Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 313 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y llythyrau a'r cofnodion gan y panel.

 

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Dim

4.

Abertawe Gynaliadwy - yn addas i'r dyfodol: cynigion cyllidebol 2020/21 - 2023/24. pdf eicon PDF 763 KB

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth a'r Prif Swyddog Cyllid am ddod i’r cyfarfod i drafod yr adroddiad ar Gynigion Cyllidebol. Nodwyd y pwyntiau canlynol o'r drafodaeth:

 

·         Oherwydd yr Etholiad Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, gohiriodd Llywodraeth Cymru ei chyhoeddiadau ar y gyllideb a'r setliad dros dro tan 16 Rhagfyr 2019. Gwnaeth hyn y broses gyllidebol yn hynod heriol ac ansicr.

·         Mae graddfa'r cynnydd mewn cyllid i lywodraeth leol ar gyfer 2020-21 sydd bellach yn hysbys, ar ei uchaf ers dros ddegawd. Mae'n hynod ddefnyddiol - am fod y cynnydd yn wahanol i setliadau diweddar gan ei fod yn caniatáu llawer mwy o ddewis dros flaenoriaethau cymharol, ymrwymiadau cyllidebol a lefelau trethiant lleol ar gyfer 2020-21. Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth mai'r gobaith yw y gellir cynnal y newid hwn mewn pwyslais a chyllid yn y tymor canolig i'r tymor hwy er mwyn caniatáu i'r cyngor gynnal, datblygu ac ehangu gwasanaethau hanfodol i'r cyhoedd. 

·         Disgwylir y ffigurau terfynol ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gyhoeddiadau posib ar oblygiadau’r flwyddyn nesaf gan Lywodraeth Cymru ar 25 Chwefror.

·         Addysg yw’r maes cyllid mwyaf o hyd yng nghyllideb refeniw'r cyngor a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r cyngor. Y bwriad yw y bydd cynnydd arfaethedig o 6.5% (9.7 miliwn o bunnoedd) yng nghyllid craidd ysgolion. Mae hwn yn bennaf ar gyfer ariannu cyflogau athrawon a chostau pensiwn.

·         Clywodd y Panel nad yw'r penderfyniad ynghylch y cynnydd yn Nhreth y Cyngor eleni wedi'i wneud eto. Clywodd y Panel fod y rhagdybiaeth gynllunio ar gyfer Treth y Cyngor hyd at 5% ond bod y cynnyrch cyffredinol yn uwch fyth, ac roedd hynny oherwydd nad oedd gostyngiad ar gartrefi gwag mwyach, y premiymau 100% ar gartrefi gwag tymor hir a thwf yn y sylfaen dreth. Yn ogystal â hyn, mae Treth y Cyngor yn cyfrif am ychydig dros 25% o'r incwm a gafodd y cyngor a oedd yn cyfateb y llynedd i 122 miliwn o bunnoedd, gyda'r Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru yn werth 242 miliwn o bunnoedd a Chyfraddau Busnes yn codi 80 miliwn o bunnoedd. Amlygwyd hefyd bod yn rhaid i ni ariannu cynllun gostyngiad Treth y Cyngor o 22 miliwn o bunnoedd sydd wedi'i dargedu at grwpiau incwm is ac nad yw'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Cynullydd fod nifer o breswylwyr wedi cyfleu pryderon iddo ynglŷn â fforddadwyedd presennol Treth y Cyngor a'r effaith y byddai cynnydd pellach yn ei gael arnynt. Gofynnodd a yw’r awdurdod lleol yn cynnal gwerthusiad ar fforddadwyedd, a dywedodd Aelod y Cabinet y cynhelir asesiad effaith ar gydraddoldeb ynghyd ag ymgynghoriad cyn y gwneir penderfyniad ar unrhyw gynnydd.

·         Gofynnwyd i Aelod y Cabinet a chysylltwyd â Grwpiau Amgylcheddol mewn perthynas â'r ymarfer ymgynghori ar y gyllideb ac atebodd gan ddweud y byddai'n mynd ar drywydd y mater er mwyn sicrhau ei fod yn digwydd.

·         Codwyd y mater o gynnydd mewn ffïoedd a thaliadau mewn perthynas â gwasanaethau profedigaeth, a chlywon nhw fod taliadau cyngor yn yr ardal hon yn fach o'u cymharu â chostau cyffredinol angladdau. Mae Abertawe'n ymwybodol o'i safle mewn perthynas â chynghorau eraill.

·         Clywodd y Panel am effaith y cynigion arbedion ar swyddi yn 20/21. Clywon nhw fod y gostyngiad mewn niferoedd yn llawer llai na'r hyn a fu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac y gwneir pob ymdrech i leihau'r ffigur hwn a roddir yn yr adroddiad.

·         Gofynnodd y Panel am yr arbediad arfaethedig o 1/4 miliwn o bunnoedd a gynigiwyd ar gyfer Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. Clywodd y Panel fod y cyngor yn parhau i geisio cael y gwerth gorau am arian ar gyfer ei wasanaethau cludiant, a bod costau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol yn sylweddol. Mae'r cyngor wedi aildrafod cytundebau ac yn parhau i wneud hynny gan sicrhau ymagwedd gydlynol at gludiant ar draws y cyngor.   

·         Clywodd y Panel y byddai Abertawe'n sicrhau bod unrhyw gyfleoedd grantiau a ddaw trwy weithio’n rhanbarthol yn talu ein costau ac yn darparu’r budd mwyaf i Abertawe.

·         Roedd y Panel am wybod mwy am y llinell cynigion arbedion dan Dlodi a'i Atal y Gwasanaethau Cymdeithasol sef £40,000, sy'n dweud am adleoli staff o Dŷ Alexandra i ryddhau arian grant o Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.  

·         Codwyd y mater o barhau i dynnu symiau ariannol o'r arian wrth gefn ar gyfer yswiriant. Clywodd y Panel fod y Swyddog Adran 151 wedi caniatáu i symiau ariannol gael eu tynnu o'r arian wrth gefn ar gyfer yswiriant lle y bo'n briodol, a’i fod yn cael cyngor proffesiynol am ein harian wrth gefn ar gyfer yswiriant.  Clywyd hefyd fod gan y cyngor yswiriant digonol ar hyn o bryd ar gyfer 9 o bob 10 mlynedd o hawliadau yswiriant posib ac ystyriwyd bod hyn yn ddoeth iawn o hyd.

·         Ni chyflawnwyd tua 20% o arbedion gwreiddiol eleni fel y disgwyliwyd yn wreiddiol ond mae'r mwyafrif o gyfarwyddiaethau wedi gwneud arbedion sylweddol mewn ffyrdd eraill. Mae'r Cyfarwyddwr Addysg yn dal i weithio ar gynigion arbedion pellach i helpu i leihau’r gorwariant a ragwelir yn y Gyfarwyddiaeth honno. Clywodd y Panel fod disgwyl i adroddiad monitro cyllideb y 3ydd chwarter ddangos cynnydd mawr i leihau ffigur gorwario'r gwasanaeth cyffredinol yn y flwyddyn.

 

 

 

5.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2af 2019/20 pdf eicon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Rheolwr Perfformiad Corfforaethol yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 ac ateb cwestiynau. Amlygwyd y dangosyddion a'r materion canlynol i'w trafod:

 

·         Mae 49% o ddangosyddion wedi taro’u targedau ac mae 39% ohonynt yn dangos gwelliannau; mae hyn yn dangos dirywiad mewn perfformiad o'r chwarter cyfatebol y llynedd. Mae llai o ddangosyddion yn dangos gwelliant yn gyffredinol o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd.

·         AS13a - Nifer y gofalwyr (18+) a dderbyniodd asesiad gofalwr yn eu rhinwedd eu hunain yn ystod y flwyddyn. 52 o asesiadau gofalwyr yn llai wedi'u cwblhau o’u cymharu â 2018/19. Priodolwyd hyn yn uniongyrchol i'r lefelau salwch o fewn yr hybiau integredig; mae'r rhain yn cael eu rheoli a'r gobaith yw y bydd gwelliant yn y chwarter nesaf.

·         AS9 - Canran yr Asesiadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid a gwblhawyd mewn 21 diwrnod neu lai. Mae perfformiad wedi gostwng o'i gymharu â chwarteri blaenorol ond bydd hyn yn gwella gyda staff parhaol yn hytrach na staff yn cylchdroi. Roedd y panel am wybod mwy ynghylch pryd y bydd hyn yn digwydd.

·         CFS18 - Cyfradd y Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG) fesul 10,000 o’r boblogaeth Abertawe 0-17 oed ar ddiwedd y cyfnod ac CFS2 - Nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG) ar ddiwedd y cyfnod. Mae gostyngiad wedi bod yn ddiweddar yn y boblogaeth PDG ac mae'n sefydlogi. Mae strategaeth lleihau PDG mewn modd diogel ar waith sy'n cael ei monitro'n fisol trwy'r cyfarfod strategol PDG. Mae'r pwysau cyfredol yn ymwneud â phlant dan 2 oed.

·         Mesur 19 - Cyfradd gohirio trosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth 75+ oed. Mae prinder staff o fewn y sector gofal cartref yn parhau i gael effaith ar y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, yn ddiweddar maen nhw wedi aildendro'r gwasanaeth gan rannu'r darparwyr yn barthau daearyddol y disgwylir iddynt gael effaith gadarnhaol ar oedi.

·         BBMA4 - Nifer y prentisiaethau neu hyfforddeion sy'n dechrau yn y cyngor. Mae'r dangosydd hwn yn cofnodi dechreuadau newydd ac mae'n cael ei adolygu ar hyn o bryd i gynnwys strategaeth prentisiaid a hyfforddeion ehangach. Bydd hyn yn cynnwys recriwtio hyfforddeion a phrentisiaethau mewn gwaith nad ydynt yn cael eu cofnodi ar hyn o bryd.

·         EDU015b - Canran y datganiadau o anghenion addysgol arbennig (AAA) terfynol a roddwyd o fewn 26 wythnos gan gynnwys eithriadau. Mae'r chwarter hwn yn cynnwys gwyliau ysgol pan fo llai o staff, fodd bynnag, mae problemau gallu yn y tîm oherwydd maint y gwaith gweithredol beunyddiol yn ogystal ag ôl-groniad o ddatganiadau sy'n effeithio ar allu'r tîm i leihau'r ôl-groniad a gwella'r Dangosyddion Perfformiad. Yn ail, system bapur a ddefnyddir yn bennaf ac nid oes staff ar gael i adolygu systemau i wella effeithlonrwydd heb beryglu dyletswyddau statudol yr All ymhellach.

·         POV07 – Nifer yr wythnosau o hyfforddiant a chyflogaeth sydd wedi’u creu gan YTHFM ar gyfer pobl a oedd yn ddi-waith neu’n anweithgar yn economaidd. Mae hwn 27% yn is na'r llynedd. Bu oedi cyn dechrau nifer o brosiectau, sydd wedi lleihau nifer y cyfleoedd ar gyfer gwaith hyfforddi. Rhagwelir y byddant yn dal i fyny â'r oedi hwn yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

·         HBCT01a - Cyflymder prosesu Budd-daliadau Tai, yr amser cyfartalog ar gyfer prosesu hawliadau newydd. Gostyngiad mewn perfformiad, yn ôl y disgwyl, oherwydd bod llai o adnoddau ac oherwydd bod yr achosion mwy cymhleth yn parhau yn y maes budd-dal tai ac achosion haws yn cael eu trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol.

·         HBCT01b - Cyflymder prosesu Budd-daliadau Tai, yr amser cyfartalog ar gyfer prosesu hysbysiad o newid mewn amgylchiadau. Gostyngiad bach mewn perfformiad, yn ôl y disgwyl, oherwydd bod llai o adnoddau.

·         HBCT02a – Cyflymder prosesu Gostyngiad treth y cyngor, yr amser cyfartalog ar gyfer prosesu hawliadau newydd. Yn ôl y disgwyl, mae gostyngiad wedi bod mewn perfformiad oherwydd y bu newid yn y broses, a gynyddodd y gostyngiadau Treth y  Cyngor a roddwyd i unigolion ar draul gostyngiad ymddangosiadol mewn ystadegau perfformiad. Mewn gwirionedd, nid yw'r gwasanaeth i ymgeiswyr wedi gwaethygu.

·         HBCT02b - Cyflymder prosesu Treth y Cyngor, yr amser cyfartalog ar gyfer prosesu hysbysiad o newid mewn amgylchiadau. Gostyngiad bach mewn perfformiad, yn ôl y disgwyl, oherwydd bod llai o adnoddau.

Roedd y Panel am wybod mwy am y rhain ar gyfer dangosyddion HBCT gan ofyn i'r adran am rannau elfennol i'r dirywiad hwn.

·         CHR002 – Nifer y diwrnodau gwaith/shifftiau cyfwerth ag amser llawn a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch. Mae data'n cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae Polisi Rheoli Absenoldeb newydd hefyd yn cael ei adolygu. Mae cynigion hefyd wedi'u hanfon at y Tîm Rheoli Corfforaethol ar gyfer amcanion wedi'u targedu er mwyn lleihau salwch yn y tymor hwy. Hoffai'r panel weld dadansoddiad o'r dangosydd fesul adran a phroblem.

·         FINA6 - Canran arbedion ac incwm refeniw'r gronfa gyffredinol a nodwyd ar gyfer y flwyddyn o'u cymharu â'r gyllideb a gymeradwywyd yn wreiddiol. Mae'r Tîm Rheoli Corfforaethol yn parhau â'r disgwyliad bod yn rhaid cadw gwariant gwasanaethau a gwariant net cyffredinol o fewn y terfynau perthnasol ar gyfer cyllideb y flwyddyn gyfredol fel y'u pennwyd gan y cyngor.

·         Clywodd y Panel hefyd am y pedwar dangosydd sy’n ymwneud â'r amgylchedd a bioamrywiaeth yr adroddir amdanynt yn flynyddol. Byddant yn cynnwys: Gostyngiad Carbon, nifer y coed a blannwyd, ardaloedd o flodau gwyllt a heuwyd ac ansawdd dŵr. Hoffai'r Panel weld y disgrifyddion ar gyfer y rhain gan gynnwys sut y cawsant eu dewis a'u rhoi at ei gilydd.

·         Trafodwyd y Gweithgor Bioamrywiaeth Corfforaethol a chodwyd pryderon nad oes dull adrodd uniongyrchol ar gyfer hyn ar hyn o bryd mewn unrhyw gyfarfodydd cynghorwyr. Bydd Cynullydd Panel Craffu yr Amgylchedd Naturiol yn mynd ar drywydd hyn.

·         Codwyd hefyd fater craffu ar benderfyniadau a ddirprwyir a pha mor amlwg yw’r broses benderfynu yn y cyngor gan aelod o'r Panel a ddywedodd hefyd fod yr Adran Gyfreithiol yn ystyried sut y gall yr aelodau craffu weld y rhain. 

 

6.

Cynllun Gwaith 2019/20 pdf eicon PDF 266 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel y rhaglen waith.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth pdf eicon PDF 324 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Cyflwyno a Pherfformiad pdf eicon PDF 324 KB

Dogfennau ychwanegol:

Ymateb Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth pdf eicon PDF 316 KB