Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Scrutiny Officer - 07980757686 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

 Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

21.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

22.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid, a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021 yn gofnod cywir.

 

23.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

24.

Adroddiad Monitro Cyllideb Chwarter 1 - 2021/22 pdf eicon PDF 468 KB

Ben Smith – Swyddog Adran 151 a’r Prif Swyddog Cyllid

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ben Smith, y Prif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151, ynghylch Adroddiad Monitro Cyllideb C1 - 2021/22.

 

Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: 

 

  • Heblaw am amrywiadau rhagamcanol ar wariant y Gyfarwyddiaeth, mae'n dal yn rhy gynnar i ragweld yn hyderus yr amrywiadau terfynol a all godi ar rai eitemau Corfforaethol arwyddocaol, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor a gesglir (sef diffyg o £2.4m yn 2020-21 o £2.4m a £0.7m yn 2019-20).
  • O ystyried effaith barhaus COVID-19 ac yn seiliedig ar sefyllfa derfynol 2020-21 wrth gasglu, y rhagolwg optimistaidd yw y bydd diffyg o tua £2.0m yn 2021-22.
  • O fewn Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau’r Cynllun Adfer, mae gwaith yn parhau i ddatblygu cynlluniau cyflwyno gwasanaethau sy'n gysylltiedig â thargedau arbedion a blaenoriaethu gwasanaethau.
  • A2.7 - Ar hyn o bryd, mae hawliadau misol yn erbyn gwariant ychwanegol ar COVID (Ebrill i Orffennaf) a chais chwarter cyntaf am golled incwm o ganlyniad i COVID mewn perthynas â'r gwasanaethau wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC).
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer 2021-22 i adlewyrchu'r cyfyngiadau perthnasol a laciwyd yn ystod y flwyddyn ariannol. Yn seiliedig ar y llynedd, mae'n debygol y bydd y meini prawf cymhwysedd yn cael eu mireinio ymhellach gyda threigl y flwyddyn.
  • Mae hawliadau grant i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â POD a Gwasanaeth Tystysgrifau Brechu Cymru (WVCS) yn parhau a rhagwelir y darperir ar gyfer yr holl gostau ychwanegol sy'n codi.
  • A.2.9 Gellir defnyddio amrediad o bwysau chwyddiant a ddelir yn ganolog yn y tymor byr i adfer gorwariant gwasanaethau. Rhagolygon chwyddiant yn ansicr.
  • Mae'r rhagolwg cost ychwanegol sy'n weddill (ar ôl i'r grantiau gael eu derbyn) wedi'i gynnwys dan Adnoddau ac ar hyn o bryd mae'n £6m yn 2021/22.
  • A.3 - Pennwyd cyfraniad o £3.621m i'r gronfa wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y nodir yn adroddiad y gyllideb a gymeradwywyd gan y cyngor ym mis Mawrth 2021. O ganlyniad i'r sefyllfa alldro ffafriol, ychwanegwyd at hyn ar sail untro, er mwyn dod â'r cyfanswm a oedd ar gael yn 2021/22 i £13.621m.
  • Hyd yma, mae tua £4.8m wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chostau ychwanegol/cholli incwm.
  • A.5 Rhagolwg cyllideb gyfalaf. Mae gwariant yn gymharol isel yr adeg hon o'r flwyddyn.
  • A.6 - Cyfrif Refeniw Tai: Mae effaith economaidd pandemig COVID ar gyfraddau casglu rhent yn cael ei monitro'n agos. Yn ystod Chwarter 1, nid effeithiwyd yn sylweddol ar gyfraddau casglu; fodd bynnag; mae'n anodd rhagweld yr effaith tymor hwy.
  • Holodd yr Aelodau ynghylch materion parhaus gyda Threth y Cyngor, a chyfeiriwyd at y diffyg o £2m yr adroddwyd amdano. Holodd yr Aelodau a fydd Llywodraeth Cymru yn talu am y diffyg hwn. Cydnabu swyddogion fod hwn yn fater parhaus, o ystyried straen ar gyllid pobl. Bydd LlC yn parhau i fonitro.
  • Rhagwelir y bydd y gorwariant o £21m – holodd yr aelodau a oedd ffigurau Treth y Cyngor yn rhan o hyn. Esboniodd swyddogion fod hwn yn ffigur ar wahân.
  • Ni ellir gwneud rhagdybiaethau ar gyllid grant, gwneir ceisiadau mewn ôl-ddyledion.
  • Eglurodd swyddogion wrth y Panel y bydd gostyngiad sylweddol yn yr ardrethi annomestig oherwydd cymorth yn y man cychwyn eto. Fodd bynnag, ni ddisgwylir unrhyw effaith sylweddol ar yr Awdurdod, o ystyried addasiadau Llywodraeth Cymru i gronfeydd cyfun.
  • Gofynnodd y Panel am esboniad lleyg ynghylch y diffyg o £20m yn y gyllideb, i esbonio pam y gwnaed y rhagfynegiad hwn. Eglurodd swyddogion nad oedd unrhyw ddiffyg yn dechnegol am ei fod yn cael ei ariannu dros dro drwy gamau 2021-22 ond bydd y goblygiadau a'r rhagolygon tymor hwy yn dod yn gliriach yn dilyn yr adolygiad o'r gyllideb Canol Tymor.
  • Holodd yr Aelodau am y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol a pham mae hyn yn costio mwy na'r cynnydd o 1.5%. Esboniodd swyddogion ei fod mewn gwirionedd yn gynnydd o 10% (1% ar dreth o 10%).
  • Gofynnodd y Panel am ddatganiad ynghylch y cynnydd mewn prisiau ynni, a'r effaith ar Gyngor Abertawe. Nodyn cyngor ysgrifenedig i ddilyn.

 

25.

Adolygiad Cymheiriaid a Hunanasesiad (Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 253 KB

Andrew Stevens – Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad

Adam Hill - Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau

Richard Rowlands – Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel drosolwg ynghylch Adolygu Cymheiriaid a Hunanasesu, a gyflwynwyd gan Richard Rowlands – Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol.

Roedd y Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad, ac Adam Hill, Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau, hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·         Mae Rhan 6 Darpariaethau Perfformiad a Llywodraethu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn diffinio cynghorau lleol fel ‘sefydliadau sy'n gwella’u hunain drwy system sy'n seiliedig ar hunanasesu ac ar asesiadau o berfformiad gan baneli.' Ffyrdd sy’n cael eu paratoi yn awr o roi Rhan 6 ar waith.

·         Mae Rhan 6 yn gosod 5 dyletswyddau statudol newydd ar y cyngor:

-       Adolygu perfformiad yn barhaus

-       Ymgynghori ar berfformiad

-       Adrodd ar berfformiad

-       Dyletswydd i drefnu asesiad o berfformiad gan banel

-       Dyletswydd i ymateb i adroddiad ar asesiad o berfformiad gan banel

  • Mae angen cyflawni'r dyletswyddau hyn yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • Bydd y cyngor yn debygol o uno adroddiadau sy'n bodoli eisoes i greu un adroddiad addas at y diben hwn.
  • Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynnig cymorth gyda threfnu a recriwtio'r Panel Perfformiad yn seiliedig ar eu cysyniad o gymheiriaid corfforaethol profedig.
  • Bydd Archwilio Cymru yn adolygu a yw'r cyngor yn rhoi digon o drefniadau ar waith i gyflawni’i ddyletswyddau perfformiad.
  • Esboniodd swyddogion fod grŵp llywio wedi'i sefydlu i oruchwylio'r broses.
  • Cydnabu swyddogion fod amserlenni ac adnoddau’n her.
  • Mae swyddogion yn gobeithio y bydd effaith gyfyngedig ar adnoddau ychwanegol / amser swyddogion, ac yn gobeithio ymgorffori hyn yn y broses a'r weithdrefn bresennol.
  • Nododd yr Aelodau fod hwn yn ddarn sylweddol o waith, ochr yn ochr â busnes fel arfer.
  • Bydd gan Brif Weithredwr / Aelodau Panel annibynnol daliadau / dreuliau. Mae'n debygol y bydd adnoddau'n cael eu rhannu, a bydd yn broses sy'n esblygu. Y ffordd yr aed ati i wneud hyn oedd trwy adeiladu ar yr hyn sy'n bodoli eisoes.
  • Holodd yr Aelodau am amserlen y gwaith a gynlluniwyd, fel proses barhaus a chyson, a mesuriadau perfformiad strategol. Esboniodd swyddogion y bydd yn rhaid i hyn fod yn berthnasol ac yn ddealladwy.
  • Mae swyddogion yn ystyried hyn fel cyfle i wella / ddysgu ymhellach o'r broses hon.
  • Holodd yr Aelodau am y pwysau y mae'r gofyniad newydd hwn yn ei roi ar adnoddau a gwasanaethau rheng flaen.
  • Soniodd yr Aelodau am natur hyn, gan herio rôl Craffu yn y broses hon a Chynghorwyr yn gyffredinol. Esboniodd swyddogion y bydd y Panel yn asesu'r cyngor yn ei gyfanrwydd, drwy’r asesiad o berfformiad gan banel.
  • Pryderon ynghylch cymorth CLlLC – beth yn union fydd ar gael ac ar ba ffurf?
  • Archwilio Cymru – os nad yw'r broses yn mynd i gael ei harchwilio, dim ond y canlyniad, a yw hyn yn ymarferol?
  • Amlinellodd swyddogion fod gan y paneli Craffu / y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio rolau clir.
  • Gofynnodd y Panel i gyfeiriad penodol at y swyddogaeth graffu gael ei ymgorffori / ychwanegu at yr adroddiad hwn.

 

26.

Cynllun Gwaith 2021/22 pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y Cynllun Gwaith.  Gofynnodd swyddogion am ohirio'r Datganiad Cyllideb Canol Tymor hyd at fis Tachwedd. Cytunodd y Panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth pdf eicon PDF 549 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad pdf eicon PDF 323 KB