Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Hopkins - 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cymeradwywyd |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Cofnodion: Dim |
|
Ailgylchu a Thirlenwi - Monitro Perfformiad Blynyddol PDF 86 KB Keith Coxon - Rheolwr Perfformiad a Phrosiectau Cofnodion: ·
Daeth
Keith Coxon, Rheolwr Prosiectau a Pherfformiad, i roi'r diweddaraf i'r panel ar
Adroddiad Blynyddol Monitro Perfformiad Ailgylchu a Thirlenwi ·
Mae'r gwasanaeth wedi bodloni
ei dargedau gwastraff statudol dros y 12 mis diwethaf ac wedi gwella arnynt a
gweld cynnydd o 4.17% ar dargedau'r llynedd ·
Mae Data Llywodraeth Leol
ynglŷn â pherfformiad gwastraff dinesig braidd yn gamarweiniol. Gan nad yw
Cyngor Abertawe'n llosgi gwastraff (mae'n rhy ddrud ac mae ardaloedd tirlenwi
ganddo), ni all elwa o ddefnyddio llwch tuag at ei darged ailgylchu. Er
gwaethaf hynny mae Cyngor Abertawe yn parhau i fodloni ei dargedau ailgylchu ·
Mae dangosydd perfformiad
tirlenwi yn y Bwletin Perfformiad Awdurdod Lleol yn gosod Abertawe yn 22/22
allan o bob awdurdod lleol Cymru achos nad yw Abertawe'n llosgi ei wastraff,
felly mae 100% ohono'n mynd i safleoedd dirlenwi ·
Ar
hyn o bryd mae problemau sy’n gysylltiedig ag ailgylchu pren. Gall paent,
cyffieithiwr etc ar bren effeithio ar sut y caiff ei ailgylchu ·
Nid
oes unrhyw weithfeydd llosgi yn ne-orllewin Cymru. Mae un yng Nghaerdydd ond ni
all Abertawe ei defnyddio. Mae Sir Benfro a Sir Ceredigion yn anfon eu
gwastraff i Sweden i'w losgi ·
Mae Llywodraeth Cymru’n
awyddus i gael gweithfa llosgi yn ne-orllewin Cymru ac mae Keith Coxon yn
asesu’r galw am losgi ac yn cynnal ymchwil i hwn ·
Mae trafodaeth ar waith
ynglŷn â dynodi sachau penodol (porffor a melyn) ar gyfer cewynnau a
gwastraff ymataliaeth fel nad yw'r gwastraff hwn yn cael ei gynnwys yn y sachau
du ·
Gwelwyd cynnydd bach yn tipio
anghyfreithlon ers symud y sgipiau ar gyfer gwastraff gweddilliol ond yn llawer
llai na swm y sbwriel oedd yn cael ei waredu yn y sgipiau'n wreiddiol ·
Mae'r
cyngor yn ceisio annog pobl nad ydynt yn ailgylchu llawer neu o gwbl i wneud
hynny ond nid yw hyn yn hawdd ·
Gall annog ailgylchu mewn
ardaloedd lle mae myfyrwyr fod yn ddyrys ond mae'r awdurdod yn gweithio gyda'r
brifysgol a landlordiaid i wella'r sefyllfa. Serch hynny mae natur dros dro
myfyrwyr yn gwneud hyn yn anodd ·
Y broblem gyda phlastigion
caled a meddal yw bod plastigion meddal yn atal y peiriannau rhag didoli
deunydd effeithiol. Roedd angen i'r plastigion meddal gael eu didoli’n fwy
manwl (e.e. fesul polymer) ac roedd y gost o gael staff i wneud hyn â llaw yn
rhy ddrud i'w roi ar waith. Mae opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar hyn o
bryd ·
Mae'r adran yn gweithio gyda'r
Adran Cynllunio i geisio sicrhau bod cyfleusterau ailgylchu yn cael eu gosod yn
nhai amlfeddiannaeth yn y cam cynllunio ·
Dylid
yn edrych ar wraidd y problemau hyn (gorddefnydd o blastigion meddal a
chynhyrchwyr/landlordiaid sy’n methu cymryd cyfrifoldeb) |
|
Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2017/18 Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth Cofnodion: ·
Daeth
Sarah Willis ac Amanda Thomas ar ran Ben Smith ·
Ni
fanylwyd ar y datganiad gan ei fod wedi'i gyflwyno i'r cyngor yr wythnos gynt ·
Archwiliwyd
pam roedd angen datganiad cyllideb canol flwyddyn ynghyd ag adroddiad yn
chwarter 2 ·
Mae adroddiad
chwarter 2 yn edrych i'r gorffennol ond mae'r datganiad cyllideb canol blwyddyn
hefyd yn edrych i'r dyfodol ac mae'n fanylach |
|
Y Diweddaraf am y Gronfa wrth Gefn PDF 140 KB Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth Cofnodion: ·
Cyflwynwyd
yr adroddiad i'r cyngor yr wythnos gynt felly roedd y panel wedi cael amser i
ddarllen y materion ·
Codwyd rhai cwestiynau
ynglŷn â'r adroddiad a gaiff eu cynnwys yn y llythyr |
|