Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Hopkins - 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 6 Medi 2017 fel cofnod cywir

3.

Ymatebion i ymholiadau o'r cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd.

4.

Adroddiad Blynyddol - Safonau'r Gymraeg 2016/17 pdf eicon PDF 906 KB

Rhian Millar – Cydlynydd Ymgynghori

Ann Williams – Gweinyddwr Rhwydwaith 50+

 

Cofnodion:

4. Roedd Rhian Millar, Cydlynydd Ymgynghori, ac Ann Williams, Swyddog Datblygu Polisi Cydraddoldeb, yn bresennol er mwyn briffio'r panel ar Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2016/17.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd

 

  • Daeth y safonau i rym ym mis Mawrth 2016 ac mae'r Adroddiad Blynyddol yn orfodol
  • Mae llawer o gefnogaeth ar gael i staff, gan gynnwys hyfforddiant a Hyrwyddwr y Gymraeg ym mhob adran.
  • Mae yna gynllun amlinellol 5 mlynedd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg - mae asiantaethau allanol megis Menter Iaith wedi cael eu cynnwys
  • Y Prif Weithredwr a'r Tîm Rheoli Corfforaethol sy'n gyfrifol a Mynediad i Wasanaethau yw'r pwynt cyswllt cyntaf
  • Mae cortynnau gwddf 'siarad Cymraeg' ar gael gan y staff diogelwch a gwnaed gwaith i sefydlu grwpiau
  • Cafwyd cynnydd a gwelliant o ran deall yr angen i gydymffurfio a defnyddio gwasanaethau cyfieithu yn gywir

 

Cwestiynau a thrafodaethau dan sylw

 

  • Roedd y panel yn hoffi'r cortynnau gwddf sy'n nodi eich bod chi'n siaradwr Cymraeg neu'n dysgu'r Gymraeg a gofynnwyd p'un a yw'r Cynghorwyr yn gwybod amdanynt.
  • Gofynnodd y panel os yw'r Adroddiad Blynyddol ar gael yn y Gymraeg
  • Gofynnodd y panel i newidiadau yn unig gael eu hadrodd i'r panel yn flynyddol yn hytrach na'r Adroddiad Blynyddol llawn.
  • Mae Safon 33 yn mynnu bod gwasanaethau cyfieithu ar gael mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Bu trafodaeth am ystyr cyfarfod cyhoeddus.

 

Camau gweithredu

 

  • Lledaenu gwybodaeth am gortynnau gwddf i'r holl gynghorwyr drwy'r Gwasanaethau Democrataidd
  • Anfon dolen i fersiwn Gymraeg yr Adroddiad Blynyddol i'r panel
  • Bydd Ann Williams yn egluro ystyr 'cyfarfod cyhoeddus'. Rhoi'r diweddaraf i'r panel.

 

5.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1af 2017/18 pdf eicon PDF 104 KB

Richard Rowlands – Rheolwr Perfformiad Corfforaethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5. Daeth Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol, i'r cyfarfod er mwyn briffio'r panel ar Chwarter 1 Adroddiad Monitro Perfformiad 2017/18.

 

 

 

Pwyntiau allweddol a godwyd

 

  • Mae AS9 (Canran yr asesiadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a gwblhawyd mewn 21 diwrnod neu lai) yn bryder barhaol - sefydlir tîm newydd i fynd i'r afael â hyn.
  • Cyfanswm nifer y staff sy'n gwneud yr hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelu corfforaethol hanfodol yw 176 yn erbyn targed o 200 - mae angen ymdrech i gynyddu'r ffigur hwn.
  • Mae CUST5/CUST6/SUSC2 yn dangos gostyngiad o'i gymharu â Chwarter 1 2016/17. Mae'r wybodaeth hon yn seiliedig ar arolygon canfyddiad.
  • Nododd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ei drosolwg yn yr adroddiad, fod pryderon am nifer y plant a phobl ifanc y mae angen cefnogaeth gwasanaethau plant statudol arnynt a bod nifer uwch o blant sy'n derbyn gofal, a welir ym mheth o ddata'r adroddiad. Mae Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn nodi yn yr adroddiad fod hyn yn amlygu pwysigrwydd gwasanaethau atal a dargedir yn gywir.

 

Cwestiynau a thrafodaethau dan sylw

 

  • Yr angen i gynyddu nifer y staff sy'n gwneud yr hyfforddiant diogelu.
  • Sut gwneir arolygon canfyddiad - pryd, pa fformat, y pwysigrwydd a roddir i gwestiynau, etc.
  • Canfyddiad y cyhoedd o'r cyngor pan fydd staff yn smygu tu allan - y polisi ynghylch hyn
  • Mae Panel Perfformiad Craffu y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn parhau i ganolbwyntio ar lefel y galw a brofir gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Camau gweithredu

 

  • Ychwanegu eitem i'r cynllun gwaith i wahodd Lee Wenham a Chris Sivers i'r panel i drafod arolygon canfyddiad a'u proses.
  • Cysylltu â Steve Rees i sefydlu polisi smygu i staff - gan gysylltu â chanfyddiad y cyhoedd o Gyngor Abertawe.

 

 

 

6.

Perfformiad Llywodraeth Leol 2016-17 pdf eicon PDF 78 KB

Uned Ddata Llywodraeth Leol

Cofnodion:

6. Trafodwyd crynodeb o berfformiad Llywodraeth Leol.

 

Pwyntiau Allweddol

 

  • Mae gan Abertawe 6 dangosydd yn y chwarter uchaf, 3 yn y chwarter isaf, 2 yn y chwarter canol uchaf a 2 yn y chwarter canol isaf.

 

Cwestiynau a thrafodaethau dan sylw

 

  • Tirlenwi, tipio anghyfreithlon a gwastraff dinesig - mae'r sgorau i weld yn isel o ystyried bod yr Adran Wastraff wedi derbyn gwobr am berfformiad y flwyddyn ddiwethaf.
  • Roedd y panel yn siomedig bod y mesur o ran nifer y diwrnodau a gymerir i gyflwyno cyfleusterau i bobl anabl dal i fod yn 22 o 22.

 

Camau gweithredu

 

  • Anfon dolen i Adroddiad Perfformiad Llywodraeth Leol 2016/17 llawn i'r panel
  • Gofyn i Steve Rees gynnwys adborth ar berfformiad tipio anghyfreithlon a gwastraff dinesig yn ei Ymweliad Craffu nesaf.
  • Cael adborth ar berfformiad mewn perthynas â Grantiau Cyfleusterau Anabl.

 

7.

Cynllun Gwaith 2017/2018 pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

  • Atgoffwyd y panel am gyfarfod ychwanegol ar 16 Hydref ar gyfer Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd.
  • Ychwanegu eitem mewn perthynas ag Arolygon Canfyddiad y Cyhoedd gyda Lee Wenhan a Chris Sivers.
  • Ychwanegu eitem ychwanegol i'r Adroddiad Ailgylchu a Thirlenwi Blynyddol i esbonio'r sgorau isel yn yr Adroddiad Llywodraeth Leol.

 

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 110 KB