Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Nodiadau a llythyrau cynullyddion PDF 161 KB Nodiadau a llythyrau cynullyddion o gyfarfod y panel ar 11/12/18 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodiadau, llythyrau ac ymatebion y cynullydd a dderbyniwyd gan y panel. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd 10 minute public question time. Cofnodion: Dim |
|
Adrodd yn Flynyddol am Berfformiad Addysg PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau,
a Helen Morgan Rees, Pennaeth y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth, yn
bresennol er mwyn cyflwyno'r adroddiad ac ateb cwestiynau. Mae'r pwyntiau allweddol a nodwyd yn cynnwys: ·
Mae
mesurau perfformiad yng Nghymru yn newid sydd wedi effeithio ar y data a ddarperir
a bydd yn parhau i effeithio arno. Am y tro cyntaf, mae disgyblion yn y cyfnod
sylfaen yn cael eu mesur ar feysydd dysgu diwygiedig. Mewn ysgolion cynradd,
rhoddir mwy o bwyslais ar gynnydd disgyblion yn hytrach nag ar eu perfformiad
ar ddiwedd y cyfnod allweddol. Yn y sector uwchradd, cyflwynwyd cymhwyster
newydd. ·
Mae perfformiad yn y cyfnod sylfaen wedi gostwng 10% yn
dilyn tuedd gadarnhaol rhwng 2014 a 2017. Serch hynny, clywodd y panel fod hyn
oherwydd newid i ddisgrifwyr y cyfnod sylfaen ac
adlewyrchir hyn hefyd ar lefel genedlaethol. Cytunodd y cynghorwyr fod angen
ffocws parhaus ar y maes hwn. ·
Gwelir tuedd gadarnhaol yng nghynnydd cyfnod allweddol 2
dros y pum mlynedd diwethaf ac mae Abertawe gystal â'r cyfartaledd
cenedlaethol. ·
Gwelwyd gwelliant blynyddol yng nghyfnod allweddol 3 dros
y 5 mlynedd diwethaf ond mae Abertawe’n is na’r
cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer y dangosydd pwnc craidd er ei fod wedi dangos
cyfradd gyflymach o gynnydd. ·
Mae perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 wedi bod yn
rhagorol dros y 5 mlynedd diwethaf gydag ysgolion Abertawe'n
dangos gwelliant parhaus yn y prif ddangosyddion. ·
Mae bwlch amlwg yn parhau rhwng disgyblion sy’n derbyn
prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim. Clywodd
y panel fod perfformiad disgyblion PYDd wedi gwella
ychydig ond mae'r bwlch yng nghyfnod allweddol 4 yn parhau i fod yn 32.8%. Cytunodd y cynghorwyr y dylai hyn barhau
i fod yn ffocws ar gyfer gwella ac yn brif flaenoriaeth i Abertawe. ·
Mae'r bwlch rhwng y rhywiau mewn deilliannau perfformiad
yn llai nag yn 2017 ond mae tuedd sy’n ehangu'n parhau i fod. Clywodd y panel
fod rhai ysgolion yn gwneud yn well wrth dargedu bechgyn sy’n tanberfformio ac
mae gweithdrefnau da ar waith i rannu arfer da ynghylch y mater hwn. Dywedodd
Aelod y Cabinet fod ymgyrch i ganolbwyntio ar lythrennedd bechgyn, gan gynnwys
darllen gydag aelod gwryw o'r teulu, yn gadarnhaol. Cytunodd y panel y byddai
cynnal yr ymgyrch hon eto ynghyd â mwy o waith rhwng y cenedlaethau ar y mater hwn
yn fuddiol. ·
Mae cyrhaeddiad disgyblion chweched dosbarth yn Abertawe'n dangos gwelliant, a chytunwyd bod angen parhau i
gynnal mwy o waith yn y maes hwn er mwyn cryfhau perfformiad. ·
Roedd
y panel yn falch o glywed bod perfformiad disgyblion mewn Saesneg fel iaith
ychwanegol yn gryf. ·
Mae’r panel yn deall y gall y data ar gyfer plant sy'n
derbyn gofal fod yn anodd i’w gyrchu oherwydd gall gael ei seilio ar garfan
fach o ddisgyblion. Felly, mae'r panel yn bwriadu ystyried yr agwedd hon yn fwy
trylwyr mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018 PDF 95 KB Cofnodion: Cytunodd y panel
y caiff yr eitem a ohiriwyd ynghylch deilliannau addysgol plant sy'n derbyn
gofal ei thrafod ar y cyd â'r Panel Craffu'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Cyfarfod ar y cyd i'w drefnu. |
|
Cofnodion: Derbyniodd y
panel grynodeb o ganlyniadau arolygiadau ysgolion unigol Estyn. |
|