Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Brij Madahar, Swyddog Craffu – Ffôn (01792) 637257
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Dim |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel
ar y cofnodion. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cyfarfod y Panel 2 Mawrth
2020: a)
Llythyr at/oddi wrth Aelod
y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (parthed Monitro’r Gyllideb – 3ydd Chwarter 2019/20;
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Defnydd o Ddata gan Lywodraeth. b)
Llythyr at/oddi wrth Aelod
y Cabinet dros Gyflawni a Pherfformiad (parthed Adroddiad Blynyddol Cwynion Corfforaethol 2018/19). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adolygodd y panel
y llythyrau. |
|
a)
Monitro’r
Gyllideb (adroddiad llafar) Ben Smith (Prif Swyddog Cyllid / Swyddog Adran 151) b)
Monitro
Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 Y Cyng. Andrew
Stevens (Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad) Richard Rowlands (Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: a) Monitro
Cyllidebau (adroddiad llafar) Ben Smith Nodwyd y materion canlynol: ·
Mae'r archwiliad o'r datganiad o gyfrifon
ar gyfer y llynedd wedi'i gwblhau, sy'n bwysig gan ei fod yn rhoi sylfaen i
sefyllfa'r arian wrth gefn ar gyfer y dyfodol.
Mae lefel yr arian wrth gefn sydd gennym wrth ddechrau ar gyfnod heriol
bellach yn swyddogol. Mae'r rhagdybiaethau a'r ffiniau cyffredinol rydym yn
gweithio oddi mewn iddynt, wedi'u gwneud yn glir i'r Cabinet a'r cyngor. ·
Mae'r cyllidebau'n cael eu haddasu o
oddeutu 25%. Gan adlewyrchu dros 100 miliwn o bunnoedd yn y gyllideb refeniw ac
addasu’r gyllideb gyfalaf o dros 20 miliwn o bunnoedd. ·
Ni fydd Adroddiad y Chwarter 1af yn cael ei gyflwyno i'r
panel heddiw nes y caiff ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Hydref. ·
Bu'n anodd cael sicrwydd ynghylch y rhagolygon o ystyried
cyfnod ansicr a digynsail COVID-19. ·
Rydym yn aros am eglurder ynghylch cyhoeddiadau cyllid
diweddar gan Lywodraeth Cymru. Ers 23 Mawrth 2020, bu nifer o ddiwygiadau i
gyllid gan Lywodraeth Cymru a'r DU gyda llawer o gyhoeddiadau newydd sy'n newid
yn barhaus drwy gydol y pandemig. ·
Mae'r ffrydiau cyllido cenedlaethol wedi amrywio'n
barhaus drwy'r pandemig ac felly mae wedi ychwanegu
ansicrwydd at y rhagolygon. ·
Rydym yn disgwyl y bydd yr holl wasanaethau wedi gorwario
yn ystod y flwyddyn o ystyried yr amgylchiadau presennol; fodd bynnag, rydym yn
adennill rhywfaint o wariant a byddwn yn parhau i wneud cais am gyllid i
adennill gwariant pan fydd hyn ar gael. ·
Nid ydym eto'n gwybod effaith
lawn y cynllun ffyrlo a'r effaith ar alluoedd
busnesau ac unigolion i ddal ati i dalu biliau fel Trethi Annomestig a Threth y
Cyngor. ·
Cododd cwestiwn ynghylch a wariwyd arian ychwanegol a
oedd heb ei hawlio nôl. Atebodd y Prif Swyddog Cyllid y byddem yn disgwyl
gwario mwy na'r hyn a dderbyniwn, fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw sicrwydd
ynghylch beth fydd ein cyfran derfynol o'r dyraniad cyllid eto. Mae baich
costau i'w rhannu ar draws y sector cyhoeddus a bydd yn rhaid i gynghorau wneud
dewisiadau lleol yn lleol. ·
Holodd y panel ynghylch swm ôl-ddyledion Treth y Cyngor
eleni, a chadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod y ffigur yn £4.7 miliwn o
bunnoedd ar hyn o bryd ar gyfer 2019/20 yn unig. O ganlyniad, dywedodd y Prif
Swyddog Cyllid fod ôl-ddyledion Treth y Cyngor gyda'i gilydd yn £7.7 miliwn o
bunnoedd ar 31/3/19 a £9.0 miliwn o bunnoedd ar 31/3/20. Mae mwyafrif helaeth
yr ôl-ddyledion yn ymwneud ag atebolrwydd treth y 3 blynedd flaenorol, er yr
eir ar drywydd ôl-ddyledion ar gyfer pob blwyddyn. ·
Gofynnodd y panel a oedd yn debygol y bydd angen cyllideb
frys arnom, ac atebodd y Prif Swyddog Cyllid fod £19 miliwn o bunnoedd wedi'i
ychwanegu at arian wrth gefn y llynedd i gryfhau ein sefyllfa yn ystod y pandemig. Bydd yr adroddiadau i'r Cabinet a'r cyngor yn
nodi'r angen i dynnu o’r arian wrth gefn yn rhesymol ac yn gyfrannol dan yr
amgylchiadau. Mae'r Prif Swyddog Cyllid yn dweud unwaith eto fod niferoedd
heriol i'w mantoli. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae'n hapus yn gyffredinol y
bydd y gyllideb yn cael ei rheoli am weddill y flwyddyn drwy ddulliau arferol
adrodd am y gyllideb. b) Adroddiad Blynyddol Monitro Perfformiad
Corfforaethol 2019/2020 Amlinellodd Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol y cyngor, y
dangosyddion hynny yn yr adroddiad sy'n dangos tuedd llai cadarnhaol. Ar y cyfan, mae'r dangosyddion Perfformiad Corfforaethol ar gyfer 2019/20
yn dangos bod 43 o 78 (55%) o ddangosyddion Perfformiad y Cynllun Corfforaethol
(yr oedd ganddynt dargedau a lle'r oedd data) yn cyrraedd eu targedau. Roedd 41
o 66 (62%) o ddangosyddion Perfformiad y Cynllun Corfforaethol y gellir eu
cymharu hefyd yn dangos gwelliant neu'n aros yr un peth o'u cymharu â 2018/19. Aeth y panel drwy bob Blaenoriaeth Gorfforaethol yn unigol gan drafod y
dangosyddion hynny a nodwyd yn goch lle mae'r ffigurau'n dangos dirywiad. Diogelu ·
AS11 - Cyfradd yr oedolion 65+ oed sy'n derbyn
gofal a chefnogaeth i ddiwallu eu hanghenion lles fesul 1,000 o'r boblogaeth. Nodwyd bod mwy
o unigolion yn cael eu cefnogi drwy ailalluogi tymor
byr ac ymyriadau galluogi eraill yn unol ag amcanion strategol y cyngor. ·
AS13a - Nifer y gofalwyr (18+ oed) a dderbyniodd
asesiad gofalwr eu hunain yn ystod y flwyddyn ariannol. Nodwyd bod
gwaith yn cael ei wneud gyda grwpiau gofalwyr yn rhanbarthol i geisio deall yn
well y nifer uwch na'r disgwyl o ofalwyr sy'n gwrthod asesiad. Holodd y panel
ynghylch yr Asesiadau o Ofalwyr sy'n Oedolion a'r duedd sy'n peri pryder yn y
data. Mynegodd y panel bryderon hefyd ynghylch ansawdd gwasanaethau o'r fath ar
ôl asesiad cychwynnol. Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ysgrifenedig mewn
perthynas â'r pwynt hwn. ·
Mesur
19 (MAC025) Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol
fesul 1,0000 o’r boblogaeth 75 oed neu'n hŷn. Nodwyd ein bod yn parhau i weithio gyda'r GIG i
leihau Oedi wrth Drosglwyddo gyda'r prosiect Rhyddhau Cleifion o'r Ysbyty yn
Gyflym yn dechrau. ·
CFS2
- Nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG) ar ddiwedd y cyfnod. Nodwyd bod y ffocws wedi bod ar leihau
nifer y plant sy'n derbyn gofal mewn lleoliadau preswyl. Mae'r cam nesaf yn
canolbwyntio ar ddiogelwch cyfreithiol, sy'n rhan o strategaeth PDG ddiogel a
bydd yn lleihau niferoedd i 475 erbyn mis Mawrth 2021 - islaw 100 fesul 10,000. ·
Mesur
24 - Canran yr
asesiadau a gwblhawyd i blant o fewn amserlenni statudol. Nodwyd y bu’n
anodd ceisio cyflawni gwelliant yn y maes hwn ers nifer o flynyddoedd. Mae darn
o waith â ffocws wedi'i gwblhau ac mae'r adroddiad misol yn dangos gwelliant ar
gyfer Chwarter 1af y flwyddyn ariannol newydd hon. Addysg a Sgiliau ·
EDU15a
- Canran y datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) terfynol a roddwyd o
fewn 26 wythnos, gan gynnwys eithriadau ·
EDU15b
- Canran y datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) terfynol a roddwyd o
fewn 26 wythnos gan gynnwys eithriadau ·
Nodwyd bod y gostyngiad yn y datganiadau a gyhoeddwyd o
fewn 26 wythnos wedi parhau yn 2019. Mae gwaith eisoes wedi'i wneud i fynd i'r
afael â rhai o'r problemau sy'n cyfrannu at y perfformiad hwn, gan gynnwys
cyflwyno systemau newydd ar gyfer datganiadau. Mae hwn yn faes blaenoriaeth i'w
wella o fewn y Gyfarwyddiaeth - bydd strwythur a rhaglen wella newydd yn
dechrau yn 2020 i fynd i'r afael â gofynion gwella cyfredol a newidiadau i
fodloni gofynion Deddf ADYTA 2018. Gofynnodd y panel am ragor o wybodaeth a
chraffu ynghylch Datganiadau AAA a'r amseroedd targed sy'n cael eu methu. Cytunwyd
bod angen cymryd camau pellach yma i archwilio'r pwnc, yn y lle cyntaf, drwy ymatebion
ysgrifenedig gan swyddogion perthnasol. Economi ac Isadeiledd Ni chodwyd unrhyw faterion Trechu Tlodi ·
HMBCT01a
- Cyflymder prosesu Budd-dal Tai: Amser cyfartalog ar gyfer prosesu hawliadau
newydd. Nodwyd gan fod
llai o adnoddau ar waith y disgwylid gostyngiad mewn perfformiad a bod 0.5
diwrnod ymhell o fewn terfynau derbyniol. ·
POV10
- Nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi drwy Gefnogaeth Cyflogadwyedd. Nodwyd y byddwn, fel rhan o'r gwaith
adolygu comisiynu cyflogadwyedd sy'n cael ei wneud, yn gallu cofnodi
canlyniadau'r holl weithgarwch cyflogadwyedd ar draws y cyngor yn well.
Hoffai'r panel archwilio'r dangosydd hwn gan fod y data'n awgrymu bod llai o
bobl yn cael gwaith. Mae angen rhagor o wybodaeth ysgrifenedig am y set
ddata hon ynghyd â diffiniad y dangosydd. Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol ·
CHR002
(MAC001) - Nifer y diwrnodau gwaith/shifftiau cyfwerth ag amser llawn a gollwyd
oherwydd absenoldeb salwch. Nodyn gan Dîm Perfformiad Corfforaethol – Ansawdd data yn cael ei adolygu.
Ffigurau salwch yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19. Mae'r ymgynghoriad ar
Bolisi Rheoli Presenoldeb newydd wedi'i rewi oherwydd COVID. Mae cymorth yn
parhau mewn meysydd gwasanaeth lle ceir lefelau uchel o absenoldeb salwch. Mae data sy'n ymwneud â salwch staff yn dangos cynnydd
o 1.85% sy'n amlygu tuedd gynyddol mewn absenoldeb salwch o 8% i 10% dros y
ddau gyfnod blaenorol. Mae'r panel yn dymuno ymchwilio ymhellach i'r pwnc hwn a
bydd y Dirprwy Brif Weithredwr yn darparu rhagor o wybodaeth yn y dyfodol (pan
fydd hwn ar gael) ynghylch effaith gweithio gartref a threfniadau ystwyth ar y
data absenoldeb salwch. Cadarnhaodd fod dangosyddion cynnar yn dangos bod
gweithio gartref yn ystod y pandemig wedi helpu i
gefnogi gostyngiad mewn absenoldeb salwch. Gofynnodd y panel am ddadansoddiad
o salwch a mathau o salwch ar draws adrannau'r cyngor. Natur a Bioamrywiaeth ·
O ran Natur a Bioamrywiaeth, cwestiynodd y panel y
cynnydd a wnaed o ran datblygu dangosyddion meintiol. Esboniodd RR fod gwaith
wedi'i wneud gyda'r Tîm Cadwraeth Natur. Fodd bynnag, bu'n anodd dod o hyd i
rywbeth i adrodd amdano mewn modd cadarn. Mae gwaith yn parhau ar hyn a
chytunodd y panel fod y data ansoddol a roddwyd yn ddefnyddiol iawn. Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus ·
Mae'r
adroddiad hefyd yn cynnwys alldro dros dro ar gyfer 2019/20 o berfformiad y
cyngor yn erbyn Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus cenedlaethol (MAC). Mae'r
canlyniadau'n dangos bod 67% o’r MAC wedi cyrraedd eu targedau a bod 50% o’r
MAC cymeradwy wedi gwella neu wedi aros yr un peth o’u cymharu â 2018/19. ·
MAC15
- Nifer y diwrnodau calendr ar gyfartaledd a gymerwyd i gyflwyno'r Grant
Cyfleusterau i'r Anabl. Nodwyd bod gostyngiad mewn perfformiad eleni yn deillio
o nifer o absenoldebau salwch staff estynedig, swydd wag Therapydd
Galwedigaethol a gymerodd gyfnod estynedig i'w llenwi a bu oedi yn y gadwyn
gyflenwi o Tsieina/yr Eidal yn y chwarter olaf oherwydd COVID-19. Effeithiodd
hyn i gyd ar y rhaglen. ·
MAC39
- Canran y rhent a gollwyd oherwydd bod eiddo'n wag. Cododd y panel y dangosydd
hwn a gofynnodd am ragor o wybodaeth am nifer y tai cyngor sy’n wag ar hyn o
bryd. Hoffai'r panel hefyd weld dangosydd yn rhoi nifer y tai cyngor gwag yr
ystyrir eu cynnwys mewn data adrodd monitro perfformiad. ·
MAC45
– Nifer yr anheddau ychwanegol a grëwyd o ganlyniad i ailddefnyddio eiddo gwag unwaith eto. Holodd y panel a
oedd y rhain yn seiliedig ar y Grant Eiddo Gwag a gyflwynwyd. Trafododd y panel
hefyd y broses o fonitro perfformiad a sut mae'r cynghorwyr yn defnyddio ac yn
adolygu'r data hwnnw. Gan gynnwys pa ddata a gyflwynir i'r panel ac yn wir sy’n
cael ei gasglu, â phwy y mae'r panel yn siarad, naill ai'n ysgrifenedig neu ar
lafar, gan fynd ar drywydd y meysydd sy'n peri pryder, y rhyngwynebu â phaneli
craffu eraill a sut rydym yn osgoi dyblygu ymdrech gan swyddogion a
chynghorwyr. Cytunodd y panel
i ystyried y mater hwn yn fanylach mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|