Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Lyndon Jones a'r Rhiant-Lywodraethwr Cyfetholedig, Alexander Roberts, eu bod yn llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt.

 

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Llythyrau a'r Cofnodion pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel gofnodion, llythyrau ac ymateb gan aelodau'r Cabinet.

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y

diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud

ag eitemau ar yr agenda. 

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

5.

Dysgu cyfunol ac o bell – barn pedwar disgybl o Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

Bydd pedwar disgybl yn bresennol ynghyd â John Owen, Pennaeth, Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

 

Cofnodion:

Croesawodd y panel John Owen, y Pennaeth, a phedwar disgybl, sef Max, Iris, Jacob ac Esme o Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt. Roeddent yn bresennol yn y cyfarfod i drafod eu barn ynghylch dysgu o bell a dysgu cyfunol.  Rhoddon nhw eu barn am sut i gadw'n iach yn ystod y cyfyngiadau symud, yr heriau yr oeddent wedi'u hwynebu, uchafbwyntiau dysgu gartref a sut y gwnaethant gynnydd, yn ogystal â dychwelyd yn ôl i'r ysgol. Roedd y panel yn awyddus i glywed am eu profiadau a diolchodd iddynt am eu presenoldeb.

 

6.

D iweddariad ar Gynllun Adfer Addysg Covid

Y Cynghorydd Jen Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu

a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg)

Cofnodion:

Roedd y panel yn falch o glywed am y diweddariad cadarnhaol ar ddisgyblion sy'n dychwelyd i'r ysgol a'r adferiad parhaus ym maes Addysg. Clywsant y canlynol:

 

·         Roedd disgyblion cynradd wedi dychwelyd yn llawn.  Bu rhai achosion o COVID yn ystod yr wythnosau diwethaf felly mae tua 100 o ddisgyblion wedi gorfod hunanynysu.

·         Agorodd ysgolion uwchradd yn rhannol i ddisgyblion ac mae disgyblion blwyddyn 11 a 13 ddychwelyd eisoes a bydd mwy yn dychwelyd yr wythnos hon.  Yr wythnos hon bu'n rhaid i 400 o ddisgyblion hunanynysu oherwydd bod ambell achos wedi dod o'r gymuned.  Bydd pob disgybl yn dechrau o 12 Ebrill gyda diwrnod cynllunio posib.

·         Dywedodd Aelod y Cabinet ei bod am dalu teyrnged i ysgolion ar ôl iddynt reoli'r dychweliad i'r ysgol fesul cam.  Dywedodd fod angen asesiadau risg, ailgynllunio mannau a chyflwyno profion llif unffordd yn y sector uwchradd.  Dywedodd hefyd mai lles fyddai cam cyntaf y dychweliad - mae plant hapus yn dysgu'n well.

·         Roedd y panel yn gwerthfawrogi'r ymdrechion a wnaed i ddychwelyd i'r ysgol mewn ffordd mor ddi-dor â phosib ac i ganolbwyntio ar les disgyblion a staff.

 

7.

Grant Datblygu Disgyblion - Crynodeb o'r gwariant i gefnogi disgyblion sy'n agored i niwed pdf eicon PDF 733 KB

Y Cynghorydd Jen Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu

a Sgiliau, a Damien Beech, Pennaeth yr Tîm Cyfnod Cynradd

Cofnodion:

Daeth Pennaeth y Tîm Cynradd, Gwasanaethau Cyflawniad a Phartneriaethau i'r cyfarfod, a rhoddodd gyflwyniad ar y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) a thrafododd y materion canlynol:

·         Cefndir gwariant y GDD, gan gynnwys ymweliadau yn ystod tymor yr hydref ac argymhellion y Pwyllgor Datblygu Polisi

·         Cyfanswm gwariant y GDD ar gyfer ysgolion cynradd Abertawe yw £5,644,200, a'r cyfanswm cyfartalog i ysgolion cynradd yw £73,000 (isaf: £3,450 a'r uchaf £207,000)

·         Cyfanswm gwariant y GDD ar gyfer ysgolion uwchradd ac arbennig Abertawe yw £2,748,500, a'r cyfanswm cyfartalog i ysgolion uwchradd yw: £196,000 (isaf: £52,000 ac uchaf: £348,000).  Y cyfanswm ar gyfer Ysgolion Arbennig yw £70,150 a'r cyfanswm cyfartalog yw: £35,000

·         Siart llif o ganllawiau i ysgolion

·         Enghreifftiau o wariant, gan gynnwys amrywiaeth eang o ddefnyddiau, gan gynnwys cefnogi teuluoedd

·         Dangos effaith y gwariant

·         Yr hyn nad oedd mor llwyddiannus

·         Canllawiau Llywodraeth Cymru ac Estyn

·         Awdurdod Lleol yn derbyn cyllid GAD i PDG (plant sy'n derbyn gofal) o £292,756 ar gyfer 20-21 a dosbarthwyd yr arian hwn i glystyrau

·         Clywodd y panel nad ydym wedi cael unrhyw wybodaeth am ddyraniad y flwyddyn nesaf hyd yn hyn

·         Cynghorwyd yr ysgolion i beidio â gorgymhlethu eu cynlluniau GAD ac i ddefnyddio canllawiau ar wariant cymwys. Dylid defnyddio ymchwil a thystiolaeth wrth edrych ar sut i wario arian grant.  Fe'i trafodir gydag ysgolion yn ystod eu hymweliadau gwella ysgolion yn yr hydref.

·         Mae lles yn ganolog, ac mae lles corfforol a meddyliol yn flaenoriaeth ar hyn o bryd.

·         Gofynnodd y panel sut y caiff llwyddiant ei fesur gan ei bod yn anodd mesur llawer o'r canlyniadau.  Nodwyd bod manteisio i’r eithaf ar y grant yn allweddol a bod yn rhaid iddo fod yn seiliedig ar ymchwil am yr hyn sy'n gweithio.  Mae mesur cynnydd a chyflawniad disgyblion yn hytrach na dim ond mesur deilliannau ar y diwedd hefyd yn allweddol.

·         Codwyd dyraniad y grant hwn yn flynyddol, ac mae'r ffaith nad yw ysgolion a'r awdurdod lleol yn gwybod sut y bydd hyn yn newid o flwyddyn i flwyddyn yn broblem.

 

8.

Diweddariad - Gwasanaeth Gwella Addysg Rhanbarthol (ERW) pdf eicon PDF 326 KB

Y Cynghorydd Jen Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu

a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diweddarodd y Cyfarwyddwr Addysg y panel ar y trefniadau yn Abertawe mewn perthynas â Gwasanaeth Ein Rhanbarth ar Waith. Nodwyd y canlynol:

·         Cyflwynwyd adroddiad i Gabinet Cyngor Abertawe yn gofyn am ohirio tynnu Abertawe'n ôl o ERW, felly mae Abertawe'n parhau i fod yn aelod o'r corff rhanbarthol hwn tan 31 Awst 2021.  Mae hyn er mwyn rhoi mwy o amser i'r rhanbarth sefydlu'r trefniadau newydd ar gyfer corff rhanbarthol newydd a fydd yn dechrau ar 1 Medi 2021.

·         Ar hyn o bryd, mae Sir Gaerfyrddin, Powys, Sir Benfro ac Abertawe wedi cytuno i aros o fewn y bartneriaeth dros dro nes 31 Awst, ac ni fydd Castell-nedd Port Talbot a Cheredigion yn rhan o'r corff ond gallant brynu gwasanaethau nes bod corff newydd wedi'i sefydlu.

·         Cafwyd rhai rhwystrau a arafodd y broses o ymrwymo i gytundeb rhanbarthol newydd gan gynnwys, COVID a disgwyliadau Llywodraeth Cymru, er enghraifft.

·         Bwriedir gweithredu cytundeb newydd o 1 Medi ac mae trafodaethau ar sut y bydd hyn yn edrych yn parhau.  Mae angen gwneud llawer mwy o waith ac mae angen cynnal trafodaethau gyda phawb sy'n rhan o'r prosiect o ran yr hyn y mae pob rhanddeiliad am ei gael o ganlyniad i'r bartneriaeth.

·         Gofynnodd y panel beth fydd y trefniadau llywodraethu. Sut y bydd craffu'n cyd-fynd â'r model newydd hwn? Beth fydd ei amcanion allweddol? A sut caiff llwyddiant ei fesur?  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y bydd unrhyw drefniant newydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet pob awdurdod lleol i'w gytuno arno ac y gellir rhannu'r cynlluniau hyn a'r model llywodraethu hefyd â'r tîm chraffu. Gellir gweld holl gyfarfodydd Cyd-bwyllgor ERW, lle caiff yr eitemau hyn eu trafod (ar gyfer y rhanbarth) hefyd drwy wefan www.erw.cymru.

·         O'r model newydd hwn, byddwn yn gallu dewis yr hyn y mae Abertawe ei eisiau ac y mae angen i'r Consortiwm ei gyflawni, yn hytrach nag un ateb sy'n addas i'r cyfan, fel a gawsom yn y gorffennol. Mae'n bwysig bod rolau a chyfrifoldebau'n glir ac i osgoi dyblygu rhwng yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud a'r hyn y bydd y corff rhanbarthol yn ei wneud.

·         Diweddarodd Cadeirydd y panel yr aelodau ar gyfarfod Grŵp Cynghorwyr Craffu ERW a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021.  Bydd y llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor ERW o'r cyfarfod hwnnw’n cael ei ddosbarthu i'r panel, er gwybodaeth yn fuan.

 

9.

Cynllun Gwaith 2020/2021 pdf eicon PDF 263 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.  Cytunodd y panel i drefnu eitem i drafod yr hyn sy'n gweithio i ddisgyblion diamddiffyn ar y rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ddinesig newydd.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.45pm

 

Llythyr at Aerlod y Cabinet pdf eicon PDF 293 KB