Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu  01792 636292

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

 

 

17.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

 

 

18.

Cofnodion pdf eicon PDF 327 KB

Cymeradwyo a llofnodifel cofnod cywirgofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

 

19.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

 

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

20.

Adolygu'r refeniw wrth gefn pdf eicon PDF 1 MB

Gwahoddwyd:

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Swyddog Adran 151, Ben Smith, yn bresennol i roi trosolwg o'r refeniw wrth gefn. Trafododd y problemau canlynol:

 

  • Mae'r cyngor wedi ychwanegu 100m i'r cronfeydd wrth gefn dros y 3 blynedd diwethaf, sy'n rhoi cyfanswm o £157m ar gyfer cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.
  • Mae'r dyfarniad cyflog heb ei ariannu o hyd ac mae'n debygol y bydd yn tynnu swm sylweddol o'r cronfeydd wrth gefn.
  • Mae pob swyddogaeth a gwasanaeth dan bwysau a byddant yn tynnu arian o'r cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn bresennol, amcangyfrifir bod tua 20/25% o'r cronfeydd wrth gefn wedi cael eu defnyddio yn y flwyddyn bresennol.
  • Mae'r Arweinydd wedi cyhoeddi yn ystod cyfarfod y cyngor y bydd y Gronfa Adferiad Economaidd yn cael ei oedi ar ôl cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed eisoes er mwyn diogelu sefyllfa'r gyllideb ychydig.
  • Mae'n bosib y bydd angen ariannu penderfyniadau cyfalaf ychwanegol y mae angen benthyca arian ar eu cyfer yn y dyfodol drwy gyfraniadau refeniw yn hytrach na’r Gronfa Cyfartalu Cyfalaf.
  • Mae defnyddio cronfeydd wrth gefn yn y tymor byr yn golygu y gellir osgoi benthyca cyhyd ag sy'n bosib nes y cyrhaeddir sefyllfa fwy sefydlog a fforddiadwy ar gyfer benthyca allanol.

Mae'r Swyddog Adran 151 yn cynghori bod angen i'r cyngor presennol barhau i baratoi am newid sylweddol mewn darparu gwasanaethau a fydd yn sicr yn effeithio ar lefelau cyflogi uniongyrchol wrth symud ymlaen.

21.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021/2022 pdf eicon PDF 306 KB

Gwahoddwyd:

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad a Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol yr adroddiad. Nodwyd y materion canlynol:

 

  • Mae'r adroddiad hwn yn ofyniad yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021.
  • Mae'r adolygiad yn asesu'r cynnydd a wnaed wrth gyflawni camau'r cynllun corfforaethol, gan asesu'r defnydd o adnoddau ac effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu'r cyngor.
  • Mae'r adolygiad yn nodi meysydd i'w gwella. Caiff y cynlluniau corfforaethol eu mesur dros gyfnod o bum mlynedd ac mae mesurau eraill yn parhau.
  • Cyfeirir at yr ymchwiliad craffu caffael yn yr adroddiad ond lluniwyd yr adroddiad terfynol i'r Cabinet ar ôl amserlen yr adroddiad hwn.

 

22.

Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru - Adroddiad Perfformiad Blynyddol pdf eicon PDF 331 KB

Gwahoddwyd:

Karen Gibbins – Rheolwr y Gwasanaethau Llyfrgelloedd / Karen Davies - Prif Lyfrgellydd

Y Cynghorydd Elliott King - Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyng. Elliott King, Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant a Karen Gibbins, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgelloedd drosolwg o’r adroddiad. Roedd Karen Davies, y Prif Lyfrgellydd, hefyd yn bresennol. Trafodwyd y problemau canlynol:

 

·         Mae cyfnod adrodd 2020/2021 yn cynnwys cyfnod y pandemig, pan roedd llyfrgelloedd ar gau dros dro. Er hyn, bodlonwyd y 12 hawliad o fewn yr adeg hon.

·         Gwelwyd cynnydd mawr yn y defnydd o e-lyfrau o ganlyniad i fuddsoddiad o £500,000 mewn e-lyfrau.

  • Gwelwyd lleihad yn nifer y bobl sy'n benthyca llyfrau, ac eir i'r afael â hyn.

·         Mae Abertawe yn y chwartel gwaelod o ran llyfrgelloedd o hyd ar gyfer staff cymwys.

·         Defnyddir cynlluniau prentisiaeth a chyllid allanol lle bo hynny'n bosib i gefnogi datblygiad staff.

·         Roedd darparu mynediad at fand eang a Wi-Fi am ddim mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yn angenrheidiol yn ystod y pandemig.

 

23.

Diweddariad Blynyddol Safonau Ansawdd Tai Cymru pdf eicon PDF 466 KB

Gwahoddwyd:

Carol Morgan - Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd

Y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roddodd y Cyng. Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Dave Meyrick, Rheolwr Cynllunio a Chyflwyno Rhaglenni yr wybodaeth ddiweddaraf, ac roedd Carol Morgan, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd a Dave Bratley, Rheolwr Asedau Tai hefyd yn bresennol. Nodwyd y materion canlynol:

 

  • Cyflwynwyd SATC gan Lywodraeth Cymru yn 2002 i wella tai cymdeithasol yng Nghymru.
  • Mae'r safon yn gofyn am nifer o elfennau i sicrhau cydymffurfiaeth.
  • Mae 70% o'n cartrefi bellach yn cydymffurfio'n llawn, sydd 13% yn uwch na'r llynedd.
  • O'r 30% o fethiannau derbyniol, roedd 15% ohonynt oherwydd bod preswylwyr wedi gwrthod y cyfle i gael cegin neu ystafell ymolchi cyngor ac roedd y 15% arall oherwydd cynllun y rhaglen. Mae methiannau derbyniol yn rhan gydnabyddedig o gydymffurfiaeth SATC.
  • Gwariodd y cyngor £546m ar ei eiddo eleni. Codwyd £381m o hynny drwy gyfraniadau refeniw rhenti a daeth £165m o Grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru. Ni ddaeth unrhyw swm o'r arian hwn o refeniw treth y cyngor.
  • Mae SATC wedi cael effaith economaidd yn yr ardal, gan gynnwys cyfleoedd swyddi a'r economi adeiladu.
  • Dywedodd 72% o'r preswylwyr bod cyflawniad y gwaith naill ai'n dda neu'n ardderchog.
  • Rhoddodd 75% o breswylwyr farn gadarnhaol am yr awdurdod lleol ar arolwg STAR Llywodraeth Cymru.
  • Bydd SATC yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol ac mae rhaglenni ar waith i fodloni'r safonau presennol.
  • Cyflwynir safon SATC newydd ar 1 Ebrill a bydd yn cyflwyno mesurau newydd, gan gynnwys datgarboneiddio.
  • Gall y gost o fodloni'r safonau newydd fod oddeutu £875m. Clustnodwyd £423m ar hyn o bryd i fodloni'r safon bresennol ond mae hyn y llai na'r swm y bydd ei angen ar gyfer y safonau newydd.
  • Derbynnir gwybodaeth bellach am y safonau newydd yn fuan oddi wrth Lywodraeth Cymru.

 

24.

Llythyrau pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw sylwadau yn y llythyrau atodedig i Aelodau’r Cabinet.

 

25.

Cynllun Gwaith 2022/23 pdf eicon PDF 216 KB

Cofnodion:

Ni wnaed sylwadau ar y Cynllun Gwaith.

 

Llythyr Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 328 KB

Llythyr Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 325 KB

Llythyr Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 323 KB

Llythyr Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 327 KB