Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

53.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau Personol a rhagfarnol.

 

54.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

 

55.

Cofnodion pdf eicon PDF 325 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

56.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

57.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio 2021/2022 pdf eicon PDF 223 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Ian Davies - Rheolwr Datblygu, Cadwraeth a Dylunio

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd David Hopkins a swyddogion yn bresennol. Adroddwyd ar y canlynol:

         Nid yw Adroddiadau Blynyddol Cynllunio bellach yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag mae'r cyngor yn parhau i ddarparu hyn. Nid yw data ar gyfer meincnodi perfformiad yn erbyn awdurdodau lleol eraill wedi bod ar gael ers y pandemig.

         Bu cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau cynllunio a dderbyniwyd, 29% yn fwy nag yn 2020/21.

         Ymdriniwyd â 97% o geisiadau o fewn amserlenni cytunedig. Y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yw 80%.

         Er gwaetha'r cynnydd yn nifer y ceisiadau, nid yw'r incwm o ffïoedd cynllunio wedi cadw i fyny. O'i gymharu â 2018/2019, roedd 300 yn fwy o geisiadau cynllunio ond roedd yr incwm o ffïoedd cynllunio £300,000 yn llai oherwydd y math o geisiadau sy'n cael eu cyflwyno. Mae ffïoedd ceisiadau yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru ac nid oes cynnydd wedi'i nodi ar y pwynt hwn.

         Roedd perfformiad apeliadau ychydig yn uwch, ac yn uwch na tharged blwyddyn flaenorol Llywodraeth Cymru. Lle cytunir ar apeliadau, mae'n ymwneud â materion dylunio yn gyffredinol.

         Crëwyd ôl-groniad o orfodi yn sgîl y pandemig oherwydd nad oedd swyddogion yn gallu mynd i safleoedd mor hawdd. Cafodd swyddi staff gwag effaith ar y tîm hefyd.

         Mae ymchwiliad gorfodi yn broses dau gam. Ar gyfer y cam ymchwilio cychwynnol mae targed o 84 ar gyfer y gwaith ymchwilio. Mae'r ail gyfnod yn ymwneud â chymryd camau gweithredu priodol a allai fod yn hysbysiad gorfodi, yn benderfyniad, neu rhoi caniatâd cynllunio.

         Roedd nifer y cwynion gorfodi yr ymchwiliwyd iddynt yn debyg i'r flwyddyn flaenorol. Ymchwilir i bob cwyn, fodd bynnag, dim ond 32% o'r ymchwiliadau a gwblhawyd o fewn y targed o 84 diwrnod, sef gostyngiad o 51% yn y flwyddyn flaenorol. Mae camau gorfodi'n cael eu blaenoriaethu ar sail difrifoldeb y toriad.

         Disgwylir i'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) gael ei ddiweddaru. Cesglir data ar gyfer y CDLl o fodeli cynhwysfawr a'r data gorau sydd ar gael gan bartneriaid ymgynghori i greu rhagolygon economaidd gyda'r nod o sicrhau'r lefel uchaf o gywirdeb â phosib.

58.

Adroddiad Cwynion Blynyddol 2021/22 pdf eicon PDF 254 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Andrea Lewis - Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau

Y Cynghorydd Louise Gibbard - Aelod y Cabinet dros Gofal Gwasanaethau

Sarah Lackenby - Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol      

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Andrea Lewis, y Cynghorydd Louise Gibbard a swyddogion yn bresennol. Trafodwyd y canlynol:

 

         Oherwydd y pandemig, cafodd cwynion eu hatal yn ystod 2020/21 ond yna, gwnaethon nhw gynyddu'n aruthrol wrth i ni ddod allan o’r cyfnodau clo. Gwelodd yr Ombwdsmon gynnydd o 47% ar draws Cymru gyfan.

         Bu oedi wrth lansio'r system TG newydd oherwydd blaenoriaethu taliadau i gefnogi preswylwyr a busnesau. Mae'r system wedi'i chwblhau, mae hyfforddiant staff yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd y system yn mynd yn fyw cyn gynted â phosib.

         Cynyddodd cwynion corfforaethol cam un (anffurfiol) 8% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn gyfanswm o 1,274 o gwynion, ac roedd cyfiawnhad dros 407 ohonynt. Roedd cynnydd o 16% yng nghwynion cam dau. Roedd hwn yn gyfanswm o 154 o gwynion, yr oedd cyfiawnhad dros 25 ohonynt.

         Bu cynnydd sylweddol o 24% yn nifer y ceisiadau corfforaethol am wasanaeth. Roedd cynnydd sylweddol hefyd o 38% yn y sylwadau corfforaethol. Roedd cwynion a oedd yn ymwneud â'r Gymraeg yn gymharol isel.

         Roedd cynnydd o 11% yng nghwynion cam un y Gwasanaethau i Oedolion ac o ran cam dau, roedd cynnydd o un gŵyn yn unig o'i gymharu â ffigurau'r llynedd. Roedd cynnydd o 53% yn nifer y cwynion yr oedd cyfiawnhad drostynt, ac roedd hyn yn bennaf oherwydd oedi wrth drefnu asesiadau neu becynnau gofal oherwydd pwysau staff gan gynnwys darparwyr allanol. Mae pwysau ar wasanaethau a phroblemau recriwtio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion wedi bod yn her ledled Cymru a'r DU.

         Dangosodd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ostyngiad, bu gostyngiad o 19% yng nghwynion cam un a gostyngiad o 1 gŵyn yng nghwynion cam dau.

         Roedd llythyr blynyddol yr Ombwdsmon yn adrodd bod 71 o gwynion wedi’u derbyn, gostyngiad o 73 o'r flwyddyn flaenorol.

         Caewyd 76 o gwynion yr Ombwdsmon yn ystod 2021/22, o’r 76 hyn, derbyniodd 10 ohonynt ymyrraeth. O'r 10 a dderbyniodd ymyrraeth, cafodd 6 eu datrys yn gynnar trwy drefniant gwirfoddol a chafodd 4 eu cynnal. O'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, caewyd 67 o gwynion a derbyniodd 9 ohonynt ymyrraeth, o'r 9 hyn, cafodd 5 eu datrys yn gynnar a chafodd 4 eu cynnal.

         Mae'r tîm cwynion yn cynnal trafodaethau gyda Phennaeth Gwasanaeth a Phrif Swyddogion gan ystyried natur cwynion ac unrhyw dueddiadau neu amlder er mwyn chwilio am welliannau posib.

         Derbyniwyd 360 o ganmoliaethau corfforaethol gyda 96 ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion a 100 ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

         Ni adroddwyd am dueddiadau blwyddyn ar ôl blwyddyn ond gellir sicrhau eu bod ar gael mewn adroddiadau yn y dyfodol.

         Gall myfyrio ar ganmoliaethau fod yr un mor ddefnyddiol â myfyrio ar gwynion i gymharu meysydd lle mae'r cyngor yn gwneud yn dda.

         Mae amserau ymateb i gwynion yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

         Mae cwynion am yr adrannau Cyfathrebu a Chynnwys Cwsmeriaid wedi cynyddu.

         Roedd 25 o'r 71 o gwynion a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon yn ymwneud â chynllunio a Rheoli Adeiladu, ffyrdd a thrafnidiaeth.

59.

Llythyrau pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

60.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 220 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y Cynllun Gwaith.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.40am.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad pdf eicon PDF 330 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Drawsnewid Gwasanaethau a Gofal Gwasanaethau pdf eicon PDF 329 KB