Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Remotely via MS Teams

Cyswllt: Scrutiny Officer - 07980757686 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

46.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

47.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

48.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 327 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid, a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2021, yn gofnod cywir.

49.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

50.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Ailgylchu a Thirlenwi 2020 - 21 pdf eicon PDF 246 KB

Gwahoddwyd:

Mark Thomas – Aelod Y Cabinet Dros Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Chris Howell – Pennaeth Rheoli Gwastraff a Gweithrediadau Parciau

Matthew Perkins – Arweinydd Grŵp Rheoli Gwastraff

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Thomas yr adroddiad i'r Panel, gan amlinellu'r prif feysydd ffocws. Roedd Matthew Perkins, Arweinydd Grŵp Rheoli Gwastraff, hefyd yn bresennol i gynorthwyo trafodaethau ac ateb cwestiynau. Nodwyd y materion canlynol:

 

·         Cyflawnwyd targed ailgylchu o 64% y llynedd, er gwaethaf anterth y Pandemig. Fe'i nodwyd fel ymdrech anhygoel gan yr holl staff a chriwiau.

·         Cynhaliodd y cyhoedd eu hymdrech ailgylchu drwy gydol y Pandemig; cafwyd cynnydd bach mewn gwastraff sachau du gweddilliol, o bosib oherwydd arferion gweithio o gartref.

·         Rydym ar y trywydd iawn eleni i gyrraedd y targed, er y gallai ostwng ychydig o 64.4% i 64%.

·         Roedd Cyngor Abertawe yn y 17eg safle o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru – nodwyd bod y rhan fwyaf o awdurdodau eraill yn anfon at gynlluniau Troi Gwastraff yn Ynni.

·         Nodwyd bod rhywfaint o ystumio i'r ffigurau hyn, a oedd yn cymharu awdurdodau trefol a gwledig.

·         Bydd Cyngor Abertawe yn symud i ffwrdd o safleoedd tirlenwi, tuag at gyfleuster Troi Gwastraff yn Ynni. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn y flwyddyn newydd, ar ôl i'r contractau gael eu cwblhau.

·         Holodd Aelodau'r Panel ynghylch y cynllun Troi Gwastraff yn Ynni ac a fydd arbedion mawr mewn costau tirlenwi. Esboniodd swyddogion fod Troi Gwastraff yn Ynni yn broses fwy costus, fodd bynnag, drwy gau'r safle tirlenwi, mae'r costau gweithredu'n cael eu lleihau ac felly bydd yn fwy cost-effeithlon.

·         Holodd yr Aelodau a fyddai'r ystod o eitemau a gesglir i'w hailgylchu'n cael eu hehangu. Esboniodd swyddogion fod deunyddiau niferus, megis tecstilau a nwyddau trydanol, y gellid eu casglu o bosib. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y bydd Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru'n cael ei chyflwyno yn 2025 i dargedu deunydd newydd.

·         Bydd 'Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr' a 'Chynlluniau Dychwelyd Ernes' newydd yn cael eu gweithredu dros y blynyddoedd nesaf.

·         Trafododd swyddogion y posibilrwydd o gasglu batris a thynnu'r rhain allan o'r ffrwd wastraff.

·         Mae casgliadau cardbord wedi cynyddu yn ystod y cyfnod clo, wrth i ddanfoniadau cartref gynyddu. Llwyddodd cerbydau casglu Cyngor Abertawe i ymdopi â'r newid hwn yng nghyfansoddiad y gwastraff.

·         Mae ystyriaethau ymarferol mewn perthynas â'r math o dai/fflatiau a storio  cynwysyddion biniau niferus.

·         Para 3.3 APB – Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE): Holodd yr Aelodau ynghylch y cysylltiad rhwng y gostyngiad posib yn y gyfradd ailgylchu. Bydd system CDE yn targedu deunyddiau ailgylchadwy o ansawdd uchel, ac felly allan o wasanaeth casglu'r cyngor.

·         Troi Gwastraff yn Ynni (EfW) – Holodd yr Aelodau a fyddai hyn yn ychwanegu at ôl troed carbon o ran cerbydau sy'n teithio y tu allan i'r sir. Esboniodd swyddogion nad oes cyfleusterau o'r fath yn y sir ac felly byddai costau trafnidiaeth ychwanegol, fodd bynnag, byddai'r gost yn gwrthbwyso gyda rhoi'r gorau i greu gwastraff tirlenwi.

·         Bydd canllawiau newydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am symud i ffwrdd o safleoedd tirlenwi erbyn 2025.

·         Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ffyrdd heb gost o waredu gwastraff.

·         Bydd metrigau carbon yn helpu i fonitro gweithrediadau a phrosesau.

·         Nododd y Panel weithrediad gwych y gwaith (gweithfeydd) yn ystod y Pandemig, gan ganmol pawb sy'n ymwneud â'r gweithrediad a'r gwaith cynllunio hyn.

·         Holodd yr Aelodau a oedd stociau o sachau gwyrdd yn isel. Er bod y lefelau'n isel, clywodd y Panel fod y cyngor bellach wedi'i stocio'n llawn a bydd yn archebu cyflenwadau bob hanner blwyddyn er mwyn osgoi unrhyw oediadau cludo mewn llongau?? yn y dyfodol. Bydd danfoniadau hefyd yn cael eu gwneud yn amlach i fannau dosbarthu sachau.

·         Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch tipio anghyfreithlon mewn perthynas â chasglu pren. 

·         Esboniodd swyddogion fod CNC, o ran pren peryglus, wedi darparu canllawiau ar ddidoli pren, gan gynnwys gofynion ar wahân ar gyfer pren peryglus (wedi'i baentio neu ei drin). Aeth swyddogion ati i egluro gwybodaeth bellach am bren peryglus.

·         Trafododd y Panel y posibilrwydd o symud siop ailgylchu Trysorau'r Tip, er ei fod yn deall y gall problemau storio atal ei ail-leoli yng Nghanol y Ddinas.

 

51.

Y cynnydd a wnaed o ran y Gwaith ar Ffyrdd Cerbydau a Thyllau yn y Ffordd (diweddariad llafar)

Gwahoddwyd:

Mark Thomas – Aelod Y Cabinet Dros Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Cofnodion:

·         Canmolodd y Cynghorydd Thomas y gweithlu a'r staff sy'n ymwneud â'r maes hwn.

·         Er gwaethaf y Pandemig, mae gwaith wedi parhau i fynd rhagddo

·         Mae tua 3,500 o dyllau wedi'u llenwi eleni hyd yma.

·         Mae gan Gyngor Abertawe addewid 48 awr i lenwi tyllau yn y ffordd.

·         Mae rhwng 95% a 100% o'r tyllau yr adroddir amdanynt yn cael eu llenwi bob mis o fewn y cyfnod o 48 awr.

·         Bydd y gyllideb cynnal a chadw priffyrdd (tua) £5.3M yn cynnwys rhywfaint o arian grant gan Lywodraeth Cymru.

·         Mae'r fenter PATCH (Tîm Gweithredu Blaenoriaeth ar gyfer Priffyrdd Cymunedol) – fel arfer yn rhedeg o fis Mawrth i fis Tachwedd, ond mae wedi'i hymestyn i gyfnod o 12 mis eleni, gyda dau dîm yn gweithio o fis Hydref i fis Mawrth.

·         Clustnodwyd 5 niwrnod o bresenoldeb ym mhob ward yn flaenorol dan y fenter PATCH. Mae'r cyfnod hwn bellach wedi'i ymestyn ar gyfer wardiau â dau a thri aelod.

·         Ailwynebwyd 200,00m/sg o briffyrdd eleni hyd yma.

·         Mae 30,000m/sg o arwyneb ffordd gwrthsgidio wedi'i osod ar draws Abertawe.

·         Waeth beth fo'r buddsoddiad ychwanegol, mae angen blaenoriaethu prosiectau ar sail risg gan ddibynnu ar gyflwr y ffordd a ffactorau eraill megis pwysigrwydd rhwydwaith.  

·         Holodd yr Aelodau a yw cost deunyddiau wedi cynyddu'n unol â'r diwydiant petrolewm. Bydd y Panel yn gofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r pwynt hwn.

 

52.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2il 2021/22 pdf eicon PDF 489 KB

Gwahoddwyd:

Ben Smith - Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Adran 151

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Rob Stewart yn bresennol i gyflwyno'r adroddiad ac ateb cwestiynau. Roedd Ben Smith, y Prif Swyddog Cyllid, hefyd yn bresennol i gynorthwyo trafodaethau.

 

·         Cafwyd cipolwg ymlaen llaw ar yr argymhellion i'r Cabinet.

·         A2.3 – mae'n pwysleisio, er y cafwyd gorwario ar wasanaethau, y bydd mwy fyth o wariant oherwydd COVID.

·         A2.7 – mae hawliadau misol yn erbyn gwariant ychwanegol COVID (mis Ebrill i fis

Medi), a'r hawliad am y chwarter cyntaf a'r ail chwarter am golli incwm o ganlyniad i COVID mewn perthynas â'r gwasanaethau, wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC).

·         A2.9 – Rhoddwyd £1 filiwn o'r neilltu yn y gyllideb ar gyfer y costau posib sy'n gysylltiedig ag effaith yr Ardoll Brentisiaethau, a rhoddwyd £3.25m o'r neilltu i dalu costau unrhyw gynnydd chwyddiant penodol a sylweddol sy'n codi yn ystod y flwyddyn.

·         A3 – Darpariaeth y Gronfa Wrth Gefn ar gyfer 2021/22 - ffigur uwch o'r flwyddyn flaenorol, sy'n adlewyrchu mesurau lliniaru ychwanegol yn erbyn unrhyw orwario mynych o ganlyniad i'r Pandemig.

·         A4 - Mae'r sefyllfa yr adroddwyd amdano'n adlewyrchu'r sefyllfa bresennol sydd fwyaf hysbys ac mae'n dangos diffyg net o £15.9m mewn cyllidebau refeniw gwasanaeth, sydd bron yn gyfan gwbl mewn perthynas â chostau/colli incwm disgwyliedig oherwydd y Pandemig.

·         A5 – Cyllideb Gyfalaf - y gwariant hyd at 30 Medi 2021 yw £69.3m

·         A6 - Cyfrif Refeniw Tai - Mae effaith economaidd pandemig COVID ar gyfraddau casglu rhent yn cael ei monitro'n agos.

·         Mae Atodiad A yn crynhoi'r sefyllfa gyffredinol, a'r prif bryderon yw'r rheini ynghylch faint o Dreth y Cyngor na chafodd ei chasglu.

·         Amlinellodd yr Arweinydd y sefyllfa gadarnhaol yn Ch2, gan nodi llwybr cadarnhaol ac, er gwaethaf risgiau fel chwyddiant a COVID, roedd yn obeithiol y bydd y cyngor yn parhau mewn sefyllfa gadarnhaol pan ddaw'r Alldro.

·         Tynnodd yr Arweinydd sylw at rai risgiau o godiadau cyflog a mesurau ychwanegol o ran recriwtio.

·         Holodd yr Aelodau ynghylch y gronfa wrth gefn £35,000 ar gostau cyfieithu i'r Gymraeg. Esboniodd swyddogion nad oedd hyn ar gyfer contract allanol, ond roedd yn ffigur dangosol a glustnodwyd ar gyfer aelod ychwanegol o staff.

·         Mae'n bosib y bydd colledion Treth y Cyngor yn cael eu talu drwy gymorth grant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, ond nid yw hyn wedi'i sicrhau eto.

·         Rhagwelir rhagor o liniaru o'r ddarpariaeth Prentisiaeth/Chwyddiant o £3.25m a'r gronfa wrth gefn o £12.2m.

·         Y tanwariant net a ragwelir ar gyfer y cyngor yw tua £4.7m.

·           Nodwyd bod y gronfa wrth gefn gyfan, gan gynnwys y sylfaen o £3.6m a'r £10m untro a ddygwyd ymlaen, yn cael ei defnyddio i ariannu'r diffyg yng nghyllidebau'r gwasanaeth ac yn y pen draw yn creu'r tanwariant net a gwahaniaeth ariannol rhwng yr hyn sydd ei angen a'r hyn sydd a'r gael o £4.7m.

·         Nododd aelodau'r Panel na fyddai'r swm untro i'w gario ymlaen ar gael yn y dyfodol fel yr oedd, ac felly gellid dod i'r casgliad yn rhesymol pe bai perfformiad y gyllideb yn cael ei ailadrodd y flwyddyn nesaf, y byddai gorwariant o £5.3m pe na bai'r gronfa wrth gefn yn cael ei chario ymlaen fel arall.

<AI6>

 

53.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 229 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y Cynllun Gwaith. 

 

54.

Llythyrau pdf eicon PDF 465 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth pdf eicon PDF 323 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Rheoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd pdf eicon PDF 326 KB