Lleoliad: O bell drwy Teams
Cyswllt: Scrutiny Officer - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 313 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid, a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021, yn gofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Diweddariad Blynyddol Safonau Ansawdd Tai Cymru PDF 539 KB Cllr Andrea Lewis - Aelod y Cabinet - Cartrefi, Ynni a
Thrawsnewid Gwasanaethau (Y Ddirprwy Arweinydd) Mark Wade - Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd David Meyrick - Rheolwr Cynllunio a Chyflwyno Tai Cofnodion:
Daeth y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau, i'r cyfarfod i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ac ateb cwestiynau. Roedd Mark Wade, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd, a David Meyrick, Rheolwr Cynllunio a Darparu Tai, hefyd yn bresennol i gyflwyno i'r panel ac ateb cwestiynau. Cynhaliodd y panel drafodaeth am y gofyniad statudol i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru, sy'n rhan o Strategaeth Tai Lleol y cyngor yn ogystal â'r Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus. Clywodd y panel fod Llywodraeth Cymru wedi atal ei holl weithgareddau monitro SATC yn 2020 a'i bod ond wedi ailgyflwyno'r rhain ym mis Mawrth 2021 oherwydd y pandemig. Yn wreiddiol, roedd Llywodraeth Cymru wedi pennu'r dyddiad cau ar gyfer cartrefi cymdeithasol a rhentir gyrraedd SATC erbyn 31 Rhagfyr 2020. Oherwydd y pandemig, y dyddiad cau newydd yw 31 Rhagfyr 2021 erbyn hyn. Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol: · Effeithiau'r pandemig ar y gwaith sy'n cael ei wneud a hygyrchedd i eiddo â thenantiaid. Nododd y Cyng. Lewis y gwaith gwych a wnaed gan y Gwasanaethau Tai dan amgylchiadau anodd. · Clywodd y panel fod SATC yn nodi ei ofynion ar draws chwe phrif thema sy'n cynnwys cyflwr da; bod yn ddiogel; wedi'u gwresogi'n ddigonol, yn ynni-effeithlon ac wedi'u hinswleiddio'n dda; cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern; wedi'u lleoli mewn amgylcheddau diogel a deniadol ac yn cyd-fynd â gofynion penodol yr aelwyd. · Esboniodd swyddogion, os nad ystyrir bod elfennau o fewn y themâu hyn mewn cyflwr rhesymol, ac yn perfformio fel y bwriadwyd, y cânt eu hystyried fel 'methiant derbyniol'. · Dros y 21 mis diwethaf, mae'r nifer sy'n cydymffurfio'n llawn â SATC wedi cynyddu 2,338 i 7,753 eiddo. · Clywodd y panel y disgwylir y bydd pob eiddo yn y rhaglen wedi cael cyfle i dderbyn cegin ac ystafell ymolchi newydd yn 2021, er gwaethaf llai o fomentwm oherwydd COVID-19. · Erbyn hyn mae 7,753 o gartrefi wedi’u cydymffurfio'n llawn ac mae 5,795 o gartrefi yn cynnwys o leiaf un methiant derbyniol yn Abertawe. Mae hyn yn cynrychioli 57.2% sy'n cydymffurfio'n llawn a 42.8% â methiannau derbyniol. · Mae'r cyngor yn disgwyl y bydd lefelau'r nifer sy'n cydymffurfio'n llawn yn codi a bydd methiannau derbyniol yn lleihau wrth i'r rhaglenni gwella sy'n weddill barhau i gael eu cyflwyno yn 2021. Bydd tenantiaid yn parhau i gael eu hannog i gymryd rhan er mwyn sicrhau cydymffurfiad llawn â SATC. · Holodd y panel sut mae 'methiannau derbyniol' yn cael eu cofnodi yn erbyn eiddo lle mae'r tenantiaid eu hunain wedi gwneud gwaith uwchraddio, fel ceginau newydd. Esboniodd swyddogion fod gwaith ar y gweill i ailymweld ag eiddo o'r fath er mwyn cofnodi eu bod yn cydymffurfio. CYTUNWYD y byddai swyddogion yn dosbarthu gwybodaeth am brosiectau tai i aelodau perthnasol y ward. Manteisiodd y panel ar y cyfle i gydnabod ymdrechion staff, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o'r cyfyngiadau symud. Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am yr wybodaeth a oedd ar gael. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn |
|
Adolygiad Blynyddol PDF 266 KB Adolygiad o eitemau o fewn Cynllun Gwaith 2020-21 Cofnodion: Ystyriodd y panel y dogfennau adolygu ac nid oedd ganddynt unrhyw beth pellach i'w ychwanegu.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
|
|