Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

·         Dim

3.

Adroddiad Blynyddol - Safonau'r Gymraeg 2017/18 pdf eicon PDF 115 KB

·         Clive Lloyd – Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad (y Dirprwy Arweinydd)

·         Julie Nicholas-Humphreys - Customer Services and Complaints Manager

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Mae Adroddiad Blynyddol ar Safonau'r Gymraeg 2017/18 eisoes wedi cael ei gyflwyno i'r Cabinet
  • Cyflwynwyd y safonau er mwyn i'r sector cyhoeddus gydymffurfio â nhw
  • Ceir amrywiadau yn y ffyrdd y mae cynghorau'n glynu wrth y rheolau
  • Mae Cyngor Abertawe'n gweithio o fewn ffiniau cost i roi'r safonau ar waith hyd eithaf ei allu
  • Dylai hyn fod yn rhan o fusnes dyddiol pob gwasanaeth
  • Mae staff yn llawer mwy ymwybodol o hyrwyddo'r Gymraeg erbyn hyn
  • Mae yna dudalen ar y fewnrwyd lle gall staff gael mynediad at ymadroddion a geiriau cyffredin
  • Caiff y safonau a'r Uned Gyfieithu eu hail-lansio
  • Rydym am wella cysylltiadau â Chomisiynydd y Gymraeg
  • Efallai dylid defnyddio'r gair 'dehongliad' yn hytrach na 'cyfieithu'
  • Mae gan Uned Gyfieithu Abertawe 12 aelod o staff, ac mae'n brosiect ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot fel rhaniad 60/40
  • Mae gwerth oddeutu £42,000 o waith cyfieithu'n cael ei gwblhau'n allanol ar hyn o bryd oherwydd problemau gallu ond mae hyn yn cael ei adolygu
  • Dylai opsiynau Cymraeg a Saesneg fod yn deg
  • Mae yna botensial i fasnachu gwaith yr Uned Gyfieithu yn y dyfodol
  • Gallai fod cyfleoedd ehangach gyda gweithio rhanbarthol
  • Caiff rôl Hyrwyddwr y Gymraeg ei adolygu
  • Mae angen sicrhau bod yna sgiliau iaith sylfaenol e.e. cyfarchion dwyieithog ar y ffôn er mwyn cyflawni goblygiadau'r safonau

 

 

4.

Y diweddaraf am daliadau pdf eicon PDF 255 KB

·         Chris Williams – Pennaeth Gwasanaethau Masnachol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Ymarfer ailadroddus yw hwn - cyflwynwyd eitem am ffïoedd i'r panel y llynedd

·         Mae'r eitem hon yn trafod holl ffïoedd a thaliadau'r cyngor

·         Gellir defnyddio'r eitem hon ar ddechrau'r broses adolygu ac mae'n galluogi'r panel i ganolbwyntio ar unrhyw feysydd penodol o'u dewis 

·         Mae'n cynnig cyfres gyfanredol o ddata i'w adolygu - mae pob maes gwasanaeth yn poblogi ei ddata ei hunan

·         Mae'n anodd cymharu taliadau rhwng awdurdodau lleol gan eu bod wedi'u cyflwyno'n wahanol rhwng awdurdodau

·         Mae Cyngor Abertawe'n ymdrechu i fod yn deg ac yn dryloyw gyda thaliadau

·         Ystyrir codi tâl fel rhan o'r broses gyllidebu

·         Mae Cyngor Abertawe'n ceisio sicrhau nad yw codiadau'n ormodol o'u cymharu â chynghorau eraill

·         Ceir meysydd lle nad yw Abertawe'n codi tâl ond mae cynghorau eraill yn, megis gwastraff gardd

·         Gofynnwyd cwestiwn am y polisi taliadau ar gyfer cychod ym Mhier Southend - bydd yr adran yn ymateb

·         Mae yna ymagwedd deg, resymol a mesuredig at daliadau

·         Bydd pwerau newydd posib i Gymru, sef 'Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol', yn caniatáu i gynghorau weithredu mewn ffordd fwy masnachol i greu incwm

·         Yn hytrach na thrafod yr adroddiad cyfan - gellir cyfyngu'r eitem ar daliadau yn y dyfodol i'r rheiny sy'n codi'n uwch na chwyddiant am unrhyw reswm, neu daliadau sy'n newydd neu sy'n cael eu newid yn sylweddol 

 

5.

Gwahardd y cyhoedd pdf eicon PDF 114 KB

6.

Y diweddaraf am daliadau

Chris Williams – Pennaeth Gwasanaethau Masnachol

Cofnodion:

·         Trafodwyd eitemau eithriedig