Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd pdf eicon PDF 74 KB

·         Lee Morgan - Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd

·         Mark Wade – Rheolwr Busnes Tai

·         Y Cynghorydd Mark Thomas – Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Daeth Lee Morgan gyda Mark Wade ac Aelod y Cabinet Mark Thomas ac fe amlinellodd y gwasanaethau yn eu cyfanrwydd

 

·         Eglurodd mai gwasanaethau rheng flaen oedd y rhan fwyaf ohonynt ac felly roedd ganddynt effaith uniongyrchol ar breswylwyr

 

·         Gwasanaethau statudol yw'r rhan fwyaf ohonynt a derbynnir 61% o'r gyllideb drwy incwm

 

·         Mae cymharu â chynghorau eraill yn anodd gan fod pob un ohonynt yn cynnal y gwasanaethau hyn mewn ffyrdd gwahanol

 

·         Gellid codi tâl am wasanaethau rheoli plâu ond bydd codi tâl ar breswylwyr yn golygu y bydd llai o alw ar y gwasanaeth, sy'n andwyol i iechyd y cyhoedd

 

·         Mae Abertawe'n codi tâl canolig ar gyfer gwasanaethau megis priodasau wrth eu cymharu â chynghorau eraill

 

·         Mae'r adran hon yn werth da iawn am arian ond gallai gael ei hysbysebu'n fwy

 

·         Yn ôl pob golwg, nid yw’r ymdrech a ddarperir o ran y cyfleoedd masnachol yn cael effaith fawr. Mae angen ystyried hyn yn ofalus gan na ddylid effeithio ar rwymedigaethau statudol.                 

 

 

 

3.

Trafodaeth a Chwestiynau

a) Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

b) Barn y Panel ar gyfer y Cabinet

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 109 KB