Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Hopkins - 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 118 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cymeradwywyd

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Dim

4.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 3 2017/18 pdf eicon PDF 146 KB

Richard Rowlands – Rheolwr Perfformiad Corfforaethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Daeth Richard Rowlands i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 2017/18
  • Cyflawnwyd 58% o'r targedau yn y Perfformiad Corfforaethol yn erbyn y targed
  • Mae tudalen 13 o'r adroddiad yn dangos bod y flaenoriaeth Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol yn dangos dirywiad mewn perfformiad.

 

Blaenoriaeth 1 - Diogelu

  • Mae AS8/AS9/Mesur 19 i gyd yn dangos canlyniadau gostyngol
  • Mae gan CFS18/CFS19/Mesur 24 dueddiadau gostyngol o ganlyniad i lefel galw uchel – dywedodd y Cyng. Paxton Hood-Williams, cynullydd y Panel Craffu Perfformiad Gwasanaethau Plant, er bod y mesurau'n dangos tueddiadau gostyngol, mae'n bwysig bod y materion diogelu'n cael eu nodi a bod y panel perfformiad yn monitro hyn.

 

Blaenoriaeth 2 – Addysg a Sgiliau

  • Mae EDU016a a thuedd ychydig am i lawr ers y llynedd

 

Blaenoriaeth 3 – Yr Economi ac Isadeiledd

  • EC4 - cafwyd oedi wrth adeiladu tai newydd

 

Blaenoriaeth 4 – Trechu Tlodi

  • SUSC1/SUSC3 - Dengys y ddau ostyngiad graddol mewn perfformiad ond mae'r panel yn ansicr pa mor effeithiol yw barn canfyddiad wrth fesur perfformiad

 

Blaenoriaeth 5 – Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol

  • CUST6/SUSC2 - Dirywiad mewn tueddiadau, eto oherwydd barn gyhoeddus
  • CHR002 - Sefydlwyd grŵp tasg a gorffen i adolygu'r amodau a'r telerau gan gynnwys rheoli'r polisi absenoldeb
  • FINA6 – mae'r mesur hwn dal yn gyraeddadwy ond mae wedi'i oedi
  • Gan fod targedau'n newid bob blwyddyn, mae'n anodd iawn mesur cysondeb
  • Ceir ymdrechion i gael cysondeb yn y mesurau eu hunain fel y gellir datblygu tueddiadau
  • Gall Rheolwr Perfformiad Corfforaethol ddod â data tueddiadau ar gyfer rhai DP os yw'n gwybod pa rai yr hoffai'r panel eu gweld ymlaen llaw

 

 

5.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

·         Trafodwyd gweddill y cynllun gwaith - eitem ar daliadau wedi'i threfnu ar gyfer y cyfarfod nesaf

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 181 KB