Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Hopkins - 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 2017/18 PDF 102 KB Richard Rowlands – Rheolwr Perfformiad Corfforaethol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddiad Monitro
Perfformiad 2il Chwarter 2017-18 ·
Roedd
Richard Rowlands yn bresennol i gyflwyno Adroddiad Monitro Perfformiad yr 2il
Chwarter, gan ganolbwyntio ar feysydd a oedd yn dangos perfformiad COCH. ·
O ran
perfformiad corfforaethol yn erbyn targedau, mae'r rhan fwyaf o dargedau wedi'u
cyflawni, ond mae'r perfformiad cyffredinol wedi dirywio o'i gymharu â'r un
cyfnod y llynedd. Blaenoriaeth
1 – Diogelu ·
Mae
trosolwg Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol yn datgan bod y galw am
wasanaethau statudol i oedolion a phlant yn parhau i fod yn uchel. ·
CFS16
(cyfarfodydd grŵp craidd a gynhaliwyd o fewn 10 niwrnod i'r gynhadledd
amddiffyn plant gychwynnol) yw'r canlyniad isaf ers cofnodion 2015/16 o
ganlyniad i lefelau uchel y gwaith amddiffyn plant. ·
Mae
CFS19 (nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant) wedi cynyddu o'i gymharu â
phob chwarter y llynedd, sydd hefyd yn cael ei briodoli i gynnydd yn swm y
gwaith amddiffyn plant. ·
Dengys
Mesur 24 (asesiadau plant a gwblhawyd o fewn terfynau amser statudol) duedd
ostyngol. Mae'r dirywiad yn yr 2il chwarter yn cael ei briodoli i'r cynnydd yn
nifer yr atgyfeiriadau yn y chwarter 1af sy'n cyrraedd y cam asesu. ·
Er
gwaethaf rhai anawsterau, mae perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn
gadarnhaol iawn o ran y gwaith ataliol sy'n cael ei wneud. ·
Er
enghraifft, roedd AS14 (y rhai a oedd wedi cwblhau'r broses ailalluogi nad
ydynt yn derbyn gofal mwyach neu sy'n derbyn llai o ofal 6 mis yn ddiweddarach)
89% yn well o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. ·
Esboniodd
y Cadeirydd fod paneli penodol ar gyfer
y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a dylai aelodau sydd am
gael mwy o wybodaeth gyfeirio cwestiynau i'r paneli hyn. ·
Dywedodd
Aelod y Cabinet Clive Lloyd fod y mesur ar gyfer aelodau i gwblhau'r
hyfforddiant diogelu wedi gwella ac roedd hyn yn ddymunol. Blaenoriaeth
2 – Addysg a Sgiliau ·
Dengys
perfformiad presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd y canlyniad isaf ar
gyfer yr 2il chwarter ers 2015/16, a'r canlyniad cyffredinol isaf ers 2il
chwarter 2014/15. Fodd bynnag, mae perfformiad yn parhau i fod yn gadarnhaol
pan gaiff ei ystyried dros y cyfnod o 5 mlynedd. Blaenoriaeth
3 - Yr Economi ac Isadeiledd ·
Nid
oes unrhyw faterion perfformiad sylweddol i adrodd amdanynt. Blaenoriaeth
4 – Trechu Tlodi ·
Cyflawnwyd
bron bob targed. ·
HBCT01A/02A
– bu dirywiad o ran cyflymder prosesu Budd-dal a hawliadau gostyngiad Treth y
Cyngor ers 4ydd chwarter y llynedd. Ar
gyfer y chwarter hwn, cyfeiriodd yr adroddiad at gyfuniad o brinder staff a
chamgymeriadau fel rhesymau dros ostyngiadau mewn perfformiad. ·
Mae tuedd
SUSC1 (boddhad pobl â'u hardal fel lle i fyw) ac SUSC3 (pobl sy'n cytuno bod eu
hardal yn rhywle lle mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu) ar i lawr
ers 3ydd chwarter y llynedd - er bod y perfformiad yn parhau i fod yn well nag
yn 2015/16. Blaenoriaeth
5 - Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol ·
CHR002
– mae tuedd lefelau salwch staff yn dangos gwelliant. ·
CUST5
a CUST6 (boddhad cwsmeriaid) - dengys yr arolygon hyn sy'n ymwneud â
chanfyddiadau'r cyhoedd, y canfyddiadau isaf a gofnodwyd erioed. ·
Mae
FINA6 (arbedion ac incwm) yn parhau i beri pryder; trafododd y Swyddog Adran
151 hyn yng nghyfarfod diwethaf y panel. |
|
Adroddiad Blynyddol Cwynion Corfforaethol 2016/2017 PDF 106 KB ·
Clive Lloyd – Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad ·
Andrew Taylor – Rheolwr
Cwynion · Tracey Meredith – Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: ·
Daeth
Andrew Taylor i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Cwynion. ·
Hon
fu'r flwyddyn brysuraf a gofnodwyd erioed. Mae cwynion yn cynyddu bob blwyddyn
a bu cynnydd o 16% y llynedd - y gred yw bod hyn yn deillio i raddau helaeth
o'r mesurau cyni sydd ar waith. ·
Mae
gweithdrefnau penodol ar gyfer dilyn cwynion wrth iddynt godi gan ddibynnu ar
destun y gŵyn. ·
Mae
swyddogion dynodedig yn ymdrin ag ymholiadau penodol, e.e. gwasanaethau
cymdeithasol. ·
Mae
cwynion yn wahanol i geisiadau am wasanaethau. Mae ceisiadau am wasanaethau'n
gofyn i wasanaeth gwblhau neu gyflawni tasg briodol. Mae cwyn yn ymwneud ag
ansawdd gwasanaeth neu fethiant parhaus i fodloni safonau. Mae'r tîm yn nodi'r
gwahaniaeth pan gysylltir â hwy. ·
Mae'r
tîm wedi mabwysiadu'r model cwynion 'Cymru Gyfan' ·
Mae camau
gwahanol yn y broses gwyno. Nod Cam 1 yw datrys y broblem o fewn 10 niwrnod
gwaith drwy uwch-aelod o adrannau'r gwasanaeth. Os na ellir gwneud hyn er
boddhad cwsmeriaid, yna gellir mynd ag ef rhagddo i Gam 2, sy'n gofyn am
ymchwiliad mwy manwl gan y Tîm Cwynion. ·
Mae
rhai cwynion yn gymhleth ac yn cymryd mwy o amser na'r 10 niwrnod gwaith a
ffefrir, ond rhoddir gwybod i'r cleient am hyn. ·
Mae'r
ffigurau'n cynnwys pob cwyn a wneir yn uniongyrchol i adrannau'r gwasanaeth hefyd
gan fod cronfa ddata ganolog a rennir y mae pawb yn cyfrannu ati. Cesglir y
data oddi yno. ·
Mae'r
Tîm Cwynion yn ceisio bod mor annibynnol â phosib ac yn gweithio gyda'r
adrannau i geisio datrys problemau'n gyflym. ·
Mae
gwahaniaethau rhwng 'cwynion' a 'beirniadaethau' ac mae'r Tîm Cwynion yn
gwahaniaethu rhwng y rhain pan gysylltir â hwy. ·
Mae
43% o gwynion naill ai'n gwbl gyfiawn neu'n rhannol gyfiawn. ·
Cynyddodd
cwynion Cam 2 37% - mae'r tîm yn fach a chollwyd aelodau o staff. Os na ellir
bodloni'r terfyn amser, mae'r tîm yn esbonio pam. ·
Mae'r
tîm hefyd yn cadw cofnodion o gwynion ynglŷn â'r Gymraeg. P'un a ydynt yn
ymwneud â defnyddio'r Gymraeg neu a wneir y gŵyn ei hun yn Gymraeg. ·
Mae
ffordd benodol ac ychydig yn wahanol o gofnodi cwynion ynglŷn â'r
Gwasanaethau Cymdeithasol. ·
Nid
ymchwiliodd yr Ombwdsmon i unrhyw fater y cyfeiriwyd ato o Abertawe – mae hyn
yn ddymunol. ·
Derbynnir
sylwadau canmol hefyd ac adroddir am y rhain i'r Tîm Rheoli Corfforaethol bob
mis. ·
Mae'n
anodd ymdrin â phobl sy'n gwneud sylwadau andwyol ar gyfryngau cymdeithasol ond
mewn rhai amgylchiadau mae Cyngor Abertawe wedi cysylltu â'r Heddlu, felly
dylai unrhyw aelod sy'n cael profiad negyddol roi gwybod i'r cyngor. ·
Os
wneir cwynion dienw ynglŷn â diogelu, ni chânt eu hanwybyddu. ·
Trafodir
eithriadau sy'n gysylltiedig â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth. ·
Cyrhaeddodd
3 chwyn y Comisiynydd Gwybodaeth. ·
Andrew
Taylor yw'r swyddog adolygu Rhyddid Gwybodaeth. ·
Disgwylir
safonau ymddygiad gan gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau Cyngor Abertawe.
Mae hyn yn golygu na ddylai aelodau o staff fod yn destun ymddygiad sarhaus neu
amhriodol. ·
Atgoffwyd
staff y gallant gyfeirio unrhyw gwynion y maent yn eu derbyn i'r Tîm Cwynion
hefyd. ·
Cyfeiriwyd
Adroddiadau Cwynion Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y
Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaethau i Oedolion i'r paneli priodol. ·
Mae
cwynion yn cynyddu bob blwyddyn. |
|
Cynigion Cyllidebol 2018/19 PDF 102 KB Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ·
Roedd
y Cynullydd wedi anfon rhestr o gwestiynau at Ben Smith i'w hateb o ran y
cynigion cyllidebol drafft. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 90 KB Cofnodion: ·
Cyflwynir
yr Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant i'r panel ar ddechrau mis
Chwefror. ·
Creffir
ar y gyllideb ar 6 Chwefror. |