Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

 

Cofnodion:

Dim

5.

Y diweddaraf am y gronfa wrth gefn pdf eicon PDF 809 KB

·         Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd)

·         Ben Smith - Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y panel i'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid a'r Dirprwy Swyddog 151 am ddod i'r cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad ac ateb cwestiynau. Nodwyd y canlynol:

 

·         Mae adolygu a rheoli arian wrth gefn (fel yr amlinellir yn yr atodiad i'r adroddiad - Bwletin 99 Panel Cyfrifyddu'r Awdurdod Lleol) yn offeryn allweddol i gynnal cadernid ariannol.

·         Dengys yr adroddiad y sefyllfa ar 31 Mawrth 2019.

·         Cyfrifoldeb y Prif Swyddogion Ariannol yw dweud wrth awdurdodau lleol am faint o arian wrth gefn y dylid ei gael, a sicrhau bod protocolau clir i sefydlu a defnyddio'r cronfeydd hyn.  Ni ddylid cadw arian wrth gefn heb ddiben clir

·         Dyletswydd y Prif Swyddog Cyllid yw adolygu'n rheolaidd y sefyllfa o ran yr arian wrth gefn a ddelir.

·         Y rheswm dros gadw arian wrth gefn yw ei fod yn gweithredu fel 'clustog' i wariant.  Mae llawer o bwysau cost yn wynebu'r awdurdod lleol a daw rhai o'r rhain o fannau annisgwyl. 

·         Cronfa wrth gefn Yswiriant - risgiau cyffredinol i'r cyngor ac mae atebolrwydd yn fawr.  Mae'r cyngor yn hunan-yswirio'n bennaf oni bai ei fod dros ormodedd y cyngor ac yna bydd yr yswirwyr yn camu i mewn.

·         Tabl o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio sy'n dangos cyfanswm o £107,943m - eglurwyd y defnyddid y rhain i gefnogi gwariant.  Teimlai'r panel y gallai'r geiriad ynghylch hyn fod yn ddryslyd i'r cyhoedd ac y gellid ei esbonio'n well ond roedd yn deall eu bod yn eiriau ffurfiol ar gyfer y fath agweddau ariannol.  Defnyddir rhai termau eraill fel cronfeydd ad-dalu yn yr adroddiad, y gellid eu hegluro'n well i'r cyhoedd.

·         Clywodd y panel fod gan y cyngor hefyd £135,137m net nad oes modd ei ddefnyddio sy'n codi o fanylion technegol cyfrifo.  Ni ellir defnyddio'r rhain i gefnogi gwariant cyfalaf neu refeniw.

Clywodd y panel fod yr holl gronfeydd wrth gefn refeniw yn cael eu rheoli'n weithredol er mwyn cael yr enillion gorau, ond yn unol ag egwyddorion sicrwydd, hylifedd, elw a derbyniadau.

6.

Ailgylchu a Thirlenwi - Monitro Perfformiad Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 231 KB

·         Chris Howell - Pennaeth Rheoli Gwastraff a Pharciau

·         Y Cynghorydd Mark Thomas - Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

 

Cofnodion:

Diolchodd y panel i Aelod y Cabinet a Rheolwr y Gwasanaethau Gwastraff am gyflwyno'r adroddiad ac ateb eu cwestiynau.

 

·         Roedd y panel yn falch o glywed bod Cyngor Abertawe ar y trywydd iawn i gyflawni'r mesur ailgylchu 64%. Roedd hyn yn bwysig gan na fydd y cyngor yn derbyn dirwyon sylweddol os caiff ei dorri a hefyd mae'n golygu y bydd llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi.

·         Clywon nhw fod y cynnydd yn y ffigur ailgylchu'n rhannol oherwydd yr ymgyrch 'Nid fan hyn' lle'r oedd ymagwedd gryfach at orfodi'r hyn sy'n cael ei roi i'w gasglu ar ymyl y stryd wedi'i defnyddio.  Mae sachau du 90,000 o aelwydydd wedi'u gwirio ac yn o broses hon, dau yn unig sydd wedi derbyn hysbysiadau o gosb benodol.

·         Un o'r prif resymau y mae angen i'r plastig a gesglir fod yn lanach yw oherwydd y gallwn gael enillion gwell ar wastraff plastig sydd eisoes wedi'i ddidoli. 

·         Clywyd pa mor hanfodol ydyw i newid ac mai hyn yw'r peth iawn i wneud.  Rydym yn gwella ar ein cyfraddau'n barhaol, gan mai'r targed ar gyfer ailgylchu yn 2024/25 yw 70%.

·         Mae'r camau nesaf yn cynnwys edrych ar ffyrdd o gydweithio â chynghorau eraill i waredu gwastraff.  Bydd gennym le yn safle tirlenwi Tir John tan 2022 pan fydd yn rhaid i ni ddewis opsiwn gwahanol. Trafodwyd partneriaeth gydweithrediadol gyda Phen-y-bont ar Ogwr o ran gwastraff bwyd.

·         Gofynnodd y panel pam ei bod hi'n cymryd cyhyd i ddatblygu opsiynau cydweithredu ond roedd yn cydnabod cymhlethdod yr opsiynau hyn. Gellid cydweithredu'n llwyddiannus gyda Phen-y-bont ar Ogwr o ran gwastraff bwyd ond byddai'n broses hir a chymhleth cyn ei gwireddu.

·         Bydd y cyngor yn symud i ffwrdd o dirlenwi, oherwydd bydd Tir John yn llawn erbyn 2022. Mae opsiynau ar gyfer yr hyn fydd orau yn y dyfodol yn cael eu hystyried. Cydnabuwyd bod angen strategaeth ynni gwastraff ar ranbarth y De-orllewin, gyda'r posibilrwydd o gael safle troi gwastraff yn ynni ac mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod hyn. Bydd angen ateb ar gyfer Abertawe ynghylch yr hyn y byddwn yn ei wneud ar ôl 2022 o fewn y 12 mis nesaf. Mae'r cyngor yn gweithio ar hyn.

·         Parheir i roi pwyslais ar wahanu plastigion gartref, felly mae'r cyhoedd yn deall yr hyn sy'n ailgylchadwy neu beidio.

·         Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno targedau gwastraff i gontractwyr gwaredu gwastraff preifat, ac felly efallai gallwn gystadlu'n well.

·         Llongyfarchwyd y tîm gan y panel am y gwaith maen nhw'n ei wneud mewn ardaloedd lle mae myfyrwyr yn byw i gynyddu cydymffurfio.

·         Codwyd y mater fflatiau a sicrhau bod digon le a chyfleusterau i ailgylchu, a chydnabuwyd bod hyn yn gymhleth gan fod pobl bloc yn wahanol a bod angen atebion gwahanol. Rydym yn edrych ar ddod o hyd i atebion unigol, pwrpasol ond mae'n cymryd amser. Roedd y panel yn falch o glywed am y gwaith da hwn.

·         Hoffai'r panel weld dadansoddiad cost o'r hyn rydym yn ei gael am ddeunyddiau ailgylchadwy gwahanol. Rydym yn cydnabod mai ciplun mewn amser yn unig fydd hyn gan fod marchnadoedd yn amrywio'n fawr.

 

7.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1il 2018/19 pdf eicon PDF 210 KB

·         Richard Rowlands – Rheolwr Perfformiad Corfforaethol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Rheolwr Perfformiad Corfforaethol y cyngor yn y cyfarfod i drafod adroddiad monitro perfformiad chwarter 1. Dywedodd mai'r darlun cyffredinol oedd bod y rhan fwyaf o ddangosyddion wedi bodloni'r targedau yn Chwarter 1. Roedd 56 wedi gwella neu wedi aros yr un peth o'u cymharu â 67 y llynedd.

 

Roedd rhai o'r dangosyddion unigol a amlygwyd yn cynnwys:

·         AS13a – Nifer y gofalwyr (18+) sy'n derbyn asesiad gofalwr yn eu hawl eu hun.  Mae hyn wedi gostwng 18.8% o'r adeg hon y flwyddyn ddiwethaf.  Hysbyswyd y panel fod asesiadau'n cael eu cynnig ond hawl y gofalwyr yw gwrthod hyn. Fodd bynnag, maent yn ceisio annog gofalwyr er mwyn gwella'r nifer sy'n manteisio ar yr asesiad.

·         Mesur 19 - Oedi wrth drosglwyddo gofal - mae'n dangos y bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd (cynnydd o bron 68%), y'i priodolwyd yn ôl y sylw i ddiffyg argaeledd darparwr; dylai hyn wella gyda'r gwaith ail-gomisiynu sy'n digwydd, ynghyd â'r gwaith rhanbarthol sy'n cael ei wneud ar drosglwyddo o'r ysbyty i'r cartref.

·         CFS2 - Nifer y Plant sy'n Derbyn gofal ar ddiwedd y cyfnod. Mae hyn yn lleihau gan olygu bod mwy o blant mewn gofal, 7% yn fwy (36 o blant) na'r amser hwn y llynedd. Fodd bynnag, mae cyfradd y PDG fel y caiff ei mesur gan CFS18, yn gwella - mae'n dangos ail ostyngiad yn olynol yng nghyfradd y plant sy'n dod yn PDG. Niferoedd y plant mewn angen a'r plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant o'u cymharu â'r un cyfnod y llynedd.

·         SAFE27 – Cyfanswm y staff sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelu gorfodol. Nid oedd hyn wedi cyrraedd y targed, er nad yw'n glir os yw hyn oherwydd diffyg cydymffurfio neu am fod llai o ffurflenni'n cael eu dychwelyd wrth i fwy o staff gael eu hyfforddi. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i atgyfnerthu pwysigrwydd cwblhau'r hyfforddiant hwn.

·         SAFE28 - Canran yr Aelodau Etholedig sydd wedi derbyn hyfforddiant ar ddiogelu pobl ddiamddiffyn. Roedd y panel yn falch o weld ffigur o 100% ar gyfer hwn.

·         POV07 - Wythnosau hyfforddiant a chyflogaeth a grëwyd gan Y Tu Hwnt i Frics a Morter. Methwyd y targed ac mae perfformiad wedi disgyn bron 53% o'i gymharu â C1 y llynedd. Clywodd y panel am oediadau wrth ddechrau prosiectau, sydd wedi effeithio ar nifer yr wythnosau hyfforddiant a chyflogaeth sydd ar gael.

·         EDU015b – Canran y datganiadau o AAA terfynol a roddir o fewn 26 wythnos.  Clywodd y panel nad oed hyn wedi taro'r targed ond ei fod yn ymwneud ag un datganiad yn unig.

·         POV6 – Nifer cyfartalog y dyddiau y treuliodd yr holl deuluoedd digartref â phlant mewn llety gwely a brecwast.  Clywodd y panel y gall y dangosydd anwadal hwn ddangos cynnydd sydyn o bryd i'w gilydd. 

·         POV10 a POV11 - Cyflogaeth a gafwyd a chymwysterau a enillwyd gan Abertawe'n Gweithio - methwyd targedau a'r canlyniadau hyn oed dyr isaf a gafwyd ers dechrau cofnodi canlyniadau ar ddechrau'r llynedd. Clywodd y panel am y niferodd isel sy'n manteisio ar y cyfleoedd hyn a ffactorau eraill sy'n effeithio ar berfformiad oherwydd newydd-deb y rhaglen; disgwylir i hyn wella wrth i'r rhaglen aeddfedu.

·         HBCT01a a HBCT02a - mae'r amser a gymerir i brosesu ceisiadau newydd am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor wedi cynyddu o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Dywedir wrth y panel fod yr adroddiad yn nodi y disgwylir i berfformiad wella gyda threigl y flwyddyn.

·         EC2 - Canran yr holl brif gymwysiadau mewn cyfres o egwyddorion economaidd a gymeradwyir. Clywodd y panel hwn y byddai'r targed hwn wedi'i fodloni oni bai am ddwy gymeradwyaeth a wrthodwyd oherwydd polisi.

·         CHR002 - Nifer y diwrnodau gwaith/shifftiau cyfwerth ag amser llawn (CALl) a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch. Mae'r ffigur hwn yn uchel y chwarter hwn ac fe'i hamlygir yn goch ar y statws CAG. Nododd y panel fod y polisi rheoli absenoldebau'n cael ei adolygu. Caiff targedau penodol eu cynnwys yn amcanion y gyfarwyddiaeth a darperir cefnogaeth benodol i isadrannau lle ceir ffigyrau absenoldeb uchel.

·         FINA6 - Canran arbedion ac incwm Refeniw'r Gronfa Gyffredinol ar gyfer y flwyddyn o'i chymharu â'r gyllideb a gymeradwywyd yn wreiddiol - tynnwyd sylw'r panel at y sylw, sy'n adlewyrchu'r risgiau parhaus i gydbwyso'r gyllideb.

 

8.

Cynllun Gwaith 2019/20 pdf eicon PDF 270 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith. Dywedwyd wrth y panel am y gwahoddiad i'w aelodau fynd i gyfarfod y Panel Datblygu ac Adfywio ar 18 Tachwedd 2019 lle byddant yn edrych ar adroddiad FPR7.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Cyflwyno a Pherfformiad pdf eicon PDF 329 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Rheoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd pdf eicon PDF 312 KB