Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Swyddog Craffu - 07980757686 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Cadarnhau Cynullydd y Panel

Cofnodion:

Cadarnhawyd y Cynghorydd Chris Holley fel Cynullydd y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid

6.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

7.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd

pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

8.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 289 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid a gynhaliwyd ar 10 Mai 2021, yn gofnod cywir. 

9.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

10.

Trosolwg: Deall Adrodd am Gyllid

Cofnodion:

Derbyniodd y panel drosolwg gan y Prif Swyddog Ariannol, a oedd yn canolbwyntio ar ddeall a dehongli adroddiadau ariannol y cyngor. Roedd hyn yn cynnwys crynodeb byr o'r terminoleg ariannol a'r cysyniadau a ddefnyddiwyd drwy gydol adroddiadau cyffredinol.

11.

Alldro Refeniw, Alldro'r Cyfrif Refeniw Tai ac Alldro a Chyllido Cyfalaf 20-21

Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 17 Mehefin 2021, sy’n cynnwys papurau Alldro ac Ariannu Cyfalaf 2021-21 (disgwylir y byddant ar gael ar-lein o 9 Mehefin 2021)

Cofnodion:

Roedd Ben Smith, Prif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151, yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno Adroddiad Alldro Refeniw, Alldro'r CTR ac Alldro ac Ariannu Cyfalaf 20-21 ac ateb cwestiynau. Roedd y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth hefyd yn bresennol i gyflwyno i'r panel ac ateb cwestiynau. /AI4

<AI5>

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

 

  • Mae'r Adroddiad Alldro Refeniw yn cyflwyno canlyniadau gwych.
  • Mae Adran 2 yn nodi tanwariant o £20 miliwn gan wasanaethau.
  • Iawndal Llywodraeth Cymru am fethu â chyflawni arbedion cynlluniedig a hefyd er mwyn i gostau digidol ychwanegol barhau i fod yn hyblyg yn ystod y cyfyngiadau symud.
  • 2.9.1 – Tabl yn crynhoi graddfa'r llif arian a ddaeth i mewn ac allan, i ni fel cyngor a hefyd fel asiant i Lywodraeth Cymru sy'n darparu cymorth i fusnesau. 
  • Adran 4.4 Cronfeydd Wrth Gefn Ysgolion – sydd eisoes yr uchaf yng Nghymru, ac yr ychwanegwyd atynt yn sylweddol erbyn hyn, a chanddynt arian dros ben yn yr alldro. Mae'r cyngor yn disgwyl i ysgolion wario'n sylweddol yn y flwyddyn gyfredol. Mae ysgolion yn dal yr arian hwn.
  • Nid ydym yn ymwybodol o'r effaith ar yr economi yn y dyfodol/effeithiau yn y tymor hwy.
  • Atodiad A – Ni wnaeth y cyngor gyflawni’r £194,000 o arbedion ychwanegol a gynlluniwyd, ond dyfarnwyd arian grant i wneud iawn am y swm hwn.
  • Costau Ariannu Cyfalaf – mewn tanwariant sylweddol yn y tymor byr i ganolig, oherwydd gohirio ariannu'r rhaglenni cyfalaf drwy fenthyca allanol.
  • Diffyg Treth y Cyngor o £2.5M, ond caiff hyn ei niwtraleiddio oherwydd iawndal grant gan Lywodraeth Cymru.
  • Soniodd y panel am y ffigurau cadarnhaol yn yr adroddiad.
  • Holodd yr aelodau beth fydd y flwyddyn nesaf yn ei gynnig ynghylch cyllid a rhagolygon economaidd Llywodraeth Cymru.
  • Ansicrwydd Brexit, gan gynnwys y pwysau cyflenwi sy'n cael eu profi ar hyn o bryd, er enghraifft prinder deunyddiau adeiladu.
  • Cronfa Codi'r Gwastad o tua £40M yng Nghymru eleni. Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn broses gystadleuol.
  • Nodwyd ffigur eithriadol o £50M wrth gefn.
  • Dangosodd yr Adroddiad Alldro a Ariannu Cyfalaf raddfa enfawr y cyllid. Nododd y panel ffigurau syfrdanol.
  • Parhaodd y rhaglen gyfalaf fwyaf erioed er gwaethaf heriau sy'n gysylltiedig â COVID-19.
  • Tynnodd yr Arweinydd sylw at y ffaith bod ysbyty maes mawr wedi'i adeiladu hefyd, ynghyd â pharhad datblygiadau mawr yn y ddinas ochr yn ochr â chyfyngiadau'r cyfnod clo.
  • Dywedwyd wrthym fod cyflawni adeiladu'r ysgol a'r rhaglenni tai yn ganmoladwy, a thalodd yr Arweinydd deyrnged i'r holl staff a chontractwyr dan sylw.
  • T.3 Ariannu 2020-21: holodd y panel ynghylch cyfraniadau refeniw i gyfalaf o £33M. Eglurodd swyddogion fod CTR a chronfeydd cyffredinol yn cael eu cronni yma (£29M o hyn yw cyfraniad CTR).
  • Mae adroddiad y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) yn gymedrol ar alldro o ran amrywiadau. Tanwariant cymedrol, roedd y rhan fwyaf o wasanaethau'n parhau i gael eu cynnal.
  • Canolbwyntio ar atgyweiriadau tai hanfodol ac uniongyrchol yn unig, o ystyried cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â COVID-19.
  • Pryderon ehangach ynghylch creithiau economaidd a dyledion drwg posib ymhlith tenantiaid.
  • Soniodd yr Arweinydd am y gwaith caled a wnaed gan y tîm cyllid, i sicrhau bod taliadau'n cael eu prosesu i gefnogi'r economi ehangach yn ystod y pandemig.

 

 

Soniodd y panel am natur ddigynsail yr adroddiad hwn a'r ffigurau syfrdanol a gyflwynwyd. Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am yr wybodaeth a oedd ar gael. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn

 

12.

Cynllun Gwaith Drafft 2021-22 pdf eicon PDF 530 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y cynllun gwaith drafft a chytunodd ar yr eitemau ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod, gan nodi'r posibilrwydd o rai newidiadau a hyblygrwydd ar gyfer eitemau.

13.

Llythyrau pdf eicon PDF 473 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 514 KB