn ogystal ag annog cymdogion i ddod i adnabod ei gilydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned er mwyn atal unigrwydd.

·         Mae angen i bob sefydliad gyfranogi yn y broses ymgynghori mewn perthynas â'r cynllun lles drafft. Mae angen iddynt ddosbarthu'r papur a chasglu adborth, ond nid oes adnoddau i sicrhau bod hyn yn digwydd.

·         Unwaith y datblygir y cynllun gweithredu o ganlyniad i'r broses ymgynghori, mae angen rhoi mesurau a phrosesau monitro ar waith i sicrhau bod y camau gweithredu'n mynd rhagddynt ac yn cyflawni canlyniadau o safon.

 

 

5.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

·         Tynnir canol y ddinas o'r cyfarfod ar 14 Chwefror 2018 oherwydd bod paneli eraill yn ei ystyried.

·         Bydd yr adolygiad o'r cynllun lles drafft terfynol yn dod gerbron y panel ar gyfer craffu ym mis Ebrill 2018.

 

Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 110 KB

Ymateb Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 138 KB