Lleoliad: O bell drwy Teams
Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datganodd y Cyng.
Susan Jones gysylltiad personol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Llythyrau a'r Cofnodion PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adolygodd y panel
y llythyrau a'r cofnodion yn dilyn cyfarfod y panel ar 17 Rhagfyr 2020. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag
eitemau ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Diweddariad ar Gynllun Adfer Addysg Covid Y Cynghorydd Jen Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg Gweithredol) Cofnodion: Rhoddodd Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a'r Cyfarwyddwr Addysg ddiweddariad
ar lafar i'r panel ar sefyllfa bresennol COVID-19 ym myd Addysg. Nodwyd y
canlynol o'r diweddariad a'r drafodaeth a gafwyd. ·
Mae
sefyllfa COVID-19 yn dal i fod yn rhwystr ond mae strategaethau eraill yn
parhau i gael eu datblygu gan gynnwys, er enghraifft, Diwygio Anghenion Dysgu
Ychwanegol, Cwricwlwm Newydd, datblygiad proffesiynol a'r strategaeth
ymddygiad. ·
Mae'r
sefyllfa yr ydym ynddi yn dal i fod yn un anwadal. Mae ysgolion ar agor i
ddisgyblion diamddiffyn a phlant gweithwyr allweddol. Mae amrywiaeth eang o weithwyr
allweddol bellach wedi'u nodi felly rydym wedi rhoi ystyriaeth briodol i hyn
ond mae'n rhaid i ni gynnal asesiadau risg yn ein hysgolion er mwyn sicrhau y
gallwn ddarparu ar eu cyfer yn ddiogel. ·
Rydym
wedi newid yn ôl i ddysgu o bell ar gyfer y mwyafrif o ddisgyblion. Mae
eithriad ar gyfer blynyddoedd 10, 11, 12 a 13 o bedair awr o ddysgu
cydamseredig y dydd. Nid ydym ni fel awdurdod lleol yn rhagnodi'r hyn y dylai
ysgolion fod yn ei wneud. Y rheswm am hynny yw oherwydd bod gennym gymunedau
amrywiol. Credwn fod ein penaethiaid yn adnabod eu cymunedau orau. Maent yn
gwybod pa fath o ddysgu cyfunol neu gynnig dysgu o bell y dylid ei ddarparu i’w
disgyblion. ·
Mae
gan y rhan fwyaf o'n disgyblion ar draws Abertawe gyfuniad o wersi wedi'u
recordio, rhai gwersi byw, pecynnau papur a llyfrau gwaith. Bydd y cyfuniad yn
dibynnu ar oed a doniau'r disgybl. Mae ysgol rithwir Abertawe wedi’i gwella a'i
hadolygu'r tymor hwn. ·
Dyfeisiau
ar gyfer disgyblion, dysgu digidol a chynhwysiad digidol. Rydym wedi buddsoddi
dros £5 miliwn o bunnoedd drwy'r prosiect isadeiledd o ran cit a chysylltedd.
Hyd yma, rydym wedi dosbarthu dros 8,000 o ddyfeisiau i'n hysgolion yn Abertawe
ac, yn ogystal â hynny, mae gennym 2,000 o ddyfeisiadau sy'n cael eu paratoi
i'w dosbarthu, a disgwylir y bydd 2,000 o ddyfeisiau yn ychwanegol yn cael eu
dosbarthu. Rydym yn falch o'r cyflawniad hwnnw. Bydd y sefyllfa hefyd yn parhau
i gael ei monitro, gan ein bod yn ymwybodol nad oes gan rai o'n teuluoedd y
dyfeisiau mwyaf priodol a bod rhai plant yn rhannu dyfeisiau. ·
Gofynnodd
y panel a all y rheini sydd wedi defnyddio dyfeisiau o'r blaen eu rhoi i
ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr y gallent, os yw'r ddyfais yn briodol gallant
gysylltu ag ysgolion uwchradd yn uniongyrchol gan fod ganddynt y staff TGCh i'w
paratoi i'w defnyddio gan ddisgyblion. Os bydd unrhyw un am roi dyfais i Ysgol
Gynradd yna gallant e-bostio addysg@abertawe.gov.uk gan nad oes gan Ysgolion Cynradd staff
TGCh i wneud hyn. ·
Codwyd
y mater sy'n ymwneud â'r cyhoeddiad a wnaed ar 16 Ionawr am arholiadau ac
asesiadau yn ein hysgolion. Bydd yr asesiad ar gyfer tymor yr haf hwn ar ffurf
asesiadau athrawon, ni fydd arholiadau ond bydd asesiadau yn yr ysgol ac ni
fydd asesiadau allanol. Felly, byddai disgyblion yn debygol o gael eu hasesu
gan ddefnyddio ffug arholiadau/asesiadau blaenorol. Bydd y byrddau arholi yn
helpu trwy ddarparu fframwaith asesu a fydd yn rhoi prawf safoni cam cyntaf. Ar
ôl hynny, bydd rhywfaint o gymedroli ar draws ysgolion ac ar draws gwaith
disgyblion ond mae'r awdurdod yn aros am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru
ynghylch hyn. Cytunodd Aelod y Cabinet i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r panel
o ran y cynnydd. ·
Cododd
y panel y mater o dlodi digidol cenedlaethol a'r angen i fynd i'r afael â hyn
ar lefel genedlaethol yn y dyfodol. Clywodd y panel fod yr awdurdod lleol yn
gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y materion hyn. Yn bendant, mae angen edrych
ar gysylltedd yn y dyfodol. ·
Gofynnodd
y panel faint o ddisgyblion nad oedd ganddynt ddyfeisiau ar hyn o bryd. Clywodd
y panel nad oes gan tua 2,000 o ddisgyblion ddyfeisiau priodol yn ôl arolwg
diweddar, er enghraifft dyfeisiau gemau, ond eu bod yn gallu cael mynediad at
ddysgu i ryw raddau. Mae'r nifer hwn yn debygol o fod yn is o lawer gan fod
pethau wedi symud ymlaen ychydig ers yr arolwg hwnnw ac mae rhagor o gyfarpar
wedi dechrau mynd allan i ysgolion. Hoffai'r panel weld yr wybodaeth gyfredol
pan fydd ar gael, gan gynnwys faint o ddisgyblion ar Brydau Ysgol am Ddim sydd
angen cyfarpar neu gysylltedd. ·
Mae
angen magu hyder yng ngweithlu ein hysgolion i ddychwelyd i adeiladau ar ôl
clywed bod yr hil newydd yn llawer mwy heintus a bod plant yn fwy tueddol o’i
chael. Mae gennym dystiolaeth nad yw'r gweithle ei hun yn anniogel a bod angen
defnyddio'r un mesurau rheoli fel o'r blaen ond mae angen gwella'r rhain.
Cynhelir trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch disgyblion yn dychwelyd
i'r ysgol. Mae rhywfaint o'r hyn sy'n cael ei drafod yn cynnwys pa grwpiau
oedran fydd yn dychwelyd yn gyntaf ond bydd yn dibynnu ar y gyfradd R. Mae
Llywodraeth Cymru wedi addo cynnal trafodaethau gyda'r proffesiwn i alluogi
hyn. ·
Os na
fydd y gyfradd R yn gostwng yn sylweddol, ni fydd disgyblion yn dychwelyd tan
ar ôl 22 Chwefror. Does dim syniad gennym sut beth bydd hynny yn y dyfodol ar
hyn o bryd, ond byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r panel wrth i ni
ddysgu rhagor. ·
Bydd
staff sy'n gweithio gyda phlant diamddiffyn sy'n cael gofal ysbeidiol yn gallu
cael eu brechu ynghyd â'r rhai sy'n gweithio gyda disgyblion diamddiffyn yn yr
Uned Cyfeirio Disgyblion. ·
Mae
blaenoriaethau allweddol yn parhau i gael eu datblygu gan gynnwys: 1.
diogelu
ac ymgysylltu ar ofal bugeiliol a lles 2.
rhaglen
adeiladu gan gynnwys trosglwyddo UCD newydd yr wythnos nesaf 3.
Gweithredu
deddf rhaglen ADY erbyn mis Medi 2021 4.
strategaeth
allweddol ynghylch strategaeth dysgu cyfunol 5.
strategaeth
ymddygiad cadarnhaol a chynllun gweithredu 6.
Cynllun
rhoi ar waith ar gyfer y cwricwlwm yn lleol 2019-2022 3ydd cam; a 7.
gwella
arweinyddiaeth ar draws ysgolion yn Abertawe (cynhelir rhaglen genedlaethol i
ddatblygu arweinwyr ar hyn o bryd gan ERW). ·
Gwariant PDG a GDD, pam mae tanwariant a sut y caiff ei
ddefnyddio. Hoffai'r panel gael rhagor o wybodaeth am y tanwariant hwnnw a
pham, os nad yw clystyrau'n defnyddio eu harian a pham. Clywodd y panel na fydd
pob hawliad wedi ei dderbyn ar gyfer yr arian a wariwyd ond cânt eu derbyn dros
y chwarter hwn o'r flwyddyn, mae'n debygol y bydd y tanwariant a ddangosir yn
lleihau. ·
Diolch i'r Cyfarwyddwr a staff ysgolion am eu gwaith
drwy'r cyfnod heriol hwn. ·
Cododd y panel y mater o sut rydym yn cefnogi ysgolion i
gyfleu disgwyliadau i rieni a disgyblion. Dywedodd y panel ei fod yn fater o
gydbwysedd a'r hyn sy'n addas i ysgol benodol a grŵp oedran penodol, a'i
bod hi'n bwysig cael cynnig dysgu derbyniol. Rhoddodd yr awdurdod lleol
arweiniad ar ddysgu cyfunol i'r ysgolion a gallant gyfleu hyn i rieni. Mae gan
bob ysgol anghenion iaith a hygyrchedd gwahanol, felly rhoddir offer ac
arweiniad da a chlir i ysgolion fel y gallant gyfathrebu â rhieni sy'n cael eu
cefnogi gan yr awdurdod lleol. ·
Mae pwysau ar staff cymorth addysgu ac addysg, pa
adnoddau sydd eu hangen i sicrhau cymorth priodol i athrawon sy'n ei chael hi'n
anodd a hefyd cwnsela. A oes angen adnoddau ychwanegol? Cododd fforymau
ysgolion y mater hwn hefyd. Rydym yn darparu rhestr dda o adnoddau a sut y
gellir eu cyrchu. Nid yn unig o ran cyfeirio ond gwneud mwy na'r hynny – cynnig
sesiwn gyda seicolegydd addysg lle defnyddir model seicoleg cadarnhaol y gellir
ei ddefnyddio mewn argyfwng a chyfleoedd gan academi genedlaethol i gael
trafodaethau Headspace a llinell gymorth addysg (sydd hefyd â chynnig
cyfrwng Cymraeg) ·
Dywedodd Aelod y Cabinet fod ysgolion a'r Adran Addysg
wedi'u calonogi i glywed am adroddiad Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n rhoi
nifer o grynodebau bach o enghreifftiau o arfer da. Efallai y bydd craffu am
drefnu i ddadansoddi hyn yn fanwl. Mae'n cynnwys llythyr sy'n benodol i
Abertawe a'r adroddiad cenedlaethol ar sut mae addysg wedi ymateb i'r pandemig.
Bydd y panel yn trefnu amser ar gyfer hyn yn eu rhaglen waith. |
|
Cynllun Gwaith 2020/2021 PDF 262 KB Cofnodion: Adolygodd y panel
y rhaglen waith. |
|