Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 637732
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
2. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
·
Rhaid i gwestiynau ymwneud
â materion yn rhan agored agenda'r
cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod
o 10 munud.
Cofnodion:
|
3. |
Craffu ar y Gyllideb Flynyddol PDF 101 KB
Cofnodion:
Panel
Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid - Pwyntiau Trafod ar y Gyllideb
Amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol:
- Yn gyffredinol,
ysgrifennodd Ben Smith yr adroddiad yn dda - mae'n hygyrch a dyma'r gorau
rydym wedi'i weld ers amser hir. Canmoliaeth i Ben.
- Roedd yr ymarfer
ymgynghori yn anfoddhaol. Roedd yn generig ac nid oedd yn geirio
cwestiynau'n gywir er mwyn manteisio i'r eithaf ar rannu gwybodaeth. Mae'r
ffordd yr ydych yn gofyn cwestiynau ac i bwy yr ydych yn gofyn yn bwysig.
Dylid gwella hyn wrth symud ymlaen.
- Mae'r Costau
Ariannu Cyfalaf yn destun pryder gan nad oes cynnydd yn yr arian gan
Lywodraeth Cymru.
- Mae'n bwysig
ystyried manylion rhai buddsoddiadau, er enghraifft, faint o rent ddaw
allan o eiddo y bydd y cyngor yn eu prydlesu.
- Mae cyllideb wrth
gefn/gadw o £3m ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ymddangos yn isel
Panel
Perfformiad Ysgolion
Amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol:
- Mae'r panel yn
cefnogi'r cynigion cyllidebol sy'n ymwneud ag addysg a sut y dyrannwyd
arian, o ystyried y sefyllfa gyllidebol bresennol.
- Codwyd y mater o
dderbyn cyllideb flwyddyn ar ôl blwyddyn gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig
wrth ystyried yr angen i gynllunio gwasanaethau dros y tymor hwy (fel y cyfeiriwyd
ato yn Neddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol). Mae'r panel yn cydnabod
bod yr awdurdod yn datblygu cynllun tymor canolig 3 blynedd dangosol ond
bydd hwn yn newid o flwyddyn i flwyddyn gan ddibynnu ar ddyraniad yr
awdurdod lleol gan Lywodraeth Cymru. Byddai'r panel yn annog cynghorau i
weithio gyda'i gilydd i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru o ran
datblygu cynllun ariannu tymor hwy. Roedd y panel hefyd yn awyddus i weld
newidiadau'n cael eu gweithredu a fyddai'n lleihau oedi rhwng dyrannu grantiau
gan Lywodraeth Cymru a derbyn yr arian hwnnw.
- Roedd gan y panel
bryderon am yr effaith y bydd y gostyngiad 11% yn y grant gwella addysg yn
ei chael ar wasanaethau cefnogi, yn enwedig y Gwasanaeth Cyflawniad
Lleiafrifoedd Ethnig, ond roedd yn falch o glywed bod yr awdurdod yn
bwriadu llenwi'r bwlch ar gyfer rhai gwasanaethau gan ddefnyddio arian
wrth gefn am flwyddyn.
- Clywodd y panel
fod rhai ysgolion yn rheoli'r sefyllfa gyllidebol anodd yn well nag
eraill: teimlodd y panel y byddai rhannu arfer da ar draws ysgolion mewn
perthynas â'r agwedd hon yn fuddiol iawn.
- Gellid ystyried
lleihau cost cludiant ysgol drwy ddefnyddio adnoddau cludiant y mae'r
cyngor eisoes yn berchen arnynt. Gweithio ar draws adrannau, er
enghraifft, defnyddio bysus mini'r gwasanaethau cymdeithasol.
Panel
Gwasanaethau i Oedolion
Amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol:
- Y llynedd,
gwariwyd £3m dros y gyllideb yn adran y Gwasanaethau i Oedolion. Mae'r panel o'r farn na reolwyd y
gorwariant y llynedd.
- Mae anghysondeb yn
y ffigurau - dywedwyd wrth y panel fod y gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau
i Oedolion y flwyddyn nesaf wedi cynyddu £3.5 miliwn. Fodd bynnag, ar
dudalen 118 y cynigion cyllidebol, nodir £2.7 miliwn ac ar dudalen 182,
nodir bod y swm yn cyfateb i £4.5 miliwn. Mae angen eglurhad o ran y
ffigur cywir.
- Mae'r panel yn
bryderus na chyflwynir arbedion eleni, er y dywedwyd wrtho y gellid gwneud
hynny.
- Roedd y panel yn
bryderus y bwriedir parhau â'r argymhelliad i osod taliadau newydd ar
gyfer canolfannau dydd er bod 70% o'r ymgyngoreion wedi gwrthwynebu
iddynt.
Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd
Amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol:
- Mae'r panel yn
weddol fodlon ar y gyllideb arfaethedig ar gyfer y GPTh yn ystod 2018/19,
gan gynyddu a mwyafu'r gwelliannau.
- Nodwyd bod y
gyllideb gynyddol ar gyfer y GPTh yn bennaf er mwyn talu am gynnydd
chwyddiannol cyflogau.
- Mae'r panel yn
meddwl bod angen monitro Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
(GIMPPhI) yn agos.
- Mae'r panel yn
meddwl bod ymyrryd yn gynnar yn bwysig iawn. Mae'n croesawu'r ffordd flaengar o
feddwl ond bydd am fonitro hyn wrth symud ymlaen.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet -Economi a Strategaeth PDF 205 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth PDF 288 KB
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Gwasanaethau’r Amgylchedd PDF 182 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Gwasanaethau’r Amgylchedd PDF 338 KB
|