Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Scrutiny – 01792 637732
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau
|
2. |
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau
|
3. |
Cofnodion. PDF 319 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir
Cofnodion:
Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2021 yn gofnod cywir o'r
cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
Rhaid i gwestiynau
ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn
cyfnod o 10 munud
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd
|
5. |
Cynigion y Gyllideb 2021/22 - 2023/24 - craffu cyn penderfynu
Gwahodd i fynychu:
Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (yr
Arweinydd)
Ben Smith – Swyddog Adran 151 a’r Prif Swyddog Cyllid
Dolen i Bapurau Cabinet perthnasol
Cofnodion:
Cyfarfu’r Panel
Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid, gan gynnwys aelodau o'r Panel
Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio, i ystyried Cynigion y Gyllideb
Flynyddol eleni. Cyfarfu Panel Craffu
Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Cyd a'r Panel Craffu Perfformiad
Addysg yn y dyddiau cyn y cyfarfod ac ystyriwyd eu hadborth.
|
6. |
Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion
Cofnodion:
Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y Cyd
- Mae'r panel yn teimlo ei bod yn hanfodol
bwysig ein bod yn sicrhau bod digon o arian yn cael ei glustnodi yn y
gyllideb i ddarparu cymorth iechyd a lles ychwanegol i staff yn dilyn y pandemig. Mae'r panel yn awyddus i weld menter ar y
cyd â'r Bwrdd Iechyd o ran cymorth i staff.
- Maent yn fodlon iawn ar sefyllfa'r gyllideb
ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol eleni, gyda chynnydd yn y gyllideb
gyffredinol ac ychydig iawn o ran toriadau. Fodd bynnag, mae'r panel yn ymwybodol
bod angen cyflawni llawer iawn o bethau gyda'r arian hwn.
- Mae'r panel yn pryderu mai dim ond y gyllideb
net y mae'n ei gweld. Byddai'n
ddefnyddiol gweld manylion y ffrydiau incwm yn ogystal â gwariant. Mae swyddogion wedi cytuno i weithio
gydag Aelodau'r Cabinet i ddarparu'r wybodaeth hon.
- Hoffai'r panel gefnogi proses y gyllideb mewn
unrhyw ffordd y gall ac felly mae'n bwriadu ailedrych ar y gyllideb eto yn
ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn monitro cynnydd yn ofalus.
Addysg
- Roeddem yn fodlon ar y cyfan â chyllideb
eleni fel y mae'n ymwneud â materion addysg.
- Rydym yn croesawu'r gwariant cyfalaf a'r
cynnydd gros o 3.3% yn y gyllideb ysgolion dirprwyedig.
- Roeddem yn falch bod Addysg yn parhau i fod
yn un o brif flaenoriaethau Cyngor Abertawe.
- A oes darpariaeth yn y gyllideb i sicrhau bod
unrhyw dreuliau a ysgwyddir gan yr ysgolion hynny a arhosodd ar agor drwy
gydol cyfnod COVID-19 yn cael eu had-dalu?
- Gofynnwyd pa gynigion arbedion sydd mewn
perthynas â Chludiant Ysgol.
Dywedwyd wrthym y bydd y cynigion a fydd yn destun ymgynghori yn
cael eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Mawrth. A ellir eu dosbarthu i'r Panel Craffu
Addysg, unwaith y byddant ar gael?
- A yw cost ôl troed newydd posibl ERW a chau
strwythur presennol ERW wedi'i gynnwys yn y gyllideb?
- Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i
Ysgolion, Llywodraethwyr a'r Adran Addysg am eu gwaith rhagorol dros y
flwyddyn ddiwethaf. Yn enwedig sut maen nhw wedi rheoli'r heriau y mae'r
cyfnod COVID-19 hwn wedi'u cyflwyno.
Yr Amgylchedd
Naturiol
Dylai'r broses
recriwtio i swyddi newydd, o ganlyniad i Ymchwiliad Craffu'r Amgylchedd
Naturiol, adlewyrchu'r argymhellion canlynol:
- Bydd y rôl Ecolegydd Cynllunio yn un amser
llawn (yn hytrach na rhan-amser fel y'i hysbysebir ar hyn o bryd)
- Bydd Swyddog Bioamrywiaeth yn rôl amser llawn
(yn hytrach na rhan-amser fel y'i hysbysebir ar hyn o bryd)
- Dylai Swyddog Gweithredu ar yr Hinsawdd fod
yn 0.5 (yn hytrach na 0.2)
Datblygu ac Adfywio
- O ran y risg sy'n gysylltiedig â'r Fargen
Ddinesig, hoffai'r panel gael eglurhad ar lefel y benthyca a sut bydd hyn
yn effeithio ar ffrydiau refeniw yn y dyfodol.
- Mae'r panel yn gofyn am eglurder ynghylch
faint o swyddi a gaiff eu creu i adlewyrchu faint o fuddsoddiad sydd ym
mhob un o brosiectau'r Fargen Ddinesig.
- Byddai'r panel yn elwa o ddadansoddiad
manylach o ba arian sydd wedi'i wario mewn perthynas â'r Fargen Ddinesig
ac ar yr hyn sydd wedi'i gynllunio ar hyn o bryd.
- Hoffai'r panel gael dealltwriaeth glir o
risgiau sy'n gysylltiedig â chostau cyfalaf parhaus a'r incwm o'r
datblygiadau newydd.
Gwella Gwasanaethau a Chyllid
- Nododd y panel fod y Gyllideb eleni yn
unigryw ac yn ddigynsail. Mae'n ddogfen fyw a dyma'r tro cyntaf i ran
sylweddol o'r gyllideb fod yn seiliedig ar yr hyn a allai ddigwydd.
Diolchwn i swyddogion a staff am eu gwaith caled ac rydym yn cydnabod bod
yr arian wedi’i ddosbarthu’n gyflym.
- Hoffai'r panel gael gwell dealltwriaeth o'r
gofrestr risgiau o ran costau refeniw parhaus, gyda'r ansicrwydd ynghylch
ad-daliadau gan Lywodraeth Cymru
- Mae'r panel yn nodi bod y gyllideb yn ddogfen
fyw sy'n agored i newid, ac felly mae wedi bod yn anodd craffu arni'n llawn eleni.
- Mynegwyd pryderon gennym ynglŷn â'r effaith
ariannol a pherfformiad ar gyllid y cyngor y cydbwyllgorau lluosog yn y
dyfodol a godir yn erbyn y gyllideb, a pheryglon pwyllgorau o'r fath i
Gyllideb y Cyngor.
|
7. |
Cynllun Gwaith 2020-21 PDF 208 KB
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 512 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet PDF 501 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Atodiad PDF 47 KB
|