Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Llythyrau a'r Cofnodion PDF 309 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adolygodd y Panel
y llythyr a chytuno ar y cofnodion. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag
eitemau ar yr agenda. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu ar y gyllideb flynyddol: am ei bod yn ymwneud â materion br addysg Roedd y Cynghorydd Jennifer Raynor (Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Addysg Cabinet Papers 18/02/2021 (ar gael ar-lein o 11/02/2021) Cofnodion: Daeth Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, y Cyfarwyddwr Addysg a'r Pennaeth Cynllunio
ac Adnoddau Addysg i'r cyfarfod i drafod y Gyllideb Flynyddol fel y mae'n
ymwneud â materion addysg. |
|
Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion Cofnodion: Ar ôl y drafodaeth ag Aelod y Cabinet a Swyddogion ar y
Gyllideb Flynyddol gan ei bod yn ymwneud ag Addysg, cytunodd y Panel ar yr
adborth canlynol; a fydd yn cael ei gynnwys yn ymateb Panel Craffu Perfformiad
Gwella Gwasanaethau a Chyllid i'r Cabinet ar 18 Chwefror 2021. ·
Roeddem yn fodlon ar y cyfan â chyllideb
eleni fel y mae'n ymwneud â materion addysg. ·
Rydym yn croesawu'r gwariant cyfalaf a'r
cynnydd gros o 3.3% yn y gyllideb ysgolion dirprwyedig. ·
Roeddem yn falch bod Addysg yn parhau i fod
yn un o brif flaenoriaethau Cyngor Abertawe. ·
A oes darpariaeth yn y gyllideb i sicrhau bod
unrhyw dreuliau a ysgwyddir gan yr ysgolion hynny a arhosodd ar agor drwy gydol
cyfnod COVID-19 yn cael eu had-dalu? ·
Gofynnwyd pa gynigion arbedion sydd mewn
perthynas â Chludiant Ysgol. Dywedwyd
wrthym y bydd y cynigion a fydd yn destun ymgynghori yn cael eu cyflwyno i'r
Cabinet ym mis Mawrth. A ellir eu
dosbarthu i'r Panel Craffu Addysg, unwaith y byddant ar gael? ·
A yw cost ôl troed newydd posib ERW a chau
strwythur presennol ERW wedi'i gynnwys yn y gyllideb? ·
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i
Ysgolion, Llywodraethwyr a'r Adran Addysg am eu gwaith rhagorol dros y flwyddyn
ddiwethaf. Yn enwedig sut maen nhw wedi rheoli'r heriau y mae'r cyfnod COVID-19
hwn wedi'u cyflwyno. |
|
Cofnodion: ·
Bydd
pedwar disgybl a Phennaeth Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt yn bresennol yng
nghyfarfod y Panel ar 18 Mawrth i roi eu barn ar ddysgu o bell a dysgu cyfunol. ·
Mae
adroddiad Estyn, 'Ymateb Addysg i'r pandemig' wedi'i
drefnu i'w drafod yng nghyfarfod y Panel ar 22 Ebrill. Daeth y cyfarfod
i ben am 3.10pm |