Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu  01792 636292

Media

Eitemau
Rhif Eitem

69.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

70.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

 

71.

Cofnodion pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

72.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

73.

Y diweddaraf am gynnydd defnydd y Llywodraeth Leol o'r Cynllun Gweithredu pdf eicon PDF 242 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Andrea Lewis - Aelod y Cabinet dros yr Drawsnewid      Gwasanaethau

Sarah Lackenby - Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol 

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad    

Steve King - Arweinydd Tîm Gwybodaeth, Ymchwil a GIS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Siaradodd y Cyng Andrea Lewis a Sarah Lackenby am y canlynol,

·         Deilliodd Cynllun Gweithredu Defnydd y Llywodraeth Leol o Ddata o astudiaeth Cymru Gyfan a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru i sut roedd cynghorau yn defnyddio data. Cyhoeddwyd yr adroddiad gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2018.

·         Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ac ystyrir bod pob un o'r 11 argymhelliad penodol wedi'u cau. Cymeradwywyd strategaeth digidol newydd 2023-28 gan y Cabinet ym mis Ebrill 2023, sydd â nod penodol sy'n ymwneud â data a bydd y gwaith hwn yn rhan o’r rhaglen trawsnewid digidol dros y blynyddoedd nesaf.

·         Mae gwaith parhaus ar yr 11 argymhelliad yn cynnwys hyrwyddo a defnyddio'r Rhestr Tir ac Eiddo Lleol a Chenedlaethol a'r Gofrestr Asedau Gwybodaeth. Mae Cyfrif Abertawe ar gyfer cwsmeriaid hefyd wedi'i lansio a'i ddatblygu'n sylweddol.

·         Mae hyfforddiant gorfodol ar ddiogelu data a seiberddiogelwch ar gael ar-lein. Byddai hyfforddiant i Gynghorwyr hefyd o fudd iddynt.

·         Mae'r cyngor yn defnyddio fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (CRhGBC) a phrotocolau ynghylch rhannu data gyda phartneriaid.

·         Bydd offer newydd yn Oracle Fusion yn cefnogi’r broses flynyddol o gynllunio’r gweithlu a bydd systemau sefydledig presennol yn parhau i weithio gyda gwasanaethau i adolygu, cymeradwyo a gwella safonau adrodd ar ddata.

·         Mae data personol yn cael ei ddiogelu o dan y Ddeddf Diogelu Data. Mae fframwaith CRhGBC yn nodi protocolau ar gyfer rhannu data at ddibenion penodol gyda chytundeb, neu ddata agored sy'n ddienw ac nad yw'n sensitif y gellir ei rannu heb gytundeb.

 

74.

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021/2022 pdf eicon PDF 222 KB

Gwahoddwyd:

      Y Cynghorydd Elliott King - Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a   Chydraddoldeb

Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau

Lisa DeBenedictis – Swyddog Safonau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Elliot King, Y Cynghorydd Robert Smith a Lisa DeBenedictis yn bresennol. Adroddwyd ar y canlynol:

·         Mae 163 o safonau’r Gymraeg y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gydymffurfio â nhw.

·         Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys gweithredu Cwtsh - Ysgrifennu yn Gymraeg, man rhithwir i staff a gwreiddio'r Gymraeg yn llawn mewn Asesiadau Effaith Integredig.

·         Derbyniwyd chwe chwyn yn ymwneud â’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn hon, fodd bynnag mae dwy yn ymwneud â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer peiriannau parcio ceir ac un yn ymwneud ag arwydd stryd ar ffordd heb ei mabwysiadu nad yw o fewn cylch gorchwyl y cyngor i’w ddarparu.

·         Mae nifer y cwynion yn debyg ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

·         Bu cynnydd sylweddol mewn galwadau Cymraeg ac mae gwaith yn parhau i ddatblygu ar y system gwynion newydd.

·         Drwy “Mwy Na Geiriau” mae’r cyngor wedi estyn ei gynnig i staff gofal cymdeithasol a thai ddysgu Cymraeg drwy'r gweithle. 

·         O’r cyfanswm o 2,000,000 o ymweliadau â thudalennau Staffnet yn 2021-22, roedd dros 19,000 yn ymwneud â’r Gymraeg.

·         Cyflawnwyd 20% o'r gwaith cyfieithu gan ddarparwyr allanol yn ystod y cyfnod hwn oherwydd cynnydd yn y llwyth gwaith.

·         Mae gwaith wedi'i wneud gyda'r tîm cyfathrebu i amlygu newidiadau a gwelliannau i negeseuon 'allan o'r swyddfa'.

·         Gall y cyfryngau sylwi ar gamgymeriadau ar arwyddion ond canran fechan o arwyddion a gynhyrchir yw hyn.

·         Mae canran sgiliau Cymraeg y cyngor wedi codi o 6.8% yn y flwyddyn flaenorol i 10.2%

·         Mae gwybodaeth o'r Cyfrifiad diweddar yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe wedi gostwng, fodd bynnag mae màs critigol o siaradwyr Cymraeg yn Abertawe o hyd.

 

75.

Adolygiad Blynyddol pdf eicon PDF 260 KB

Adolygiad o eitemau o fewn Cynllun Gwaith 2022-23

Cofnodion:

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i ddogfennau’r Adolygiad Blynyddol a nodwyd y canlynol:

·         Efallai y bydd angen mwy o hyfforddiant yn enwedig ynghylch deall y gyllideb.

·         Roedd Adroddiad Perfformiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi helpu i gynyddu gwybodaeth y Panel o ran ble mae gwasanaethau llyfrgell yn ei chael hi’n anodd a lle gallai fod angen buddsoddiad.

·         Mae'n bosib y bydd angen mwy o ddyfnder ar Ddiweddariad Blynyddol Safonau Ansawdd Tai Cymru ac mae'n ddarn mawr o waith.

·         Bydd adroddiadau blynyddol a data’r flwyddyn nesaf yn cael eu heffeithio’n llai gan y pandemig na 2021-22.

·         O ran Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio, byddai gan y Panel ddiddordeb mewn arbedion effeithlonrwydd, gweithrediadau a chanfyddiad y cyhoedd yn ogystal ag ystadegau perfformiad.

·         Codwyd Oracle Fusion fel mater i'w ystyried ond mae hyn eisoes wedi'i gyflwyno i Bwyllgor y Rhaglen Graffu.

·         Yn ogystal roedd cais am gyfeirio gwybodaeth at Gynghorwyr o ran defnyddio MiPermit nawr y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hawlenni parcio.

 

76.

Llythyrau pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth y cyfarfod i ben am 10.38am.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Drawsnewid Gwasanaethau pdf eicon PDF 327 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Ddiwylliant a Chydraddoldeb / Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau pdf eicon PDF 342 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Ddiwylliant a Chydraddoldeb / Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau pdf eicon PDF 151 KB