Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd bod Cofnodion 18 Tachwedd yn gofnod cywir.

 

Derbyniwyd llythyr y Cynullydd ac ymateb Aelodau'r Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 21 Hydref.  Rhoddwyd diweddariad am adroddiad cenedlaethol gan Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn ymwneud ag aflonyddu mewn ysgolion.  Clywodd y Panel fod yr adroddiad yn cynnwys 3 argymhelliad: mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg wedi edrych ar y rhain a byddant yn eu datblygu drwy weithgor.  Cytunodd Aelod y Cabinet i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am y cynnydd maes o law.

Derbyniodd y Panel lythyr y Cynullydd ac ymateb Aelodau'r Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 18 Tachwedd.

The Panel accepted the Conveners letter and Cabinet Member response following the Panel meeting on the 18 November.

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

5.

Prydau Ysgol - diweddariad ar lafar

Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg)

Cofnodion:

Gofynnodd Cynullydd y Panel i Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr am yr wybodaeth ddiweddaraf am y polisi yn Abertawe mewn perthynas â darparu prydau ysgol pan gall fod teulu mewn debyd yn eu cyfrif prydau ysgol.

 

Clywodd y Panel na ddylai unrhyw blentyn yn Abertawe fynd yn llwglyd pan fydd yn yr ysgol a bod cynlluniau wrth gefn ar gyfer ysgolion yn cael eu rhoi ar waith os nad oes gan rieni arian yn y cyfrif prydau ysgol.  Dywedodd Aelod y Cabinet ein bod yma i gefnogi teuluoedd a byddem yn annog unrhyw deulu sy'n ei chael hi'n anodd talu am brydau ysgol i gael sgwrs gyfrinachol ag ysgol eu plentyn.  Dywedodd hefyd, os bydd unrhyw Gynghorwyr yn dod yn ymwybodol o sefyllfa sy'n codi, y gall gysylltu ag ef a bydd yn ymchwilio iddo.

6.

Perfformiad yn erbyn blaenoriaethau addysg a nodwyd (trosolwg a Sesiwn Holi ac Ateb Aelod y Cabinet) pdf eicon PDF 257 KB

Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg)

 

Cofnodion:

Gofynnodd y Panel i Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am berfformiad y Gyfarwyddiaeth Addysg yn erbyn ei hamcanion allweddol.

·       Dywedodd Aelod y Cabinet ei fod yn set gadarnhaol o ganlyniadau, yn enwedig o ystyried y cymhlethdodau a achoswyd gan y pandemig.

·       Fel arfer, mae'r Panel Craffu Perfformiad Addysg yn derbyn adroddiad perfformiad blynyddol gan y prif swyddog addysg statudol. Yn ystod y pandemig, mae arholiadau a ddilyswyd yn allanol wedi dod i ben ac nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn casglu asesiadau diwedd cyfnod allweddol. Yn ogystal, mae categoreiddio ysgolion yn genedlaethol yn cael ei atal ochr yn ochr ag arolygu ysgolion gan yr arolygiaeth addysg Estyn. O ganlyniad, mae'n anodd gwneud cymariaethau ac adrodd ar berfformiad ysgolion.  Felly, edrychodd y Panel ar y perfformiad addysg yn erbyn ei amcanion allweddol gan gynnwys Statws Coch, Oren, Gwyrdd.

·       Clywodd y Panel am yr amcanion addysg a sgiliau allweddol, sef:

­   rydym am i Abertawe fod yn un o'r lleoedd gorau yn y byd i blant a phobl ifanc dyfu i fyny ynddi

­   rydym am i bob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe gyflawni, bod yn iach, bod yn wydn a bod yn ddiogel

­   rydym am i blant a phobl ifanc fynd i'r ysgol yn rheolaidd am eu bod yn fwy tebygol o ennill y sgiliau a'r cymwysterau angenrheidiol i symud ymlaen i addysg bellach, addysg uwch, cyflogaeth neu hyfforddiant

­   rydym am i blant a phobl ifanc ennill y cymwysterau a'r sgiliau sy'n addas ar gyfer anghenion economaidd y dyfodol a gallu cyfrannu'n gadarnhaol fel dinasyddion lleol actif

­   rydym am atal plant rhag colli diddordeb mewn dysgu

­   fel rhieni corfforaethol Plant sy'n derbyn Gofal, rydym am i'n plant sy'n derbyn gofal lwyddo yn yr ysgol a chael cyfleoedd i gael addysg bellach, addysg uwch, cyflogaeth neu hyfforddiant

­   rydym yn cydnabod bod angen cefnogaeth amserol ac effeithiol ar blentyn neu berson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn caniatáu iddo gyrraedd ei lawn botensial

­   rydym am i'n plant a'n pobl ifanc fod yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau byd-eang fel y gallant fod yn ddinasyddion gweithredol a chyfrifol, cyflawni eu potensial a gwneud gwahaniaeth i'w cymunedau

­   rydym am i'n plant a'n pobl ifanc feddu ar sgiliau Cymraeg da

·       Clywodd y Panel ei bod wedi bod yn flwyddyn ddigynsail ym maes addysg ond mae sawl llwyddiant wedi bod. Mae rhai ohonynt yn cynnwys, er enghraifft, y gwaith ynghylch yr agenda Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol i sicrhau ein bod yn ymateb yn briodol i’r Ddeddf newydd. Hefyd, y gwelliannau parhaus a’r ysgolion newydd drwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

·       I gloi, clywodd y Panel fod perfformiad yn erbyn amcanion allweddol yn dda ar gyfer y rhan fwyaf o amcanion ac yn adlewyrchu statws cynnydd addas, gan fynd i'r afael â'r blaenoriaethau yn y rhan fwyaf o agweddau. Dim ond ar fân agweddau’n unig y mae angen sylw pellach. Fodd bynnag, mae perfformiad yn erbyn ychydig o flaenoriaethau ac ychydig o amcanion yn wannach oherwydd problemau adnoddau, effeithiau'r pandemig neu ffactorau allanol eraill. Yn bwysig, mae'r gwerthusiad o gynnydd yn onest. Lle mae rhwystrau allweddol i berfformiad, adroddir ar faterion fel rhan o'r broses rheoli risgiau corfforaethol. Ar y cyfan, mae'n amhosibl adrodd ar y perfformiad yn erbyn prif ddangosyddion allweddol hanesyddol. Mae'r sicrwydd allweddol ar gyfer rheoli, llywodraethu a pherfformiad ysgolion bellach yn cael ei gyflawni'n bennaf drwy fonitro a gwerthuso gan swyddogion addysg.

Gofynnodd y Panel sawl cwestiwn - crynhoir y rhain fel a ganlyn:

·       Sut mae'r datganiadau yn y ddogfen yn cael eu mesur, gan fod rhai yn ansoddol yn hytrach na’n feintiol? Hefyd, pwy sy'n penderfynu ar yr asesiad o'r categori? Clywodd y Panel nad yw hyn yn cael ei wneud ar ei ben ei hun, ac nid un person sy'n penderfynu arno, rydym yn gweithio fel tîm a grŵp o uwch-ddysgwyr i herio’n gilydd ar bob rhan o'r statws Coch, Oren, Gwyrdd.  Hefyd, nid arweinydd tîm na phennaeth gwasanaeth yn unig sy'n penderfynu ar hyn, rydym yn sgwrsio â phawb sy'n ymwneud â hyn ac yn gofyn am adborth.

·       Faint o'r adroddiad hwn sy'n ystyried elfennau allanol, gan fod llawer o'r hyn a wnawn yn dibynnu ar ein partneriaid?  Clywodd y Panel ein bod yn edrych yn aml ar ddeall pa mor dda yr ydym yn ei wneud, nid yn unig yn fewnol fel Cyfarwyddiaeth, ond yn allanol hefyd o ran cael mwy o adborth. Nid ydym wedi gwneud arolwg o farn ein penaethiaid am ein perfformiad ac mae hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ei ystyried, er enghraifft ar amcan fel dysgu ac addysgu.  Rydym wedi gwneud arolwg mewn rhai o'n hysgolion mewn perthynas â'u hanghenion cymorth dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Mae ystyried elfennau allanol yn rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, felly mae ffyrdd o weithio wedi'u trawsnewid ers 2015, mae'n ddisgwyliad bod pawb yn gweithio mewn partneriaeth ac yn dangos ffyrdd integredig o weithio.  Nid yw'r adroddiad hwn mewn gwirionedd yn dangos faint o waith a wnawn gydag adrannau eraill o fewn y cyngor hwn, ond rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid o ran ADY er enghraifft.

·       A ydym yn darparu'r cydbwysedd cywir rhwng mesur pethau a gwneud pethau?

Clywodd y Panel fod cynllunio'n bwysig i ni gyflawni’n hamcanion yn dda. Gallwn anelu'n uchel, ond heb gynllunio clir, gallai'r dyheadau hynny arafu. Ond cytunodd y Cyfarwyddwr fod angen sicrhau bod cydbwysedd o ran ymwneud yn llawn â gwaith papur pan ddylem fod yn edrych ar y gorwel i weld beth arall sydd i'w wneud, a gwerthuso pa mor dda rydyn ni'n ei wneud.

·       A ydym yn meincnodi perfformiad gydag eraill? Clywodd y Panel fod hwn yn cael ei wneud os oes data tebyg ar gael, er enghraifft meysydd monitro perfformiad corfforaethol megis presenoldeb disgyblion.  Rydym yn cymharu hyn ag awdurdodau lleol eraill, a gwyddom beth yw ein safle.  Os yw'n synhwyrol gwneud cymariaethau, rydym yn gwneud hynny, ond yn amlwg mae rhai o'r cynlluniau strategol hynny'n unigryw i Abertawe felly mae'n anodd cymharu lefel y cynllunio a'r ddarpariaeth yn erbyn y cynllun hwnnw oherwydd, er enghraifft, byddai ein cynllun dysgu ychwanegol yn Abertawe yn edrych yn wahanol i awdurdod arall. Mae'n bwrpasol ac yn unigryw i anghenion Abertawe, felly mae'n rhaid i ni ei werthuso'n lleol.

·        Pam y mae angen cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar fwy o blant?   Clywodd y Panel fod nifer y disgyblion ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig wedi cynyddu deirgwaith yn ystod y saith mlynedd diwethaf, felly gwyddom fod galw penodol am leoedd arbenigol.  Hoffem eu haddysgu yn Abertawe felly y nod yw creu rhagor o leoedd yma a dod â nhw'n ôl i Abertawe o leoedd y tu allan i'r sir. Felly mae hynny'n amcan allweddol i ni o ran sicrhau bod gennym ddigon o leoedd i'r dysgwyr.

·       Yng ngoleuni marwolaeth drasig plentyn yn Lloegr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sut rydym yn sicrhau bod y cyngor yn cyfathrebu'n effeithiol ar draws adrannau a chyda'i bartneriaid, gan gynnwys Iechyd?   Ym maes addysg rydym ni a'r ysgol yn monitro i sicrhau ein bod yn ymwybodol  o’r plant sy'n agored i niwed ac mewn perygl, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng y gwasanaeth plant ac asiantaethau perthnasol eraill.  Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyfarwyddwr Addysg a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i sicrhau yr edrychir ar yr holl faterion perthnasol.    Rydym hefyd yn gweithio gydag ymwelwyr Iechyd a gwasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc.  Darperir hyfforddiant, o safbwynt amddiffyn a diogelu plant a hyfforddiant cyffredinol i blant iau nad ydynt bob amser yn gallu siarad drostynt eu hunain. Mae'r ddau beth hynny gyda'i gilydd yn ein galluogi i gadw llygad ar blant ac arsylwi arnynt yn ofalus iawn. Pan fydd gan athrawon bryderon, maent yn eu rhannu â'r swyddogion amddiffyn plant dynodedig yn eu hysgol.

 

7.

Partneriaeth Sgiliau Abertawe pdf eicon PDF 203 KB

Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg)

Cofnodion:

Flwyddyn yn ôl, cyfarfu'r Panel ag aelodau Partneriaeth Sgiliau Abertawe a heddiw gofynnwyd i Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y cynnydd a wnaed ers y cyfarfod hwnnw. 

 

Clywodd y Panel fod Partneriaeth Sgiliau Abertawe wedi gwneud cynnydd addas yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy adeiladu ar ei sylfeini cynnar. Gellir crynhoi'r llwyddiant fel a ganlyn:

­   Hyrwyddo, cynnal a datblygu Abertawe fel Dinas Dysg

­   Datblygu cynllun gweithredu lleol sy'n canolbwyntio ar allu digidol a chanllawiau i ddysgwyr er mwyn ysbrydoli dysgwyr i ystyried y mathau o swyddi a chyfleoedd o fewn Bargen Ddinesig Bae Abertawe

­   Datblygu llwyfan digidol cynaliadwy yn Fy Newis I i gefnogi llwybrau dysgu ac e-ddysgu disgyblion yn ysgolion Abertawe

­   Atgyfnerthu mantais gydweithredol addysgwyr, cynghorwyr gyrfaoedd a swyddogion sy'n gweithio mewn partneriaeth

­   Cyfleoedd pontio a rhagflas a nodwyd i ddysgwyr Abertawe ddarganfod cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'u pynciau, eu diddordebau a'u huchelgeisiau

­   Monitro a gwerthuso cynnydd yn erbyn blaenoriaethau strategol a sicrhau bod cysylltiad priodol â chynllun sgiliau'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol

­   Nodi a datblygu cyngor gyrfaoedd cryf gan gynnwys prentisiaethau a dysgu sy'n seiliedig ar waith ac ehangu'r ffocws i gynnwys disgyblion iau

­   Mewn partneriaeth â darparwyr addysg uwch ac addysg bellach, archwilio cyfleoedd dysgu proffesiynol a lledaenu arfer da

­   Sicrhau bod prentisiaethau a dysgu sy'n seiliedig ar waith yn cyd-fynd ag anghenion sgiliau yn y dyfodol.

·       Roedd y Panel yn arbennig o falch o weld y camau'n cael eu cymryd, a bod ffocws ar bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) gan y Bartneriaeth.  Clywsant am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r llinyn NEET, gan glywed bod llwybr go iawn wedi datblygu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf a bod y bartneriaeth wedi blodeuo gydag ystod o bartneriaid yn cydweithio ar y mater hwn.

·       Roedd y Panel yn siomedig mai ychydig o gynnydd a wnaed o ran ymgysylltu â'r gymuned fusnes a'i chynnwys, ond clywodd fod gan y Bartneriaeth gysylltiadau â'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, a'i bod yn cael ei chynrychioli ar y bwrdd.  Mae gan bob un o'r partneriaid eu cysylltiadau eu hunain â busnesau hefyd ac mae'r cyswllt hwnnw'n cael ei fwydo i mewn drwy'r bartneriaeth. Mynegwyd anhawster wrth nodi a chael unrhyw enwebiadau. Byddai'r Bartneriaeth yn croesawu unrhyw enwau y gallwn ystyried mynd atynt.  Byddai angen i'r Bartneriaeth newid y cylch gorchwyl. Nid oedd adroddiad a aeth i'r Cabinet yn wreiddiol yn cyfeirio at y gymuned fusnes, er bod awydd clir i hynny ddigwydd.

·       Roedd y Panel yn falch o'r ffordd y mae'r Bartneriaeth yn datblygu ond cytunodd fod angen mwy o gyfranogiad gan y gymuned fusnes arnom a bydd yr elfen ychwanegol hon yn ei gwneud yn well fyth.

·       Gofynnodd y Panel a oedd arolwg o bartneriaid wedi'i gynnal eleni? Clywsant nad oes arolwg o bartneriaid wedi'i gynnal eleni, ond mae'n agenda agored o ran unrhyw bartneriaid sydd am fwydo i mewn i'r agenda a chyfrannu at strategaeth. Mae'r gwahoddiad hwnnw yno bob amser. Dywedodd y Panel y byddent yn annog y Gyfarwyddiaeth Addysg i ddod i siarad â'r partneriaid, er mwyn cael adborth dangosol, gan ofyn wedyn sut yr hoffent weld y bartneriaeth yn datblygu ymhellach a sut mae'r partneriaid hynny'n credu y gallai hyn ddigwydd.

 

8.

Diweddariad ar y cynnydd gyda'r Bartneriaeth Addysg Ranbarthol pdf eicon PDF 258 KB

Y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am y cynnydd a wnaed o ran sefydlu'r bartneriaeth addysg ranbarthol newydd a dirwyn ERW i ben.  Clywodd y Panel:

·       Fod Cytundeb Cyfreithiol ar gyfer y bartneriaeth addysg ranbarthol newydd a elwir yn Bartneriaeth wedi’i sefydlu gyda'r tri awdurdod lleol yn cytuno arno yn eu cyfarfodydd Cabinet yr hydref hwn.

·       Mae'r Cytundeb Cyfreithiol hwn yn caniatáu i ni gael Cyd-bwyllgor priodol. Mae partneriaid wedi cyfarfod fel cyd-bwyllgor cysgodol ond yn awr gallwn edrych ymlaen yn y bartneriaeth newydd, gyda chyd-bwyllgor priodol am y tro cyntaf a all ddechrau gwneud penderfyniadau.

·       Mae angen inni hefyd ddirwyn ERW i ben drwy gau'r cyfrifon a bydd angen cyfarfod terfynol o Gyd-bwyllgor ERW er mwyn i hynny ddigwydd.

·       Mae popeth yn dal i fod yn sefyllfa hyblyg yn yr ystyr bod y strwythur staffio presennol yn mynd drwy newid, rydym wedi gallu cadw rhai o'r staff hynny, mae eraill wedi mynd i swyddi eraill, ac efallai y bydd angen inni lenwi swyddi.  Mae maint y sefydliad wedi lleihau'n fawr, ac mae'r staffio'n adlewyrchu hynny.  Dylai'r strwythur staffio fod yn ei le erbyn diwedd mis Ionawr.

·       Bydd gan y bartneriaeth lai o ffocws nag ERW a bydd yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol a datblygu arweinyddiaeth. Bydd yr agweddau Gwella Ysgolion yn cael eu gosod o fewn pob awdurdod lleol.

·       Mae'r cytundeb yn cynnwys strwythur llywodraethu cryf sy'n cynnwys y Grŵp Cynghorwyr Craffu.

·       Gofynnodd y Panel a oedd disgwyl i'r holl bartneriaid gwreiddiol gyfrannu at ddirwyn ERW i ben? Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod hyn yn wir.

 

9.

Cynllun Gwaith 2021-2022 pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel y rhaglen waith.

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.15pm

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 180 KB