Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 2 Awst 2017 fel cofnod cywir

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Dim

4.

Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2016/17 pdf eicon PDF 108 KB

Richard Rowlands (Rheolwr Perfformiad Corfforaethol)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol, i’r cyfarfod er mwyn diweddaru'r panel ar berfformiad y llynedd.

Rhoddodd gyngor ar sut y datblygir yr Adroddiad Monitro Perfformiad a'i berthnasedd.

Esboniodd i'r panel sut i ddarllen a dadansoddi'r wybodaeth.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd:

 

Ar gyfer pob blaenoriaeth y cyngor, dangoswyd perfformiad yn gwella

Er ei fod yn ymddangos bod rhai o'r dangosyddion perfformiad wedi eu hailenwi, gall fod yna wahaniaethau o ran sut y diffinnir y dangosydd ac felly maent yn wahanol yn gynhenid

Nid yw data penodol iawn ar bwynt allweddol (boed yn dda neu'n ddrwg) o reidrwydd yn adlewyrchu perfformiad cyffredinol adran

• Mae sylwadau yn yr adroddiad yn cynrychioli darlun eang o'r materionos oes angen mwy o fanylder, yna mae'n rhaid i'r panel ymchwilio'n ddyfnach i'r manylyn

 

Roedd cwestiynau'r aelodau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

Dadansoddiad o ffigurau dan Flaenoriaeth 1: Diogelu Pobl Ddiamddiffynmae'r term 'oedolyn' yn cyfeirio at bawb dros 18 oed. Mae angen adnoddau gwahanol ar oedrannau gwahanol, e.e. mae gwasanaethau i bobl hŷn yn wahanol iawn i wasanaethau ar gyfer pobl rhwng 18 a 24 oed. Gall perfformiad da neu ddrwg yn y grwpiau hyn gael ei guddio gan ffigur cyfartalog

Soniwyd am fân fanylion rhai prosiectau

• Mae rhai DPA bellach wedi eu cynnwys dan deitlau eraill ac mae pryder posib dros golli'r rhain. Er enghraifft, mae canlyniad 'Pobl sy'n byw gartref neu yn y gymuned yn hytrach na mewn gofal preswyl' a'r dangosydd 'nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal yn ystod y cyfnod' bellach dan Flaenoriaeth 5 'Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy' yn hytrach na Blaenoriaeth 1 'Diogelu Pobl Ddiamddiffyn'

 

Cytunwyd y dylid cyfeirio'r ymholiadau canlynol i'r swyddogion perthnasol am ymateb:

 

1. Nodir ym Mlaenoriaeth 3 EC3 y cynyddwyd yr arwynebedd llawr masnachol a grëwyd yng nghanol y ddinas i gefnogi creu swyddi o ganlyniad i 'gyllid ar y gweill' ychwanegol.

Gofynnwyd am eglurhad o'r hyn a elwir yn 'gyllid ar y gweill'

 

2. Cyfeiria Blaenoriaeth 3 EC4 at nifer yr unedau o dai newydd yng nghanol dinas Abertawe o ganlyniad i gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

Gofynnwyd am eglurhad o ran a yw'r unedau o dai yn newydd sbon neu'n disodli anheddau blaenorol safle Dewi Sant

 

3. Nodir ym Mlaenoriaeth 3 BBMA3 y cafwyd cynnydd yn nifer yr wythnosau hyfforddiant a chyflogaeth a gynhaliwyd gan Y Tu Hwnt i Frics a Morter ar gyfer y sawl sy'n ddi-waith ac yn anweithgar yn economaidd.

Gofynnwyd am eglurhad o ran lle cynhaliwyd yr hyfforddiant hwn

 

4. Nodwyd yn yr Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2016/17, dan Flaenoriaeth 5 PI SUSC10, y cynhaliwyd 41 o wasanaethau yn y gymuned a gynhaliwyd yn ffurfiol gan y cyngor yn flaenorol, sy'n is na'r targed o 50.

Gofynnwyd am eglurhad o ran pa fath o wasanaethau roedd y 50 yn eu cynnwys

 

5. Nodwyd yn yr Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2016/17 dan Gefnogaeth Gorfforaethol – Y Gweithlu PI CHR002 (t. 37) fod nifer y dyddiau/shifftiau gwaith a gollwyd fesul cyflogai CALl awdurdod lleol oherwydd salwch wedi gostwng.

Gofynnwyd i'r ffigur hwn gael ei rannu'n salwch tymor hir a salwch achlysurol.

 

5.

Cynllun Corfforaethol 2017/22 pdf eicon PDF 93 KB

Richard Rowlands (Rheolwr Perfformiad Corfforaethol)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg o'r Cynllun Corfforaethol gan Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol. Dywedodd wrth y panel ei fod yn adlewyrchu ymrwymiadau polisi newydd y cytunwyd arnynt yn ddiweddar gan y cyngor.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd:

 

Dylanwadwyd ar y Cynllun gan ddeddfwriaeth megis Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol 2015

• Mae ffocws blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol yn ehangach na'r rhai blaenorol

Caiff perfformiad corfforaethol ei fesur a'i adrodd yn chwarterol ac yn flynyddol yn yr adroddiad diwedd y flwyddyn

 

Roedd cwestiynau'r aelodau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

Diffyg blaenoriaeth benodol sy'n ymroddedig i fioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd yn y Cynllun Corfforaethol, er mae'r materion hyn wedi'u cynnwys mewn blaenoriaethau eraill.

Diffyg cyfeirio at weithgareddau craffu yn y Cynllun Corfforaethol

6.

Alldro Cyfalaf ac Ariannu 2016/17 pdf eicon PDF 21 KB

Ben Smith (Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ar alldro ac ariannu cyfalaf gan Ben Smith, Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau

 

Pwyntiau allweddol a godwyd:

 

Sut y cyllidir cyfalaf

Benthyca nas cefnogir a'r ffaith y bydd hyn yn cynyddu

Sut y cyfrifir llog ar fenthyca'n gyffredinol

 

Roedd cwestiynau'r aelodau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

Polisi benthyca'r cyngor a sut y penderfynir arno

 

Cytunwyd y dylid cyfeirio'r ymholiadau canlynol i'r swyddogion perthnasol am ymateb:

 

1. Rhoddwyd cyflwyniad i'r panel ar Adroddiad Alldro ac Ariannu Cyfalaf 2016/17. Nododd y panel y prosiectau a'r costau canlynol ar y daenlen Gwariant Prosiectau Cyfalaf yn Atodiad B (gyda gwariant yn fwy na £0.5 miliwn): Canol y Ddinascynlluniau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (gan gynnwys Oceana, cydosodiad tir, adfywio'r Stryd Fawr, cynlluniau grant, system gylchu Westways). Roedd gan hyn wariant cysylltiedig o £9,304 (miliwn).

Gofynnodd y panel am ddadansoddiad o'r gwariant hwn.

 

2. Nododd y panel y prosiectau a'r costau canlynol ar y daenlen Gwariant Prosiectau Cyfalaf (t. 5):

Cost ARhC tai newydd ar Ffordd Milford a Pharc yr Helyg, sef £1,297 (miliwn)

Gofynnwyd am ddadansoddiad o'r ffigur hwn gan y panel.

 

7.

Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf Chwarter 1 2017/18 pdf eicon PDF 157 KB

Ben Smith (Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ar adroddiad monitro cyllideb refeniw a chyfalaf chwarter 1 gan Ben Smith, Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd:

 

Prif feysydd gorwario

Sut y cynllunnir y gronfa wrth gefn

 

Roedd cwestiynau'r aelodau'n canolbwyntio ar:

 

Sut yr ymdriniwyd â diffygion mewn chwarteri eraill

Sut yr ymdrinnir ag arian nas gwariwyd

Dyrannu tâl cyhoeddus ac effeithiau posib cynnydd

 

Cytunwyd y dylid cyfeirio'r ymholiadau canlynol i'r swyddogion perthnasol am ymateb:

 

    1. Yn Adroddiad Monitro Cyllideb Chwarter Cyntaf 2017/18 (t. 3), sylwodd y panel fod swm gwerth £136k o'r gronfa wrth gefn wedi'i ddyrannu i batholegwyr.

Gofynnwyd am eglurder ar y gwariant ynghyd â dadansoddiad ohono

 

    2.     Nododd y panel yn Adroddiad Monitro Cyllideb a Chyfalaf Chwarter Cyntaf 2017/18 (t. 4) y dyrannwyd £500k o'r gronfa wrth gefn i Wasanaethau Adeiladu Corfforaethol - ôl-daliadau ychwanegol.

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ar y ffigur a dadansoddiad

8.

Cynllun Gwaith 2017/2018 pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cydnabu'r panel fod angen cyfarfod ychwanegol ar gyfer craffu cyn penderfynu Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd. Caiff yr Adroddiad Data Llywodraeth Leol blynyddol ei gynnwys yn y cyfarfod ar 4 Hydref 2017. Caiff eitem ar ffïoedd a benthyca ei amserlenni ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 238 KB