Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Mike Day gysylltiad personol ag eitem 4. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion a llythyrau. |
|
Sesiwn Friffio ar y Fenter Ysgolion Iach PDF 9 KB Cofnodion: Roedd Catie Parry, Emma Griffiths a Catrin Ford o Iechyd
Cyhoeddus Cymru'n bresennol yng nghyfarfod y panel. Rhoesant gyflwyniad a
thrafodwyd y materion gyda'r panel. Nodwyd y prif bwyntiau canlynol: ·
Clywodd y panel am y Fenter Ysgolion Iach yn Abertawe gan y cynrychiolwyr o
Iechyd Cyhoeddus Cymru, pam y mae mor bwysig, y cynllun ysgolion iach ei hun a
sut y mae'r cyfan yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru. ·
Roedd y Cynghorwyr yn falch o glywed bod holl ysgolion Abertawe wedi
defnyddio Menter Ysgolion Abertawe i lefelau gwahanol, gyda 12 ysgol yn Abertawe'n derbyn y Wobr Ansawdd Genedlaethol (GAG) sydd
gyfwerth â 13% o ysgolion Abertawe. Cyflawnodd 99% o ysgolion gam 3 neu'n uwch.
Mae 20% o ysgolion yn gweithio tuag at y GAG ar unrhyw adeg. Mae'r ffigyrau hyn
i gyd yn fwy na thargedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y fenter.
Clywsom fod y mwyafrif o ysgolion sydd wedi ennill y GAG o'r sector cynradd ond
nid yw hyn yn golygu nad oes gwaith yn cael ei wneud mewn ysgolion uwchradd.
Maent yn cymryd rhan yn y fenter ond nid ydynt mewn sefyllfa i ymgeisio am y
wobr ar hyn o bryd. Sicrhawyd y panel bod y tîm iechyd cyhoeddus yn rhoi
cymorth i unrhyw ysgol sydd efallai heb gymryd rhan yn llawn neu sydd wedi oedi
yn y broses. ·
Gofynnodd y Cynghorwyr faint o bwyslais sydd ar iechyd meddwl fel rhan o'r
fenter hon. Roeddent yn falch o glywed bod iechyd meddwl a lles yn destun
sylfaen yr adeiladir popeth arall ar ei ben ac mae'n sail i bwrpas y cynllun. ·
Clywodd y panel am y data HAPPEN clir (O'r data Iechyd a Lles a gasglwyd
gan Brifysgol Abertawe). Amlinellodd hyn rhai o'r heriau sy'n wynebu Cymru mewn
perthynas ag iechyd a lles ein plant. Er enghraifft: o Mae gan 74.8% o blant dan 5 oed yn Abertawe
bwysau iach ond mae gan 25.2% bwysau afiach. o 28% yn unig o'r plant a gymerodd ran yn yr
arolwg oedd wedi nodi eu bod yn bwyta 5 dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod. o Ar gyfartaledd, bydd gan blentyn 5 oed sy'n byw
yn Abertawe o leiaf un dant coll, dant wedi'i lenwi neu dant sydd wedi pydru. o Dangosodd data a gasglwyd gan Brifysgol
Caerdydd hefyd (sef data SHRN) fod 44% o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 11 yn
bwyta un dogn o ffrwythau a llysiau neu fwy y diwrnod. Dangosodd hefyd fod 44%
o ddisgyblion wedi nodi eu bod yn yfed alcohol. ·
Roedd y panel yn cydnabod bod hyn yn dangos bod ein plant a phobl ifanc yn
bwyta'r bwydydd anghywir a bod eu glanweithdra deintyddol yn wael. Clywsom fod
modd atal hyn ac mae'n dangos yn glir pa mor bwysig yw'r gwaith a wneir gan
Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ysgolion i fynd i'r afael â hyn. Cytunodd y
Cynghorwyr fod gweithio gyda rhieni i annog arferion bwyta gwell hefyd yn
allweddol. ·
Clywodd y panel am ychydig o'r gwaith gwella iechyd gwych sydd ar waith
mewn ysgolion yn Abertawe a chytunwyd â'r tîm iechyd cyhoeddus pan ddwedon nhw
y dylid cadw'r mater hwn yn uchel ar yr agenda os nad ar y brig. ·
Roedd y panel yn falch o glywed fod Cwricwlwm i Gymru 2022 yn gyffrous gan
y bydd yn cyflwyno ffordd newydd o ddysgu ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc,
sef addysgu sgiliau wrth iddynt dyfu i fyny. Roedd y Cynghorwyr yn falch iawn y
bydd Iechyd a Lles yn un o'r chwe maes dysgu a phrofiad a bydd ganddo statws
cyfartal â'r 5 maes arall ar y cwricwlwm. Diolchodd y panel i Iechyd Cyhoeddus Cymru am fod yn bresennol ac rydym yn edrych ymlaen at glywed sut y bydd y cwricwlwm newydd yn helpu'r agenda bwysig hon i symud ymlaen. |
|
Sesiwn i edrych ar Genhadaeth Genedlaethol Cymru a datblygu cwricwlwm trawsnewidiol PDF 244 KB Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a
Helen Morgan Rees, Pennaeth Cyflawniad a Phartneriaeth Addysg yn bresennol yng
nghyfarfod y panel, a rhoesant adroddiad ysgrifenedig am sut y mae'r ysgolion
yn mynd i'r afael â chamau gweithredu yn y cynllun gweithredu 'Cenhadaeth ein
Cenedl' ar gyfer addysg, gan gynnwys cwricwlwm trawsnewidiol. I grynhoi, roedd
yr adroddiad yn cynnwys y canlynol: ·
Cynllun
Cenhadaeth ein Cenedl ar gyfer gwella addysg a chynllun gweithredu ·
Rôl
Cyfarwyddiaeth Addysg Abertawe fel cynlluniwr a darparwr gwybodaeth effeithiol er
mwyn galluogi ysgolion i wella deilliannau a lles dysgwr. ·
Yr
anghydraddoldebau sy'n wynebu dysgwyr diamddiffyn a'r gofyniad i hwyluso
partneriaethau amlasiantaeth ·
Hybu
arweinyddiaeth sy'n ysbrydoli drwy bedwar diben craidd y cwricwlwm
trawsnewidiol newydd ·
Yr
ymagwedd genedlaethol at ddysgu proffesiynol ·
Ysgolion
fel Sefydliadau Dysgu ·
Yr
ymagwedd broffesiynol gymysg a sut y mae'n datblygu yn Abertawe ·
Gwella
dysgu ar y lefel uchaf mewn dosbarthiadau'r chweched trwy Ganolfan Rhwydwaith
Seren ·
Ymrwymiad
i gamau gweithredu cenedlaethol i leihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth ·
Newid
y ffordd y caiff perfformiad yr ysgol ei fesur Casgliad 1.
Mae
ysgolion Abertawe'n arddangos dealltwriaeth gref o'r
newidiadau cymhleth yn y system addysg yng Nghymru ac fe'u
cefnogir i reoli newid trwy gamau gweithredu strategol lleol a rhanbarthol. 2.
Mae'r
cydlyniant rhwng y blaenoriaethau rhanbarthol a lleol
â'r camau gweithredu yn y cynllun Cenhadaeth ein Cenedl yn ddefnyddiol ac yn
glir. 3.
Ar
hyn o bryd, mae ysgolion yn cael eu newid yn sylweddol. Mae datblygu ysgolion
fel sefydliadau dysgu'n allweddol er mwyn eu cefnogi trwy'r newid. 4.
Mae'r
dulliau hanesyddol o werthuso perfformiad ysgolion yn newid a bydd mwy o
bwyslais ar iechyd a lles emosiynol disgyblion nawr ac yn y dyfodol. Mae'r pwyntiau a
nodwyd yn y drafodaeth hon yn cynnwys: ·
Dyma
gyfle amserol i edrych ar sut y mae ysgolion Abertawe'n
ymateb i'r her hon. Mae'n bwysig ein bod ni'n ystyried y sefyllfa bresennol a
gallu ein hysgolion i wneud hyn. ·
Mae
angen i ni ddatblygu arferion asesu cadarn ar draws yr holl ranbarth ynghyd â
chysondeb. Cydnabyddir bod Abertawe'n dangos
asesiadau cadarn ond a ydynt cystal mewn rhannau eraill o'r rhanbarth? ·
Dyma
gyfnod anodd iawn i'r awdurdodau lleol a'r tîm craffu sy'n barnu safon addysg.
Yn enwedig gan y bydd llawer mwy o bwyslais ar gynnydd dysgwyr unigol yn
hytrach na data. ·
Sut y
mae'r ysgolion yn mynd i'r afael â rhoi'r cwricwlwm newydd a phopeth sy'n
ymwneud ag ef ar waith. Bydd y Panel Craffu Addysg yn ychwanegu hyn at y rhestr
o gwestiynau y maent yn ei defnyddio ar gyfer eu gwaith craffu ar ysgolion
unigol. ·
Sut y
mae Estyn yn newid gyda'r cwricwlwm newydd. Bydd yn canolbwyntio'n fwy ar
sgyrsiau ag ysgolion yn hytrach na barnau. Bydd hyn yn unol â'r adroddiad Donaldson diweddar am yr Arolygiaeth. Bydd Estyn yn sicrhau
bod eu gwaith yn cefnogi'r cwricwlwm newydd. Bydd ymweliadau anfeirniadol y
flwyddyn nesaf. Dilynir hyn gan fwlch blwyddyn er mwyn rhoi cyfle i ysgolion
gael hoe a mesur a phwyso'r sefyllfa. Yn dilyn hyn bydd y drefn arolygu'n
wahanol, ac yn canolbwyntio'n fwy ar ymagwedd partneriaeth integredig er
byddant yn parhau i arolygu ysgolion lle mae pryderon. Dyma gam cadarnhaol wrth
symud ymlaen. ·
Bydd
ysgolion yn lleihau gwaith diangen. Gwerthusir meysydd penodol y mae angen i'r
ysgol eu gwella yn fwy manwl yn hytrach na llunio llwyth o adroddiadau ar
feysydd ehangach. Dylai hyn fod yn offeryn gwella mwy pwerus yn hytrach na
chanolbwyntio ar ysgrifennu'r adroddiad i fodloni perfformiad mwy cyffredinol
yn unig. Cytunodd y panel mai dyma'r ffordd ymlaen orau. ·
Er y
gall hyn fod yn her i rai ysgolion gan eu bod yn ymrwymedig i'r hen system o
hyd, lle'r ystyrir bod adrodd am atebolrwydd yn bwysig o hyd, bydd angen
cymorth a chefnogaeth arnynt i symud i ffordd newydd o weithio. ·
Bydd
yn bwysig sicrhau bod llywodraethwyr yn deall y cwricwlwm newydd a'r pwyslais
newydd ar iechyd a lles emosiynol disgyblion. Bydd yn bwysig eu bod yn gofyn y
cwestiynau iawn. ·
Nid
yw'r cwricwlwm newydd mor ragnodol, bydd rhai athrawon yn ffynnu yn yr amgylchedd
hwn ond mae angen i ni gydnabod y bydd angen ychydig o gymorth ychwanegol ar
rai er mwyn datblygu hyn yn llwyddiannus. ·
Gofynnodd
y panel am yr hyn sydd ar gael i'r disgyblion hynny sydd am ddilyn llwybr llai
academaidd. Mae partneriaethau ag amrywiaeth eang o bartneriaid lleol er mwyn
sicrhau ein bod ni'n cynnig profiad yn y byd gwaith gan gynnwys nifer o
brentisiaethau. Mae'r Academi Prentisiaethau'n gweithio gyda chyflogwyr i
ddatblygu cyfleoedd. Cytunodd y panel y gellir datblygu'r berthynas hon a'r
cyfleoedd am brentisiaethau mewn amrywiaeth o rolau ymhellach. Tynnodd y Panel
sylw at y cyfleoedd digidol nad oes ganddynt o reidrwydd lwybr academaidd
ynghlwm wrthynt. ·
Clywodd
y Panel am y rhaglen adeiladu gadarnhaol 'Build me' gyda'r UCD a chynllun adeiladu Parc y Werin, sy'n
cynnig deuddydd yr wythnos o gyfleoedd hyfforddiant mewn gweithgareddau
adeiladu, sy'n cynnwys ymweliadau dan oruchwyliaeth a thrafodaeth am rolau
gwahanol a'r sgiliau y mae eu hangen ar y safle. · Roedd y Panel yn hapus gyda'r cynnydd a wneir yn Abertawe mewn perthynas â datblygiad y cwricwlwm newydd a'r ymrwymiad i ddatblygu Cenhadaeth ein Cenedl yma yn Abertawe. Hoffem dderbyn diweddariadau rheolaidd wrth iddo ddatblygu. |
|
Cynllun Gwaith 2019 - 2020 PDF 213 KB Cofnodion: Hysbysodd y
Cynullydd y panel fod yr eitem a drefnwyd ar gyfer 13 Chwefror 2020 ynghylch
Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi'i symud i'r cyfarfod a gynhelir ar 19 Rhagfyr.
Symudwyd yr eitemau a drefnwyd ar gyfer 19 Rhagfyr i 13 Chwefror. |
|