Lleoliad: O bell drwy Teams
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cynullydd Panel Cofnodion: Cytunodd y panel y byddai'r Cynghorydd Chris Holley yn cael ei ailbenodi'n Gynullydd. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau |
|
Cofnodion: Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunodd bod cofnodion y cyfarfod ar 21 Medi 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag
eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Datganiad Cyllideb Canol Tymor Y Cyng. Rob Stewart, Aelod y
Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) Ben Smith, Pennaeth y
Gwasanaethau a’r Ganolfan Ariannol Cofnodion: Daeth y Prif
Swyddog Cyllid a'r Cyfarwyddwr Adnoddau i'r cyfarfod i gyflwyno'r
adroddiad ac ateb cwestiynau. Nodwyd y materion canlynol: · Mae Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a Chyfalaf C1 2020/21 yn ceisio pontio'r arddull adrodd arferol ar y gyllideb ar gyfer C1 a heriau ehangach COVID-19. · Mae argymhelliad 3 yn anarferol - i dynnu symiau fel £10m o'r cronfeydd wrth gefn, fodd bynnag, mae hyn yn gyson â chyngor a dderbynnir i'r cyngor. · Ôl-ddyledion Treth y Cyngor ar ddiwedd 2019-20 oedd £4.7m ac mae'r cyfanswm cronnol yn nes at £10m. · Mae disgwyliadau ar gyfer diffyg o £2.5m yn nhreth y cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol hon. · Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid ei fod yn hyderus y bydd mewn sefyllfa i fantoli'r gyllideb gyffredinol serch hynny. · Gorwariant rhagamcanol o £16m yn y Gyfarwyddiaeth Lleoedd · Mae Cyngor Abertawe'n anarferol gan ei fod yn berchen ar lawer o dir yng nghanol y ddinas yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, ac felly'r cyngor yw’r landlord masnachol mwyaf yng nghanol y ddinas. · Dosbarthwyd grantiau busnes gwerth £53m yn ystod C1, ac maent yn parhau i C2. · Mae swyddogion yn disgwyl i adroddiad C2 nodi bod gorwariant y gwasanaeth wedi gostwng, gan adlewyrchu gwireddiad rhagor o grantiau. · Holodd y Panel a fyddai Llywodraeth Cymru yn talu am ddiffyg Treth y Cyngor (C1) a'r gorwariant £10m. Mae ansicrwydd o hyd ynghylch a ellir ad-dalu unrhyw ran o hyn. · Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw golwg ar symiau a ddyrennir drwy ffrydiau ariannu Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol Cymru yn ei chyfanrwydd. · Holodd y Panel a yw'r cyngor mewn perygl o gael unrhyw ddirwyon a chosbau (er enghraifft dros wastraff ac ailgylchu). Yr arwyddion cynnar yw bod Llywodraeth Cymru yn cydymdeimlo ac yn annhebygol o osod dirwyon o'r fath ond y bydd yn edrych arno fesul achos. · Tynnodd y Panel sylw at y ffaith nad effeithir yn andwyol ar y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) yn ystod C1. · Pwysleisiodd y Prif Swyddog Cyllid fod cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn parhau i fod ar y lefel ddiogel leiaf a'u bod ar yr isaf y gallant fod yn ei farn ef |
|
Ailgylchu a Thirlenwi - Adroddiad Monitro Perfformiad Blynyddol 2019/20 PDF 229 KB Y Cyng. Mark Thomas, Aelod y
Cabinet dros yr Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Chris Howell, Pennaeth Rheoli
Gwastraff ac Ailgylchu Cofnodion: Diolchodd y panel i Aelod y Cabinet a Rheolwr y Gwasanaethau Gwastraff am gyflwyno'r adroddiad ac ateb eu cwestiynau. Nodwyd: · Ar ddiwedd mis Mawrth 2020 cyrhaeddwyd y targed ailgylchu o 64%; cynnydd o 2.1% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. · Roedd 2000 tunnell o wastraff wedi osgoi mynd i safleoedd tirlenwi, sy'n debygol o fod yn ganlyniad i lwyddiant ymgyrch Nid Fan Hyn! · Mae Abertawe'n defnyddio safleoedd tirlenwi yn bennaf. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau eraill yn anfon eu holl wastraff na ellir ei ailgylchu i’w losgi. · Os caiff ei losgi, gellir hawlio hyd at gyfradd ailgylchu ychwanegol o 6% sy'n cael ei chyfrifo drwy ailgylchu tunelli o'r lludw gweddillion a gynhyrchir. · Codwyd pryderon ynghylch yr effaith bosib ar newid yn yr hinsawdd ac allyriadau Co2 o ganlyniad i losgi gwastraff. · Yr unig opsiwn realistig sydd ar gael ar hyn o bryd yw llosgi. · Rydym yn edrych ar opsiynau eraill gan fod technolegau newydd yn cael eu datblygu'n gyson, er nad oes yr un ohonynt ar gael i ni ar hyn o bryd. · Mae'n debygol felly y bydd y cyngor yn ymrwymo i gontract tymor byr ar gyfer llosgi, ac yna'n symud tuag at opsiynau a dulliau eraill mwy newydd wrth iddynt ddod ar gael. · Mae'n bosib ni fyddwn yn cyrraedd y targed ailgylchu o 64% eleni (2020/2021). Mae'r sefyllfa hon yn effeithio ar bob cyngor yng Nghymru. · Gallwn briodoli diffygion i effaith COVID-19. · Nid ydym yn disgwyl unrhyw ddirwyon na chosbau ac rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru'n cydymdeimlo â'r sefyllfa hon. · Mae safleoedd bellach ar agor ac mae system cadw lle bellach ar waith yn Llansamlet. · Gall y gwasanaeth cael gwared ar sachau du ailddechrau cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. · Mae'n rhaid i strategaeth hirdymor ganolbwyntio ar ailddefnyddio yn hytrach na gwaredu. 'Ynni o wastraff' yw'r opsiwn gorau ar hyn o bryd. · Mae'r cyngor yn edrych ar gydbwysedd o ateb fforddiadwy sydd ar gael gyda hyblygrwydd i symud i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg pan fyddant ar gael · Mae rownd newydd o'r cynllun hyfforddeion gwastraff wedi dechrau, a bydd yr ymgyrch Nid Fan Hyn yn cael ei hailfywiogi. · Mae'r incwm yma wedi'i effeithio'n sylweddol. Caeodd 90% o fusnesau felly nid oedd angen casgliadau masnachol arnynt. Mae hawliad wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru am ad-daliad. · Mae pob gwisg a ddefnyddir ar gyfer gwaredu gwastraff wedi'i chofrestru gyda rheoleiddwyr y DU. · Proses wedi'i dilysu yw hon ac mae unrhyw gwmni yr ydym yn ei gontractio yn cael ei reoleiddio gan CNC, sy'n gwirio cydymffurfiaeth. |
|
Cynllunio'r Rhaglen Waith Craffu ar Wella Gwasanaethau a Chyllid 2020/21 PDF 32 KB Cofnodion: · Nodwyd a chytunwyd ar y cynllun gwaith drafft. · Caiff adroddiadau monitro perfformiad eu cyhoeddi cyn cyfarfodydd er mwyn rhoi digon o amser i'w hadolygu. Yna gellir cyfeirio cwestiynau at y Swyddog perthnasol ymlaen llaw er mwyn paratoi atebion ymlaen llaw. · Caiff y cynnig cyllidebol ei adolygu eto ym mis Mawrth er mwyn rhoi cyfle pellach i graffu os oes angen. · Mae angen adolygu is-ddeddfau'n fanwl; ni drefnwyd hyn eto. |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 531 KB Dogfennau ychwanegol: |