Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau Personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd
ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth.
Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes
digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin
â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Rôl y Panel Perfformiad PDF 252 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darllenodd a
nododd y Panel yr adroddiad a oedd yn amlinellu rôl y Panel Craffu Perfformiad. |
|
Trosolwg: Deall Adrodd Ariannol Ben Smith –
Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151 Cofnodion: Gwahoddodd y
Panel Ben Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Adran 151 i roi trosolwg o'r
adrodd ariannol. Rhoddodd gyflwyniad PowerPoint yn ymdrin â'r materion
canlynol: ·
Rôl
Craffu a'r cwestiynau y byddai disgwyl i Craffu eu gofyn ·
Rhagdybiaethau
galw i mewn craffu a chonfensiwn hanesyddol ·
Mathau
o adrodd gan gynnwys datganiad o gyfrifon, adroddiadau statudol ac adroddiadau
gwybodaeth reoli ·
Amserlen
adrodd, gan gynnwys
cyn y
gyllideb, y gyllideb flynyddol
cyllideb
flynyddol gan gynnwys cynllun ariannol tymor canolig, y gyllideb refeniw a
chyfalaf, y gronfa dai a phennu treth y cyngor
adrodd
yn ystod y flwyddyn ac amserlen fonitro gan gynnwys chwarteri 1, 2 a 3
adrodd
ar ddiwedd y flwyddyn gan gynnwys adroddiadau alldro a datganiad o gyfrifon Hefyd, codwyd a
thrafodwyd y materion canlynol: ·
Dywedodd
y Cyfarwyddwr Cyllid wrth y Panel fod yr adran gyllid dan bwysau mawr ar hyn o
bryd. Maen nhw'n canolbwyntio ar fusnes craidd sy'n gallu amharu ar feysydd
eraill, sy'n cael ei adlewyrchu yn hwyrder peth adrodd. Dywedodd y Panel fod y
straen sydd ar staff yn peri pryder a gofynnodd beth y gellir ei wneud i wella
hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth i bobl adael am swyddi eraill neu drwy salwch
ei bod hi'n gynyddol anodd recriwtio staff cymwys i'r swyddi gwag hynny ac mae
hyn yn bryder i Abertawe ac awdurdodau lleol eraill ar draws y DU ac nid yng
Nghymru'n unig. ·
Soniwyd
am effeithiau cynyddol costau ynni ar y cyngor ac ysgolion. Clywodd y Panel fod
hyn wedi'i fonitro'n agos ond ar hyn o bryd nid yw'n cael ei adrodd yn ffurfiol
i'r Cabinet ond bod y sefyllfa a wynebir y flwyddyn nesaf yn ofnadwy a bydd yn
sylweddol ar draws ein ystad ac ar gyfer ysgolion. Nid yw'r sefyllfa gyllidebol
net yn hysbys eto gan ein bod ni, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill, yn aros am
ganlyniad cyhoeddiad cyllidol llywodraeth y DU sydd ar fin digwydd, a fydd yn
helpu i egluro'r sefyllfa gyllidebol i gynghorau. Codwyd pryder hefyd am
effaith y cynnydd mewn costau ynni a chyfraddau llog ar lefel benthyca'r cyngor
yn y dyfodol, roedd hyn yn cynnwys yr effeithiau ar y rhaglen gyfalaf. |
|
Trosolwg: Deall Monitro Perfformiad Cofnodion: · Y Fframwaith Rheoli Perfformiad yn
Abertawe · Cyd-destun deddfwriaethol a sut mae'n cael
ei lywodraethu drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 · Sut mae popeth yn gweithio · Sut mae sicrwydd yn cael ei ddarparu'n
fewnol ac yn allanol ·
Adolygu
adroddiadau Monitro Perfformiad Codwyd a thrafodwyd y materion canlynol: · Gofynnodd y
Panel os oedd system genedlaethol wedi'i gosod gan Lywodraeth Cymru yn bodoli o
hyd gyda thargedau safonedig, ac a ydy'r rhain yn cael eu defnyddio i fesur yn
erbyn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Clywodd y Panel mai'r unig beth sy'n
gyson ar hyn o bryd yw'r cyd-destun deddfwriaethol y mae awdurdodau lleol yn
gweithio ynddo, mae hyn yn ymwneud â'r amcanion lles a'r camau a gymerwn i'w
cyflawni. Mae'n rhaid i ni asesu ein hunain ynghylch pa mor dda rydym ni'n
gwneud hynny. Un o'r ffyrdd rydym ni’n gwneud y dyfarniad hwnnw yw drwy
ddefnyddio ein hadroddiadau monitro perfformiad. Ar un adeg, roedd fframwaith
monitro perfformiad cenedlaethol yn bodoli yng Nghymru, felly roedd cyfres o
ddangosyddion perfformiad cenedlaethol yr oedd yn rhaid i bob cyngor yng
Nghymru adrodd arnynt ac roeddem yn gallu cymharu ein hunain ag awdurdodau
lleol eraill, ond ar hyn o bryd nid oes fframwaith cenedlaethol. Er bod mesurau
o fewn gwahanol feysydd gwasanaeth, er enghraifft, mae gan y gwasanaethau
cymdeithasol fframwaith cenedlaethol sydd bellach ar sail gwasanaeth fesul
gwasanaeth. Mae Uned Ddata Cymru yn edrych ar y mater hwn ar hyn o bryd
oherwydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 mae canllawiau
yn cyfeirio awdurdodau lleol i wneud cymariaethau â'i gilydd. Ni fydd y
fframwaith a fydd yn cael ei ddatblygu yn cael ei adrodd yn gyhoeddus ond yn
cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol i fonitro ac i'w ddefnyddio fel rhan
o'u hadroddiadau hunanasesu. ·
Gofynnodd y Panel sut y bydd ein hadroddiadau'n cael eu
harchwilio. O ran yr adroddiadau, fel yr adroddiad lles blynyddol a'r
hunanasesiad blynyddol, clywodd y Panel nad ydynt yn cael eu harchwilio gan
Archwilio Cymru fel dan y trefniadau blaenorol. Yr unig ofyniad o dan y
ddeddfwriaeth newydd yw bod yn rhaid i Archwilio Cymru adolygu'r trefniadau
rydym wedi'u rhoi ar waith i lunio'r adroddiadau. Maen nhw wedi adolygu'r
trefniadau yn Abertawe ac rydym wedi derbyn adroddiad boddhaol, bydd hwn yn
cael ei gynnwys mewn llythyr a fydd yn cael ei anfon at yr awdurdod lleol yn y
dyfodol agos. Yn ychwanegol at hynny, mae adroddiadau monitro chwarterol yn
mynd drwy'r Cabinet ac yna'n cael eu trafod yn y Panel craffu hwn. Mae'r
adolygiad blynyddol o berfformiad yn bodloni'r ddwy ddyletswydd sydd gennym
bellach o dan y ddau ddarn yma o ddeddfwriaeth a bydd hwn hefyd yn dod i'r
Panel hwn yn ogystal â chael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio. |
|
Cynllun Gwaith 2022/23 PDF 210 KB Cofnodion: Mae Adroddiad
Monitro Perfformiad Chwarter 1 ar gyfer 2022/23 wedi ei symud o gyfarfod mis
Hydref i gyfarfod mis Tachwedd ers cyhoeddi'r agenda. Cytunodd y Panel
ar y Rhaglen Waith ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2022/2023. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.05am |