Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Derbyniwyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag
eitemau ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Strategaeth Ymddygiad, sut mae gwariant dirprwyedig ysgolion yn cael ei ddefnyddio PDF 189 KB Gwahoddwyd dwy ysgol, Gareth Rees, Ysgol Gyfun Pontarddulais ac Helen Burgum, Ysgol Gyfun yr Esgob Gore Cofnodion: Gwahoddodd y
Panel ddau Bennaeth o wahanol ysgolion uwchradd mewn gwahanol rannau o Abertawe
i drafod sut maent yn defnyddio'r arian a ddirprwywyd iddynt fel rhan o'r
strategaeth ymddygiad. Roeddent am
ddarganfod sut mae ysgolion yn defnyddio'r arian hwn i leihau atgyfeiriadau i
Wasanaethau Addysg Heblaw yn yr Ysgol, i ailgyflwyno disgyblion yn ôl i
ysgolion ar ôl mynychu gwasanaethau o'r fath a materion eraill sy'n ymwneud ag
ymddygiad. Daeth Helen Burgum, Pennaeth Ysgol Uwchradd Esgob Gore, a Gareth Rees,
y Pennaeth a Rachel Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Pontarddulais,
i gyfarfod y Panel. Gwnaeth y ddau
gyflwyniad PowerPoint ar gwestiynau allweddol a anfonwyd atynt gan y Panel cyn
y cyfarfod, sef: 1.
Sut ydych chi'n
defnyddio'ch gwariant dirprwyedig, sy'n gysylltiedig â'r strategaeth ymddygiad,
i leihau gwaharddiadau ac atgyfeiriadau i EOTAS? 2.
Allwch chi roi rhai
enghreifftiau i ni o ble mae hyn wedi bod o fudd i ddisgyblion yn eich
ysgolion? 3.
Sut mae'r tarfu ar
addysg a achoswyd gan y pandemig wedi effeithio ar
eich gwaith yn y maes hwn a beth fu'r effaith ar ddisgyblion? A sut ydych chi'n
gobeithio y bydd pethau'n newid yn y dyfodol?' 4.
Pa mor dda y mae'n eich helpu i
ailintegreiddio disgyblion yn ôl i'r brif ffrwd ar ôl bod yn EOTAS? 5.
Sut ydych chi'n teimlo bod
y strategaeth ymddygiad gyffredinol yn gweithio er budd disgyblion ar hyn o
bryd? 6.
Yn eich barn chi, a ellid
gwella hyn? Amlinellodd Ysgol Uwchradd Pontarddulais: ·
Gyd-destun yr ysgol: 846 o
ddisgyblion ar y gofrestr, yn gyffredinol 17.5% o ddisgyblion cPYDd, 23% o ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ·
Mae llawer o'r gwaith o
ran materion ymddygiad yn digwydd yn y Tîm o Gwmpas y Plentyn, ac yma y
defnyddir y cyllid dirprwyedig o'r strategaeth ymddygiad. Mae hyn yn cynnwys yn ehangach, er
enghraifft, gymorth bugeiliol, ADY, Gyrfa Cymru, nyrs ysgol ac ati. ·
Mae Tŷ Dysgu, uned
sy'n cefnogi disgyblion sy'n cael trafferth gydag ymddygiad yn y ddarpariaeth
brif ffrwd, yn allweddol i hyn ac wrth fynd i'r afael ag ymddygiad a
gostyngiadau mewn atgyfeiriadau i'r gwasanaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol. Mae cyllid o wariant dirprwyedig yn mynd tuag
at ariannu 3 athro a chydlynydd ar gyfer y ddarpariaeth hon. ·
Darparwyd hyfforddiant i
athrawon ar y Strategaeth Ffynnu, ac mae hon yn ymagwedd sy'n helpu athrawon i ddatblygu
medrau cymdeithasol ac emosiynol disgyblion. ·
Mae'r gwaith hwn wedi
lleihau nifer y gwaharddiadau ac atgyfeiriadau EOTAS yn aruthrol ac mae wedi
cynyddu hyder disgyblion o amgylch yr ysgol. ·
Mae rhai o'r
mentrau/gweithgareddau'n cynnwys, er enghraifft Bulldog
Boxing, diwrnodau Trawsnewid a phrosiect Paw-fact Baxter ·
Effeithiodd y pandemig ar ein gwaith yn y maes hwn fel a ganlyn:
ymweliadau awyr agored, defnyddio darparwyr allanol, cynnydd mewn gwaharddiadau
cyfnod penodol – ailsefydlu ffiniau, dros yr hanner tymor diwethaf cafwyd
gwelliant amlwg mewn ymddygiad o amgylch yr ysgol. Mae disgyblion wedi addasu'n arbennig o dda,
fodd bynnag bu pwysau ar staffio a chostau i weithio ar faterion a wynebir ·
Rydym yn integreiddio disgyblion yn ôl i'r brif ffrwd ar ôl bod yn
EOTAS gan ddefnyddio ymagwedd hybrid/amserlenni pwrpasol - cymysgedd o Dŷ
Dysgu a darpariaeth brif ffrwd. Mae gan
bob disgybl aelod allweddol dynodedig o staff. ·
Yn ein barn ni, gellid
gwella'r ddarpariaeth hon drwy barhau â chyllid Cynnydd (a amlygwyd yng
nghyfarfod Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd Cyngor Sir Abertawe), ariannu cyn
14-16 oed i atal atgyfeiriadau EOTAS a hyfforddi mwy o staff yn yr ymagwedd Thrive Amlinellodd Ysgol Uwchradd yr Esgob Gore: ·
Gyd-destun yr ysgol gan
gynnwys 11-18 oed yn gynhwysol, gyda dalgylch amrywiol mawr. ·
Defnyddio gwariant
dirprwyedig, sy'n gysylltiedig â'r strategaeth ymddygiad, i leihau
gwaharddiadau ac atgyfeiriadau i EOTAS gan ddefnyddio'n 'Darpariaeth
Anogaeth' (B-Hi5) a 'Phecyn cymorth ar gyfer dechrau a diwedd dydd' (Pitstop) yn CA3 ac mae ein 'Pontio i Ddarpariaethau
Oedolion' (Mi-Pod ac ELEV8) yn CA4 yn ymdrechu i
ddarparu amgylcheddau dysgu cefnogol sy'n ysgogol ac yn heriol,
lle caiff disgyblion eu hannog, a'u canmol er mwyn datblygu hunanymwybyddiaeth
a disgyblaeth. ·
Nod y ddarpariaeth yw
galluogi disgyblion i weithio'n gyfannol gyda phartneriaid y tu mewn a'r tu
allan i'r ysgol a darparu cwricwlwm sy'n briodol i ddiwallu anghenion
corfforol, emosiynol, datblygiadol, cymdeithasol ac ysbrydol yr unigolyn. Yr
effaith fu gwell presenoldeb, atal gwaharddiadau parhaol, lleihau lleoliadau
EOTAS, 100% yn llwyddo yn SWEET L2 ers ei gyflwyno a 100% yn llwyddo yn L2
Cyflawni ers ei gyflwyno ·
Mae rhai enghreifftiau'n unig
o lle mae hyn wedi bod o fudd i ddisgyblion yn eich ysgol yn cynnwys:
ailintegreiddio llwyddiannus o ddarpariaeth EOTAS, atal atgyfeiriad EOTAS neu
lai o risg o hynny'n digwydd, llai o risg o waharddiadau parhaol neu eu hatal,
ailintegreiddio ar gyfer gwrthodwyr ysgolion a'r rheini sy'n profi pryder ysgol ·
Roedd yr amhariad i addysg
a achoswyd gan y pandemig wedi effeithio ar y gwaith
ac ar ddisgyblion:
Effaith negyddol ar iechyd
meddwl a lles rhai disgyblion ac mae rhai disgyblion wedi profi trawma ychwanegol.
Mae rhai disgyblion sy'n
agored i niwed wedi profi argyfwng/profedigaeth a phryderon ariannol/colli
cyflogaeth.
Amharwyd ar drefn ddyddiol
y disgyblion. Diffyg goddefgarwch tuag at eraill.
Nid oedd disgyblion agored
i niwed yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu cyfunol (anfodlon/amharod/rhy
bryderus i gymryd rhan mewn dysgu ar-lein)
Nid oedd disgyblion y
nodwyd bod ganddynt anghenion ychwanegol gan gynnwys anawsterau cymdeithasol
emosiynol neu ymddygiadol (ACEY) yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth a
dderbynnir fel arfer yn yr ysgol.
Nid oedd gwasanaethau
cefnogi'n gallu gwneud gwaith uniongyrchol wyneb yn wyneb ac felly gwrthododd
teuluoedd gefnogaeth a gwrthodont ymgysylltu o bell.
Mae llawer o wrthodwyr
ysgol/absenolwyr mynych wedi gwrthod dychwelyd i'r ysgol, felly rydym yn
gweithio gyda Swyddog Lles Addysg.
Mae'r asesiadau risg a'r
canllawiau gweithredol presennol yn atal disgyblion rhag cael gafael ar
gefnogaeth. Mae'r mesurau diogelwch presennol yn atal/cyfyngu ar lawer o
weithgareddau sy'n mynd i'r afael ag anghenion y disgyblion hynny sy'n profi
anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Mae'r offer y mae staff yn
eu defnyddio i ymgysylltu â disgyblion a'u hysgogi'n llawer llai. ·
Sut ydych chi'n teimlo bod
y strategaeth ymddygiad gyffredinol yn gweithio er budd disgyblion ar hyn o
bryd? Hebddo, byddai gennym nifer sylweddol o ddisgyblion na fyddem wedi
ymgysylltu â hwy neu wedi gallu eu cefnogi mewn ffordd hyblyg i ddiwallu eu
hanghenion o ystyried y sefyllfa sy'n newid. ·
Gellid gwella'r strategaeth
ymddygiad drwy'r strategaethau ac mae angen i ymagweddau fod yn hyblyg i
ddiwallu anghenion newidiol y disgyblion. Mae hyn yn golygu gwella sgiliau
staff i sicrhau eu bod yn cael hyfforddiant fel ELSA (Cynorthwy-ydd
Cefnogi Llythrennedd Emosiynol), CBT etc. Mae hyn yn gostus ond mae angen yr
ystwythder arnom i ymateb yn gyflym.
Mae angen i ni hefyd
ddatblygu rhaglenni sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, goddefgarwch a diogelu
cyd-destunol. Mae mentrau fel Anogwyr Dysgu Cynnydd yn helpu ac yn cefnogi'n
disgyblion i edrych ar lwybrau a hunanreoleiddio.
Ariennir grantiau ar gyfer y rolau hyn ac mae'r arian yn dod i ben ar gyfer
llawer o'r mathau hyn o brosiectau.
Rydym eisoes yn rhoi
cymhorthdal ar gyfer ein darpariaeth ac mae angen i ni sicrhau bod rolau a
darpariaeth yn gynaliadwy i alluogi cynllunio i barhau i ddiwallu anghenion
dysgwyr o ystyried y materion penodol iawn sydd bellach yn dod i'r amlwg o
ganlyniad i'r pandemig. Roedd y Panel: ·
yn dymuno diolch i'r
ysgolion ar ran y disgyblion. Roedd clywed am y mentrau a'r arfer da wrth
gyflwyno ymddygiad cadarnhaol wedi creu argraff arnynt. ·
Maent yn cydnabod bod gan
bob ysgol ei heriau ei hun ac mai ymateb pwrpasol yr ysgolion i hyn oedd y
ffordd gywir o fynd i'r afael â hyn ond roedd y panel yn awyddus i ddarganfod
sut mae'r holl arfer da sy'n cael ei ddysgu'n cael ei rannu. Clywodd y Panel fod nifer o ddulliau ar gyfer
rhannu arfer da yn ffurfiol ac mae'r rhain hefyd yn arwain at rannu anffurfiol
rhwng ysgolion ac addysgwyr. Er enghraifft SCCASH, adneuon arfer ar lwyfannau
ar-lein, yn rhanbarthol ac yn lleol; mae Estyn hefyd yn tynnu sylw at feysydd o
arfer rhagorol y gellir eu cyrchu drwy ei wefan. |
|
Adborth gan Grwp Cynghorwyr Craffu ERW ar 28 Mehefin 2021 (Cynullydd) PDF 9 KB Cllr Lyndon Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Lyndon Jones, yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r Aelodau am ei bresenoldeb diweddar yng nghyfarfod Grŵp Cynghorwyr
Craffu Rhanbarthol ERW ar 28 Mehefin 2021.
Hysbysodd y Panel ynghylch rhywfaint o'r hyn a drafodwyd gan gynnwys: ·
Y bydd ERW yn dod i ben ar 31 Awst 2021 a bydd
Partneriaeth Addysg newydd De-orllewin Cymru'n dechrau ar 1 Medi 2021 ·
Bydd yn bartneriaeth lai a fydd yn cynnwys Sir Benfro,
Sir Gaerfyrddin ac Abertawe ond efallai y bydd yn bosib i awdurdodau lleol
eraill brynu gwasanaethau i mewn oddi wrth y bartneriaeth newydd. ·
Pryderon a godwyd ynghylch cost dirwyn ERW i ben ac am
gostau sefydlu'r bartneriaeth newydd a phwy fydd yn cyfrannu at y rhain. ·
Hefyd mae angen cytuno ar faterion fel rheolau ymgysylltu
ac ymddwyn a phleidleisiau atal. ·
Anfonwyd llythyr yn ddiweddar at Gadeirydd Cyd-bwyllgor
ERW yn rhoi barn y Grŵp Cynghorwyr Craffu.
Gofynnwyd am ymateb i hynny cyn i ERW ddod i ben. Bydd yr ymateb hwn yn cael ei grybwyll wrth
Banel Craffu Addysg Abertawe a bydd hefyd yn cael ei roi ar yr agenda ar gyfer
Pwyllgor y Rhaglen Graffu er gwybodaeth. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg ddiweddariad i'r Panel ar y cynnydd a wnaed
ers cyfarfod Grŵp Cynghorwyr ERW ar 28 Mehefin, gan gynnwys: ·
Mae Cyd-bwyllgor Partneriaeth Addysg Cysgodol De-orllewin
Cymru wedi cyfarfod, mewn cyfarfod caeëdig. ·
Trafodwyd pryderon a godwyd gan y Grŵp Cynghorwyr
Craffu yn y cyfarfod hwn. Roeddent yn
cytuno bod angen gwneud gwaith i ddirwyn ERW i ben. ·
Nid oedd Powys am adael ERW ond gwnaed cytundeb mewn
egwyddor y bydd gwasanaethau'r Bartneriaeth newydd ar gael i awdurdodau lleol
eraill. ·
Bydd cytundeb cyfreithiol newydd yn mynd i Gabinet/gyngor
pob awdurdod lleol. ·
Cydnabuwyd na fyddai ERW yn dirwyn i ben yn llawn erbyn
31 Awst, bydd angen cyfnod pontio. Bydd
y cytundeb cyfreithiol newydd yn mynd â ni yno. ·
Cyn i ni symud ymlaen o'r bartneriaeth bresennol, mae
angen i ni ddeall rhwymedigaethau amodol partneriaid presennol ERW. Mae'r cytundeb presennol yn nodi bod gan
awdurdodau lleol rwymedigaethau o 100% yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn ac
yna mae'n raddfa symudol o'r fan honno.
Bydd y strwythur staffio'n pennu'r gost i bartïon presennol. ·
Mae'r strwythur staffio ar gyfer y bartneriaeth newydd
wedi bod yn gostwng yn gymesur â'r corff newydd gyda gostyngiad cytbwys o
oddeutu 40%. ·
Bydd y strwythur Llywodraethu'n ymddangos yn y cytundeb
cyfreithiol newydd. Mae hyn ar ffurf
ddrafft ar hyn o bryd ac mae angen ei gwblhau ond mae wedi datblygu'n ddogfen
eithaf da. Mae'n cynnwys rhai o'r
materion a godwyd gan y Grŵp Cynghorwyr Craffu ar 28 Mehefin ac mae'r
rhain wedi'u cynnwys yn y drafft hwnnw.
Mae gwaith i'w wneud o hyd a bwriedir i'r cytundeb cyfreithiol drafft
fynd i bob Awdurdod Lleol yn yr hydref. ·
Bydd gan y Bartneriaeth newydd gynllun busnes clir sy'n
nodi'r blaenoriaethau wrth symud ymlaen.
Mae'n bwysig bod y cynllun cyflawni hwn yn cael ei ddeall fel rhan
allweddol o'r bartneriaeth ac i waith craffu rhanbarthol ddwyn hynny i gyfrif. ·
Cynigir statws sylwedydd i aelod o'r corff craffu
rhanbarthol newydd i fynychu cyfarfodydd Cyd-bwyllgor y bartneriaeth newydd yn
unol â chais y Grŵp Craffu. |
|
Cynllun Gwaith 2021 - 2022 PDF 109 KB Cofnodion: Derbyniwyd y rhaglen waith. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.15
pm |
|