Lleoliad: Remotely via MS Teams
Cyswllt: Scrutiny Officer - 01792 637732
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 602 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18/01/2022 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau
gan y cyhoedd |
|
Craffu cyn Penderfynu ar Adroddiadau'r Cabinet: Y Gyllideb Flynyddol Gwahodd i fynychu: Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (yr
Arweinydd) Ben Smith – Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Cyllid Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 17 Chwefror 2022 sy’n cynnwys papurau’r gyllideb Cofnodion: Adborth Craffu ar y Gyllideb: Cyffredinol Croesawodd y Panel y cynnydd mawr yn narpariaeth y gyllideb, gan nodi mai
hwn oedd y cynnydd mwyaf o'i fath yn y blynyddoedd diwethaf. Mae Aelodau'r
Panel yn edrych ymlaen at wariant ar draws yr holl wasanaethau er budd pobl
Abertawe. Croesawodd y Panel gynnydd mewn gwariant mewn Addysg a Gwasanaethau
Cymdeithasol, a gwariant ychwanegol i fuddsoddi mewn gwasanaethau yn Abertawe
sydd wedi profi rhai gostyngiadau dros y blynyddoedd diwethaf yn unol â
chyllidebau cyfyngedig. Rydym yn obeithiol y bydd arian eleni yn helpu i
atgyweirio'r isadeiledd ar draws Abertawe. Ystyriodd y Panel y rhybuddion gan y Swyddog Adran 151 ynghylch chwyddiant
a phwysau ar wasanaethau, setliadau is yn y dyfodol a'r cronfeydd canolog o
arian untro y bydd angen i'r cyngor wneud cais
cystadleuol amdanynt ac nad ydynt wedi’u sicrhau’n llawn. Roedd Aelodau'r Panel yn deall y bydd cynnydd mawr untro
mewn arian, ond maent yn ymwybodol nad yw'r ffigurau hyn yn cael eu
hadlewyrchu'n gyfartal ar draws y cynllun tair blynedd. Deallasom y bydd angen bod yn ofalus wrth
symud ymlaen, ac efallai na fydd modd ychwanegu at y Gronfa Cyfartalu Cyfalaf
gyda'r lefelau buddsoddi uwch a welwyd ers 2016; gan nodi efallai y bydd llai yn
y gronfa wrth gefn yn y dyfodol. O ran Cyllid Cyffredinol, croesawodd y Panel swm yr arian a adferwyd, gan
nodi'r cynnydd o £700,000 mewn yswiriant. Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Cyd Roedd y panel yn falch o weld sefyllfa'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau
Cymdeithasol eleni, oherwydd y cynnydd ac oherwydd yr arbedion, sy'n edrych fel
pe baent i gyd yn mynd i fod yn gytundebol.
Yr unig bryder bach i'r panel yw pa mor bell y bydd yr arbedion
cytundebol hyn yn mynd. Mae'r panel yn deall bod Papurau'r Cabinet yn dangos cynnydd o £8.5m yng Nghyllideb
y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 ond y gyllideb arfaethedig wirioneddol ar
gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23, yn Nhaflen grynodeb y
Gyllideb Refeniw, yw £16m. Mae'r panel
yn deall bod yr £8.5m ar gyfer pwysau ychwanegol a bod y gwahaniaeth rhwng hyn
a'r £16m ar gyfer twf parhaus o fewn y gwasanaeth. Mae'r Panel yn teimlo bod hwn yn gyfle gwych
i fuddsoddi i wella gwasanaethau. Mae'r Panel yn bwriadu edrych yn fanylach ar drawsnewid gwasanaethau mewn
cyfarfodydd yn y dyfodol. Mae angen cael gwasanaethau sy'n cael eu rhedeg yn
economaidd ac yn effeithlon, ac mae angen i'r Panel sicrhau nad ydym yn colli
golwg ar hyn. Roedd y Panel yn croesawu'r cyfathrebu gwell rhwng Iechyd, Gwasanaethau
Cymdeithasol a Phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n gobeithio y
bydd y berthynas hon yn parhau i dyfu. Addysg Croesawodd y Panel y cynnydd yn narpariaeth y gyllideb ar gyfer ysgolion ar
gyfer y flwyddyn nesaf ond nododd fod y cyllid wedi’i bwysoli’n drwm i flwyddyn
1 2022/23. Rydym yn rhannu pryderon yr
adrannau mewn perthynas ag eglurder cyllid ar gyfer ysgolion ym mlynyddoedd 2 a
3. Clywodd y Panel fod cronfeydd wrth gefn ysgolion unigol ar lefel uchel ar
hyn o bryd. Roeddem yn cydnabod bod hyn
yn beth cadarnhaol o ystyried yr heriau sydd i ddod ym mlynyddoedd 2 a 3, ond
cytunwyd bod hyn yn golygu bod yn rhaid annog yr ysgolion i gael cynlluniau
gwariant tymor canolig da, er mwyn iddynt gael eu defnyddio’n effeithiol. Roedd gan y Panel bryderon ynghylch y cyllid a allai fod yn annigonol gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer: a. Cyflwyno darpariaeth Prydau
Ysgol am Ddim yn raddol i bob disgybl cynradd b. Goblygiadau'r Ddeddf
Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n dod i'r amlwg. Cododd y Panel bryderon ynghylch y newid posib i’r mesur procsi sy’n
seiliedig ar y dyraniad Prydau Ysgol am Ddim, sef y dangosydd a ddefnyddir ar
gyfer cyllid ychwanegol mewn ysgolion ar gyfer disgyblion sy’n agored i niwed
fel, er enghraifft, dyraniad y Grant Datblygu Disgyblion a’r Grant Gwisg
Ysgol. Byddai'r Panel yn awyddus i weld
sut yr eir i'r afael â hyn mewn newidiadau polisi sydd ar y gweill gan
Lywodraeth Cymru fel nad yw plant sy'n agored i niwed ar eu colled. Roedd y Panel yn pryderu am y gost ynni gynyddol i ysgolion a hoffai weld
ysgolion yn newid i atebion mwy gwyrdd, lle bo hynny'n ymarferol. Croesawodd y Panel y lefel uchel o wariant dirprwyedig a gynhelir gan
Gyngor Abertawe. Rydym wedi clywed y
bydd y flwyddyn i ddod yn 83% a bydd yn cynyddu i 85% yn 2024/25. |
|
Abertawe Gynaliadwy (Y diweddaraf ar lafar) Gwahodd i fynychu: Rob Stewart - Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (yr
Arweinydd) Ben Smith – Swyddog Adran 151 a’r
Prif Swyddog Cyllid Cofnodion: Derbyniodd y Panel ddiweddariad llafar byr gan yr Arweinydd a'r Swyddog
A151 ynghylch rhaglen Abertawe Gynaliadwy, gan nodi y bydd adroddiad llawn ar
gael i'r Panel Craffu maes o law. |
|
Cofnodion: Derbyniodd y Panel y Rhaglen Waith ar gyfer 2021/2022 |
|
Adolygiad Blynyddol PDF 286 KB Adolygiad o eitemau o fewn Cynllun Gwaith 2020-21 Cofnodion: -
Ystyriodd y Panel y dogfennau adolygu blynyddol. -
Soniodd y Panel am yr hyn a oedd wedi mynd yn dda eleni,
gan gynnwys craffu ar yr Adroddiad Perfformiad Cynllunio Blynyddol a phresenoldeb
swyddogion arweiniol ac Aelodau'r Cabinet pan ofynnir amdanynt. -
Soniodd yr Aelodau am y diffyg data perfformiad
diweddaraf, o ganlyniad i effeithiau'r pandemig. -
Soniodd yr Aelodau am yr anhawster o ddarllen/ddadansoddi
agendâu ac adroddiadau ar y sgrîn, gan nodi ffafriaeth i dderbyn copïau papur
wedi'u hargraffu. |
|
Strategaeth y Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo Gwahoddwyd: David Hopkins – Aelod y Cabinet dros Gyflawni
a Gweithrediadau Geoff Bacon - Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo Tom Rees - Rheolwr Buddsoddi Mewn Eiddo Alex O'Brien - Rheolwr Eiddo |
|