Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau Personol a rhagfarnol.

 

10.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

 

 

11.

Cofnodion pdf eicon PDF 206 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

 

12.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

13.

Adroddiad Monitro'r Gyllideb C1 - 2022/23 pdf eicon PDF 570 KB

Gwahoddwyd:

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

 

Cofnodion:

Gwahoddodd y Panel yr Arweinydd a Ben Smith, Cyfarwyddwr Cyllid a’r Swyddog Adran 151, i roi trosolwg o Adroddiad Monitro'r Gyllideb Chwarter 1. Trafodwyd y problemau canlynol:

 

·       Cyflwynwyd pedwar argymhelliad i'r Cabinet ar 29 Medi ac roedd y Cabinet wedi'u cefnogi. Un o'r rhain oedd rhoi cyfarwyddyd i'r holl Gyfarwyddwyr leihau gwariant gan ystyried yr anawsterau parhaus yn ystod y flwyddyn.

·       Y rhagolwg presennol yw gorwariant o £3 miliwn felly bydd y diffyg hwn yn dod o gronfeydd wrth gefn.

·       Ar hyn o bryd mae dwy gyfarwyddiaeth yn gorwario, mae dwy yn tanwario ac mae un wedi bod heb ennill na cholli. Mae hyn cyn y dyfarniad cyflog felly unwaith y caiff hwn ei ystyried mae'n debygol y bydd y 5 cyfarwyddiaeth yn gorwario oherwydd diffyg arian mewn cyllid sylfaenol ar gyfer y dyfarniad cyflog.

·       Penderfynwyd ar y gyllideb ar y rhagdybiaeth o ddyfarniad cyflog o 3%. Bydd y dyfarniad go iawn, sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd tua £12m yn fwy na'r swm a gyllidebwyd.

·       Bydd costau ynni cynyddol yn effeithio ar bawb ac maent yn cael eu monitro'n agos.

·       Dywedwyd wrth yr holl swyddogion cyfrifol nad oeddent yn gallu gorwario neu na fyddent yn cydymffurfio â'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol.

·       Ar hyn o bryd mae'r gyllideb a'r sefyllfa alldro rhagweledig yn disgwyl i £26 miliwn ddod o'r cronfeydd wrth gefn. Nid yw hyn yn sefyllfa gynaliadwy. Bydd eleni'n gytbwys oherwydd yr arian sy'n dod o'r gronfa wrth gefn ond mae hyn yn golygu ansicrwydd ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

·       Bydd pob cyngor arall yn profi pwysau ariannol tebyg.

 

Hefyd, codwyd a thrafodwyd y materion canlynol:

 

  • Nid oes sicrwydd bod y dyfarniad cyflog ysgolion, yn debyg i'r dyfarniad cyflog llywodraeth leol, yn cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru
  • Mae gan dreth y cyngor ddiffyg o £2 filiwn.
  • Mae'r cyngor yn ddiolchgar am y cymorth ariannol a roddwyd gan Lywodraethau Cenedlaethol a Chymru yn ystod y pandemig, fodd bynnag mae'r argyfwng costau byw presennol yn rhoi pwysau ariannol ar aelwydydd.
  • Er bod rhai deunyddiau wedi codi mewn pris, mae'r cyngor wedi elwa o gynigion prisiau sefydlog a benthyca cynnar mewn rhai achosion.
  • Mae Cyngor Abertawe yn y sefyllfa ail orau o ran arian wrth gefn yng Nghymru, fodd bynnag gyda graddfa'r broblem sy'n cael ei hwynebu gan bob cyngor lleol, nid oes digon ar gyfer pob posibilrwydd.

 

14.

Adroddiad Monitro Perfformiad Blynyddol 2021/2022 pdf eicon PDF 418 KB

 

Gwahoddwyd:

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Panel y Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad a Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol i roi trosolwg o'r Adroddiad Monitro Perfformiad Blynyddol. Trafodwyd y problemau canlynol:

 

  • Mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar yr holl feysydd perfformiad.
  • Mae hanner y dangosyddion cymharol wedi gwella neu wedi aros yr un peth o'u cymharu â 2020/21.
  • Cyflwynwyd 18 o ddangosyddion diogelu newydd o ganlyniad i Fframwaith Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol cenedlaethol newydd.
  • Addysg a sgiliau - roedd 5 allan o 8 o'r dangosyddion wedi gwella neu aros yr un peth. Mae tarfu parhaus ar ysgolion o ganlyniad i COVID-19, yn enwedig arholiadau, asesiadau a phresenoldeb.
  • Gwnaed cynnydd gyda blaenoriaethau ADY sy'n flaenoriaeth allweddol ar y cyd â lles, iechyd meddwl ac effaith tlodi.
  • Cafwyd cynnydd mewn gwaharddiadau cyfnod penodol, cynnydd o 6% mewn pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), a llai o gyfleoedd am brentisiaethau - mae COVID-19 wedi bod yn ffactor mawr yn hyn.
  • Economi ac Isadeiledd - roedd 7 allan o 8 dangosydd wedi gweld dirywiad o'u cymharu â 2020/21.
  • Trechu Tlodi - Roedd 5 allan o 13 o ddangosyddion wedi gwella neu wedi aros yr un peth. Mae amserau prosesu ar gyfer Treth y Cyngor a budd-daliadau wedi cynyddu.
  • Mae unedau tai cyngor ychwanegol wedi gwella ond mae niferoedd o ffynonellau eraill wedi lleihau.
  • Mae nifer yr apeliadau a thribiwnlysoedd lles wedi lleihau ac mae nifer y teuluoedd mewn llety dros dro wedi cynyddu.
  • Mae nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi trwy gymorth cyflogaeth a chymwysterau achrededig trwy gefnogaeth gan yr awdurdod lleol wedi cynyddu.
  • Trawsnewid Cyngor y Dyfodol - roedd 3 allan o 5 o'r dangosyddion yn gwella. Y rheini sy’n dirywio yw salwch staff a nifer y ffurflenni sy'n cael eu cwblhau ar-lein. Roedd lleihad yn nifer y ceisiadau am wasanaethau fel sachau ailgylchu o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud. Mae nifer y taliadau a wnaed ar-lein wedi cynyddu 17%.
  • Natur a Bioamrywiaeth - mae 3 allan o 4 o'r dangosyddion wedi gwella, mae ailgylchu wedi lleihau ychydig, cynhyrchwyd mwy o sachau du. Roedd lleihau carbon a phlannu coed wedi cynyddu hyd at 121%.
  • Mae angen i salwch fod mewn cyd-destun â rolau swyddi. Gofynnodd y Panel fod crynodebau o absenoldebau yn y dyfodol yn diffinio ac yn categorïo absenoldebau'n well ac yn ystyried absenoldebau sydd wedi'u gorfodi.

 

15.

Cynllun Gwaith 2022/23 pdf eicon PDF 212 KB

Cofnodion:

Ni wnaed sylwadau ar y Cynllun Gwaith

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.09am

 

 

Cadeirydd

 

 

Ymateb gan Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 332 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol: