Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

·         Dim

4.

Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2017/18 pdf eicon PDF 155 KB

·         Richard Rowlands – Rheolwr Perfformiad Corfforaethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Daeth y Rheolwr Perfformiad Corfforaethol i adrodd am Adroddiad Monitro Perfformiad Blynyddol 2017/18
  • Ar y cyfan, cyflawnwyd 51% o ddangosyddion y targed ac roedd 56% wedi gwella o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Diogelu ac addysg oedd y blaenoriaethau lle cyflawnwyd dangosyddion y targedau leiaf.
  • Y flaenoriaeth a oedd yn cynnwys y nifer lleiaf o ddangosyddion cymaradwy a oedd yn dangos gwelliant o'i chymharu â'r llynedd oedd Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol.
  • Ar y cyfan, yn y Gwasanaethau i Oedolion, mae'r adroddiad yn cyfeirio at bwysau wrth reoli galw sy'n gysylltiedig ag atgyfeiriadau colli rhyddid ac oedi wrth drosglwyddo gofal.
  • Yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, mae'r ffigurau'n dangos cynnydd mewn galw a swm y gwaith sy'n effeithio ar rai dangosyddion - mae nifer y PDG wedi gostwng o'i gymharu â'r llynedd, cafwyd cynnydd bach yn nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant (gostyngiad yn yr amser a dreuliwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant) a gostyngiad yn nifer y plant mewn angen.
  • Roedd gostyngiad o 16% yn nifer yr asesiadau statudol o blant a gwblhawyd o fewn yr amserlen statudol o'i gymharu â'r llynedd wedi cyfrannu at newidiadau sy'n berthnasol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
  • Cwestiwn AS12 o ran cofnodi nifer y bobl sy'n bresennol yn y gwasanaethau dydd, mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth nag o'r blaen - angen mwy o wybodaeth gan y gwasanaeth.
  • SAFE8b - Nid yw pob aelod etholedig wedi cwblhau hyfforddiant diogelu - angen mwy o wybodaeth gan y gwasanaeth
  • Mae newidiadau i gwricwlwm yr ysgol, newidiadau i asesiadau athrawon a newidiadau i sut mae athrawon yn defnyddio dangosyddion yn effeithio ar ffigurau mewn addysg.
  • Mae bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim.
  • EEF002 - trafodwyd sut mae'r waelodlin yn cael ei phennu ar gyfer mesurau lleihau carbon - mae angen mwy o wybodaeth gan y gwasanaeth
  • Nid oes unrhyw broblemau mawr o ran y flaenoriaeth Trechu Tlodi
  • Mae lefelau salwch staff wedi cynyddu o'u cymharu â'r llynedd
  • Mae FINA6 yn dangos ddiffyg ac mae'n parhau i fod yn bryder sylweddol - i'w olrhain gan Swyddog Adran 151.
  • Edrychodd y panel hefyd ar y canlyniadau cenedlaethol - ar y cyfan, bodlonodd 63% o'r dangosyddion cenedlaethol y targed ac mae 65% wedi gwella
  • PAM019 Mae gan y panel ddiddordeb mewn gwybod sawl cais cynllunio a wrthodwyd gan swyddogion cyn iddynt gael eu caniatáu ar apêl - angen mwy o wybodaeth gan y gwasanaeth.

 

 

5.

Cynllun Gwaith 2018/19 pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

·         Cynllun gwaith diwygiedig ar gyfer y flwyddyn

·         Efallai y bydd eitemau ychwanegol yn cael eu hychwanegu wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 181 KB