Agenda a Chofnodion
Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu
Media
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: None |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: None |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd llythyrau a chofnodion eu hadolygu a'u derbyn gan y panel |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cynghorwyr Gwella Ysgolion Arweiniol Cofnodion: Diolchodd y panel
i'r Cynghorydd Robert Smith a Damien Beech am ddod i'r cyfarfod i gyflwyno'r
adroddiad ar Wella Ysgolion ac ateb cwestiynau'r panel. Roedd rhai o'r
materion yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â hwy yn cynnwys: ·
Cyd-destun
a chefndir y gwasanaeth ·
Gwaith
y Tîm Gwella Ysgolion a chymorth i ysgolion yng nghyfnod COVID-19 ·
Sut
mae ysgolion yn defnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion ·
Cymorth
parhad dysgu gan gynnwys rhannu arfer da a datblygu polisïau, dogfennau ac adnoddau
ar gyfer ysgolion ·
Dysgu
proffesiynol ar gyfer staff addysgu ac ysgolion ·
Cefnogi
cyrff Llywodraethu a sesiwn hyfforddi barhaus, o bell. ·
Parodrwydd
ar gyfer y Fargen Ddinesig Trafodwyd y
pwyntiau canlynol: ·
Gofynnodd y panel am y sefyllfa bresennol o ran
cyrhaeddiad ysgolion cynradd. Mae'r panel eisoes wedi pryderu am lefelau
cyrhaeddiad y disgyblion hynny sy'n derbyn PYDd.
Gofynnwyd pryd y byddwn mewn sefyllfa i ganolbwyntio ar y mater hwn unwaith eto
ar ôl COVID-19, ac edrych eto ar wella cyrhaeddiad PYDd?
Roedd y panel yn falch o glywed bod dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer
gwario'r Grant Datblygu Disgyblion, sy'n edrych ar yr hyn sy'n gweithio. Byddai
gan y panel ddiddordeb mewn gweld, ar ryw adeg yn y dyfodol, wybodaeth am y
gydberthynas rhwng sut y caiff y Grant Datblygu Disgyblion ei wario a chynyddu
cyrhaeddiad. Clywodd y panel fod Llywodraeth Cymru, o ran mesur cyrhaeddiad,
wedi cael gwared ar asesiadau athrawon y cyfnod sylfaen ac asesiadau athrawon
diwedd cyfnod allweddol dau sy'n beth da, ond mae angen datblygu ffordd newydd
o fesur anghenion cyrhaeddiad. Yn y dyfodol, bydd trefniadau asesu yn cael eu
cynnwys wrth gynllunio'r cwricwlwm newydd. Un cwestiwn da i Lywodraeth Cymru
fydd sut y gallwn ni fel cyngor, neu yn wir fel gwlad, fesur a yw'r cwricwlwm
newydd yng Nghymru yn cael yr effaith a ddymunir. Clywsant y bydd hwn yn
gwestiwn parhaus y bydd angen i ni barhau i'w ofyn wrth i ysgolion ddatblygu'r
broses asesu newydd honno. ·
Clywodd y panel hefyd yn ystod y trafodaethau gydag ysgolion,
ac yn enwedig yn ystod yr ymweliadau cefnogi ar gyfer tymor yr hydref hwn, y
bydd cynghorwyr gwella ysgolion yn edrych ar ba mor dda y mae disgyblion yn
gwneud. Canfuwyd yn ystod ymweliadau'r llynedd bod angen i rai o’u disgyblion
ganolbwyntio ar y sgiliau sylfaenol, a dyma fydd yr achos eleni hefyd mwy na
thebyg. Ond cyn hynny mae'n hanfodol eu bod yn canolbwyntio ar les disgyblion,
os nad yw disgyblion yn hapus neu'n gyfforddus yn yr ysgol mae'n anodd dysgu. ·
Gofynnodd y panel sut mae pethau'n gweithio o ran
comisiynu Penaethiaid a pha fath o effaith y mae hyn yn ei chael ar yr ysgol yn
eu rhyddhau. Clywsom fod y Penaethiaid a gomisiynwyd yn cofnodi eu dyddiau y tu
allan i'r ysgol a bod yr ysgol yn cael ei thalu'n ariannol am y cyfnod hwnnw.
Mae hyn wedyn yn rhoi cyfle i’r Dirprwy er enghraifft ddod allan o'r dosbarth a
chael y profiad o redeg yr ysgol am ddiwrnod neu gyfres o ddyddiau. Mae'n
ddatblygiad proffesiynol da i uwch-staff mewn ysgolion. Mae hefyd yn
ddatblygiad proffesiynol da i'r penaethiaid gan eu bod yn ymweld ag ysgolion
eraill a gweld gwahanol arferion. Dywedodd Aelod y Cabinet nad yw'n beth hawdd
i'w wneud, ond mae'n rhoi cyfle i bobl eraill yn yr ysgol ddatblygu'n
broffesiynol. I ddatblygu'r sgiliau arwain hynny a gobeithio adeiladu ar y
gronfa o dalent ac olyniaeth. Mae cynllunio olyniaeth mor bwysig. ·
Gofynnwyd beth yw'r heriau allweddol i'r tîm dros y 12
mis nesaf wrth iddynt gefnogi ysgolion. Clywodd y panel fod COVID-19 yn dal i
fod yn fater allweddol a chlywodd am y pwysau y mae ysgolion yn eu hwynebu gyda
hyn, ac yna'r cydbwysedd â dyletswyddau o ddydd i ddydd. Y meysydd allweddol
eraill yw cyflwyno'r cwricwlwm newydd a Diwygio Anghenion Dysgu
Ychwanegol. Clywodd y panel ei bod yn
bwysig i'r Tîm Gwella Ysgolion sicrhau bod ysgolion yn symud ymlaen gyda phob
un o'r rhain. Roedd y panel yn awyddus i weld bod ôl-lenwi a darpariaeth
gyllideb gysylltiedig yn parhau fel y gellir diogelu'r effaith ariannol ar
ysgolion o ryddhau Pennaeth a gomisiynwyd. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022 PDF 109 KB Cofnodion: Adolygodd y panel
y Rhaglen Waith ac mae wedi gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am aflonyddu yn
yr ysgol, a ohiriwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Daeth y cyfarfod
i ben am 4.45pm |
|