Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Remotely via Video

Media

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

www.abertawe.gov.uk/DatgeluCysylltiadau

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

15.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

16.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

17.

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg pdf eicon PDF 30 KB

Gwahodd i fynychu

Sarah Lackenby - Prif Swyddog Trawsnewid

Louise Gibbard – Aelod y Cabinet, Cefnogi Cymunedau

Robert Smith – Aelod y Cabinet, Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel yr wybodaeth ddiweddaraf gan Sarah Lackenby, Prif Swyddog Trawsnewid, am gynnwys Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg. Roedd y Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, a'r Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, hefyd yn bresennol i gefnogi trafodaethau ac ateb cwestiynau.

 

Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

  • Fformat newydd yr adroddiad eleni, dan arweiniad Comisiynydd y Gymraeg (Medi 2020).
  • Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod yr adroddiad, yn gyffredinol, yn dangos cynnydd da er gwaethaf unrhyw effeithiau o gyfyngiadau'r pandemig.
  • Esboniodd swyddogion mai nod yr adroddiad yw darparu diweddariadau o ran cyflawniad ar draws y Grwpiau Safonau.
  • Clywodd y Panel fod y safon cyflwyno gwasanaethau yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a dyma'r prif faes y derbynnir cwynion ar ei gyfer hefyd.
  • Nodwyd o'r adroddiad yr hoffai'r cyngor gynyddu nifer y cyflogeion sydd â sgiliau iaith Gymraeg ar draws y gweithlu. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddai sylw'n cael ei roi i'r strategaeth bum mlynedd, gan wella hyfforddiant i staff presennol.
  • Amlinellodd yr adroddiad fod hyfforddiant y llynedd yn dda er gwaethaf cyfyngiadau'r pandemig.
  • Mae swyddogion wedi adolygu a diweddaru'r polisi cwynion, gan adlewyrchu adborth gan Gomisiynydd y Gymraeg a'r Ombwdsmon.
  • Gofynnodd y Panel am y defnydd o awtomeiddio gan yr Uned Gyfieithu ac roedd yn falch o glywed am gyfraddau cyfieithu uwch.
  • Holodd aelodau'r Panel a oedd yr uned gyfieithu bellach wedi cyrraedd y pwynt o sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf posib ac a ellid gwneud arbedion pellach. Esboniodd swyddogion fod hwn yn wasanaeth ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot ac, yn amodol ar adolygiad yn ddiweddarach eleni, nid yw'r gwasanaeth yn debygol o wneud unrhyw arbedion pellach, gan ei fod yn gweithio ar lefel effeithlon.
  • Holodd yr aelodau a oedd gwasanaeth cyfieithu rhithwir ar gael yn ystod cyfarfodydd byw. Esboniodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru (grant e-Ddemocratiaeth) wedi dyrannu cyllid i alluogi uwchraddio technoleg yn Siambr y Cyngor, gan gynnwys gwell technoleg ar gyfer cyfieithu ar y pryd.
  • Holodd yr aelodau ynghylch argymhelliad yr adroddiad i wneud y Gymraeg yn orfodol ar gyfer mwy o swyddi, a'r effaith ar recriwtio. Sicrhaodd swyddogion y Panel na fydd hyn yn berthnasol i bob swydd, yn seiliedig ar sgiliau a'r farchnad swyddi, er y gellid gwneud y Gymraeg yn orfodol ar gyfer rhai swyddi yn y dyfodol.
  • Roedd cynghorwyr yn cydnabod gwaith caled ac ymdrechion staff, sy'n gweithio'n gyflym i gyflawni gwaith o fewn targedau uchelgeisiol. Cydnabuwyd bod yr Uned Gyfieithu wedi chwarae rhan bwysig yn ystod y pandemig trwy gyfieithu llawer iawn o wybodaeth.

 

 

Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am yr wybodaeth a oedd ar gael. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn.

 

18.

Is-ddeddfau: Trosolwg pdf eicon PDF 697 KB

Gwahodd i fynychu

Craig Davies – Cyfreithiwr Cyswllt

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel drosolwg o'r Is-ddeddfau presennol a'r broses sy'n gysylltiedig â dirymu. Roedd Craig Davies, Cyfreithiwr Cyswllt, yn bresennol i ateb cwestiynau.

 

Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·         Ar hyn o bryd, mae gan yr Awdurdod Lleol 33 o Is-ddeddfau gweithredol, sy'n bwriadu atal neu ostwng niwsans. Ni roddwyd unrhyw Is-ddeddfau newydd ar waith ers 1999.

·         Esboniodd swyddogion fod y broses sy'n gysylltiedig â gwneud Is-ddeddf yn gymhleth ac yn hir, gan gynnwys cyfnod ymgynghori ac amserlenni penodol i gadw atynt.

·         Clywodd y Panel fod gan Lywodraeth Cymru gatalog o Is-ddeddfau enghreifftiol, sy'n galluogi Awdurdodau Lleol i ddiweddaru Is-ddeddfau cyfredol.

·         Nodwyd bod Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMACau) yn debyg i Is-ddeddf, er eu bod yn para am 3 blynedd yn unig.

·         Clywodd y Panel y byddai angen swyddogion hyfforddedig i fonitro a gorfodi Is-ddeddfau ac unrhyw gosbau penodedig cysylltiedig.

·         Holodd yr aelodau ynghylch perthnasedd dirwyon o ran gwerth ariannol cyfredol.

·         Mae dirymu yn broses fwy syml, ac mae dileu Is-ddeddfau sydd wedi darfod yn fwy syml na'u creu.

·         Holodd y Panel ynghylch is-ddeddfau hanesyddol ac a yw'r cyngor yn cynnal adolygiad o'r rhain, gyda'r bwriad o ddiweddaru neu ddirymu Is-ddeddfau sydd wedi'u gwaredu. Esboniodd swyddogion fod rhai Is-ddeddfau hanesyddol yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gymwys, ond cytunwyd y gallai adolygiad fod yn fanteisiol. 

·         Cytunodd aelodau'r Panel y byddai'n fanteisiol adolygu'r Is-ddeddfau presennol a bod angen cyfeirio'r pwnc hwn at y Prif Swyddog Cyfreithiol.

 

19.

Cynllun Gwaith 2021-22 pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y cynllun gwaith. 

 

Llythyrau at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 324 KB