Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny - 637732
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
2. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
·
Rhaid i gwestiynau ymwneud
â materion yn rhan agored agenda'r
cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod
o 10 munud.
Cofnodion:
|
3. |
Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant PDF 75 KB
·
Phil John - Rheolwr Prosiect, Priffyrdd a Chludiant
·
Stuart Davies – Pennaeth
Gwasanaeth, Priffyrdd a Chludiant
·
Mark Thomas – Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Canslwyd y cyfarfod oherwydd
problemau gyda phapurau'r Cabinet.
Trefnir cyfarfod arall.
Cynhaliwyd cyfarfod
ar 14 Chwefror i gynnwys adroddiad
ychwanegol na
chafodd ei gynnwys yn y gwaith
papur gwreiddiol.
Nodiadau fel
a ganlyn:
(Sylwer: Gohiriwyd
y cyfarfod hwn tan 14 Chwefror)
- Mae'r adroddiad hwn wedi bod yn yr arfaeth am
gryn dipyn o amser ond oherwydd adolygiadau a newidiadau sy'n gorgyffwrdd,
bu'n rhaid ei ohirio.
- Y bwriad oedd dadansoddi'r holl wasanaeth yn
drylwyr, gan ystyried y sefyllfa bresennol a meincnodi lle bo'n briodol.
- Mae ymgais i symleiddio'r holl wasanaethau.
- Ystyriwyd cynigion anffafriol am gyllid, gan
wrthod y rheiny nad oeddent yn briodol.
- Ceisio cael staff i weithio ar sawl tasg
cymaint â phosib lle bo hynny'n briodol.
- Mae cyfyngiad i'r toriadau y gellir eu gwneud
cyn niweidio gwasanaeth.
- Mae ffyrdd yn dioddef o ddiffyg cyllido mawr
ond mae'r adran yn ceisio bod yn flaengar.
- Cwblhau archwiliadau diogelwch ffyrdd i
awdurdodau lleol eraill er mwyn mwyafu incwm
- Bodlonrwydd mawr bod rheolaeth yr orsaf fysus
yn effeithlon ac yn gost-effeithiol
- Cydnabuwyd
llwyddiant y Marina
- Cydnabuwyd
bod ffurfio Uned Gludiant Integredig yn rhywbeth cadarnhaol
- Trafodwyd
materion gorfodi parcio ar y stryd ac anawsterau wrth roi cynlluniau
parcio i breswylwyr ar waith
- Archwiliwyd
a oes uchafswm o arian y gellir ei wario yn
mhob ward etholiadol y
flwyddyn ar waith atgyweirio tîm PATCH
- Caiff rhai ffyrdd eu harchwilio'n fisol a
rhai'n flynyddol. Ceir amserlenni atgyweirio gyda phroblemau ffyrdd
difrifol. Rydym mewn sefyllfa well na llawer o awdurdodau lleol eraill ond
nid yw trwsio tyllau yn y ffyrdd yn gwella rhwydwaith y ffyrdd.
- Nid oes digon o arian yn cael ei wario ar
gynnal a chadw ffyrdd a chynnal a chadw ardaloedd ger y ffyrdd.
- Ystyriwyd a oes terfyn arian o ran yr hyn y
gellir ei wario ym mhob ward etholiadol bob blwyddyn.
- Mae goleuadau LED wedi bod yn llwyddiannus;
nid yn unig y mae wedi arbed arian ond mae wedi arwain at leihau defnydd
ynni a lleihau allyriadau carbon. Ystyriwyd pa ardaloedd yn Abertawe sy'n
aros am oleuadau LED i gael eu gosod o hyd.
- Mae'r adolygiad yn gynhwysfawr ac yn fanwl
iawn.
- Canmoliaeth i'r tîm am ei lunio
|
4. |
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 122 KB
Cofnodion:
|
5. |
Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant
Cofnodion:
Trafodwyd yr
eitemau eithriedig
|