Lleoliad: O bell drwy Teams
Cyswllt: Michelle Roberts,Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Derbyniwyd datgeliadau o fuddiannau gan y Cynghorwyr Mike Day, Mike Durke,
Myles Langstone a Susan Jones. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Llythyrau a'r Cofnodion PDF 215 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd y llythyrau a'r Cofnodion gan y panel. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag
eitemau ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Partneriaeth Sgiliau Abertawe PDF 221 KB Aelodau'r Bartneriaeth gan gynnwys y Cyfarwyddwr Addysg sy'n Gadeirydd.. Cofnodion: Rhoddodd Helen Morgan Rees, Cyfarwyddwr Addysg,
gyflwyniad ar sefyllfa a blaenoriaethau presennol Partneriaeth Sgiliau Abertawe
(a elwir hefyd yn PSA), gan gynnwys: ·
Ei bod wedi dechrau o
argymhelliad i'r Cabinet ym mis Mehefin 2018 o waith a wnaed gan y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg. Gyda'r nod o
gwrdd â'r cyfleoedd a ddarperir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a sicrhau
trefniant lleol cadarn i bartneriaeth fwydo i mewn i bartneriaethau
rhanbarthol. ·
Diben y PSA yw ·
hyrwyddo a datblygu Abertawe
fel 'Dinas Dysg' ac i fod y gorau yn y DU ·
hyrwyddo a datblygu Abertawe
fel 'Dinas Dysg' – alinio darparwyr â gweledigaeth a gwerthoedd a rennir ·
datblygu cynllun gweithredu
lleol i hyrwyddo a datblygu Abertawe fel 'Dinas Dysg' i ysbrydoli plant a phobl
ifanc ·
mewn partneriaeth, datblygu
map ffordd ar gyfer sgiliau neu'r llwybr dysgu i atgyfnerthu'r negeseuon am
gytundeb a chydweithredu ar bob lefel mewn addysg ·
nodi a datblygu ymhellach
gyfleoedd cydlynol i ddysgwyr Abertawe ·
monitro a gwerthuso cynnydd yn
erbyn y cynllun gweithredu lleol a sicrhau cysylltiad priodol â chynllun
gweithredu'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol ·
datblygu cyngor gyrfaoedd
ymhellach gan gynnwys prentisiaethau a dysgu sy'n seiliedig ar waith ac
ehangu'r ffocws i gynnwys cyfnod allweddol 3 a disgyblion cynradd ·
datblygu ymhellach
hyfforddiant athrawon cychwynnol a chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus i
staff mewn ysgolion ·
sicrhau bod prentisiaethau a
dysgu sy'n seiliedig ar waith yn cyd-fynd ag anghenion sgiliau yn y dyfodol ·
Mae angen iddo esblygu i
gynnwys aelodaeth, momentwm, ei feysydd ffocws allweddol, cyfleoedd COVID. Mae angen gwneud rhagor o waith i ddatblygu
ymhellach. ·
Mae rhai o ganlyniadau
allweddol y PSA hyd yma yn cynnwys: Meithrin gallu, cyngor ac arweiniad digidol
ar gyfer gyrfaoedd, y camau nesaf o ran dysgu a galwedigaethau yn y dyfodol a
chynyddu ymwybyddiaeth o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Yna trafododd y Panel Bartneriaeth gyda
thrawstoriad o'i aelodaeth. ·
Mae wedi llwyddo i ddarparu
mwy o fanylion a chanolbwyntio ar rai meysydd gan gynnwys, er enghraifft, gallu
digidol a chyngor gyrfaoedd o ansawdd da. ·
Roedd y Bartneriaeth wedi
colli momentwm ychydig a bu rhywfaint o oedi. ·
Mae'r Panel yn falch o glywed
am ganlyniadau cadarnhaol gwaith y partneriaeth hon gan gynnwys: o
Roedd dysgu digidol yn ddewis
amlwg ac yn cysylltu'n agos â phrosiect y Fargen Ddinesig ac mae hefyd wedi bod
yn ddefnyddiol yn sefyllfa bresennol COVID. o
Canolbwyntio ar gyngor ac
arweiniad gyrfaoedd ar gyfer dysgu i'w helpu i wneud y dewisiadau cywir. ·
Roedd y Panel yn awyddus i
glywed am y llwyfan o'r enw 'Fy Newis' a ddatblygwyd, sy'n unigryw i ardal
Abertawe. Clywodd y Panel nad oedd cyngor ac arweiniad ar gyfer dysgu
galwedigaethol wedi bod ar gael mewn un lle i Flwyddyn 11 hyd yn hyn, er mwyn
iddynt ddod o hyd i gyngor a gwybod ble i ddod o hyd i gyfleoedd. Datblygwyd llwyfan felly i wneud hyn. Gall ysgolion gael cyngor ac arweiniad diduedd,
ac mae hefyd ffurflenni ceisiadau cyffredin ar gyfer y 6ed Dosbarth, Colegau a
dysgu sy'n seiliedig ar waith. Gall
dysgwyr hefyd weld beth sy'n digwydd yn Abertawe, dod o hyd i gyfleoedd posib
ar gyfer y dyfodol ac mae'n rhoi dolenni i wefannau eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar y llwyfan
i weld sut y gellir ei rannu fel arfer da i eraill ei ddefnyddio. ·
Clywodd y Panel fod dysgu a
gallu digidol wedi newid yn llwyr dros y 9 mis diwethaf a'i fod bellach yn
angenrheidiol. Mae'n bwysig i bobl ifanc
wybod beth yw gyrfaoedd digidol a pha rai fydd ar gael yn enwedig gyda'r arena
newydd a chyfleoedd gwaith posib. Cafwyd
trafodaeth am y Fargen Ddinesig a sut mae'n bwysig bod pobl ifanc yn Abertawe
yn ddigon medrus i gael y swyddi gorau yn ogystal â rolau eraill sydd ar gael. ·
Dywedwyd wrth y Panel hefyd am
bwysigrwydd parhaus datblygiad proffesiynol i athrawon, colegau a phrifysgolion
o ran sut y caiff gwersi eu haddysgu gan ddefnyddio dyfeisiau a thechnoleg,
drwy gael yr addysgeg gywir. ·
Roedd y Panel yn falch o
glywed mai'r PSA oedd yr union beth oedd gan y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg
mewn golwg pan gyflwynwyd ei argymhelliad i'r Cabinet yn 2018. Maent yn falch o weld bod y cwricwlwm yn
cyd-fynd yn well ag anghenion sgiliau yn lleol ac yn genedlaethol. Cytunodd y Panel â Chadeirydd y Pwyllgor
Datblygu Polisi pan ddywedodd y dylai elfen alwedigaethol fod yn rhan o brofiad
addysgol pob plentyn. Roedd yn hapus â'r hyn y gall y bartneriaeth ei gyflawni,
gan gredu bod angen iddo fod yn ddeinamig ac yn gallu newid wrth i bethau
ddatblygu, gan gynnwys datblygu'r cwricwlwm newydd a sgiliau sy'n seiliedig ar
waith cyffredinol. ·
Dywedodd Aelod y Cabinet dros
Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau wrth y Panel mai cryfder y partneriaethau yw cael
sefydliadau'n rhan ohonynt sydd o gwmpas eu pethau o ran y gymuned fusnes, er
enghraifft, colegau sydd â chysylltiadau bwyd â chyflogwyr. Hefyd bod angen canfyddiad ehangach o beth yw
pwrpas cyflogaeth yn y dyfodol, er enghraifft, mae angen i gyflogwyr fod yn
hyblyg, gyda sgiliau trosglwyddadwy da a'r gallu i farchnata eu hunain. ·
Mae'n bryd i ni ddechrau
meddwl am yr hyn sydd nesaf i'r bartneriaeth.
Mae'r angen i gadw momentwm a NEETs wedi'i
nodi gan ei fod yn cynnwys nifer o bartneriaid.
Codwyd yr enghraifft o'r gwaith da ar NEETs yn
Ysgol Gyfun Pentrehafod. Mae hyn yn
dangos yr hyn y gellir ei gyflawni a chyda chyfranogiad yr holl bartneriaid
gellir cyflawni llawer mwy. ·
Roedd cynghorwyr yn falch o
glywed am yr ymrwymiad, yr wybodaeth a'r profiad y mae aelodau unigol o'r
Bartneriaeth yn eu cyflwyno ac yn cydweithio i wella dysgu a chyfleoedd pobl
ifanc yn Abertawe. ·
Mae nifer o wahanol
bartneriaethau ar gael, gofynnwyd a oedd unrhyw ddyblygu o ran gweithgarwch?
Clywodd y Panel fod partneriaethau eraill ar gael ac mae rhywfaint o orgyffwrdd
ond nid dyblygu yw hyn, ac mae o fudd i Abertawe, megis gwaith o amgylch y
cwricwlwm newydd a chynnig dysgu o ansawdd da a chafwyd rhywfaint o fudd o
raglenni rhanbarthol a gynigir gan y rhanbarth. ·
Gofynnodd y Panel sut mae
gwersi yn cael eu dysgu o fewn y Bartneriaeth fel y gellir eu gwella. Clywodd y Panel fod y Bartneriaeth yn
defnyddio gwybodaeth leol i lywio cynllunio'n lleol ac mae hynny'n amlwg mewn
prosiectau hyd yn hyn. ·
Mae'r Bartneriaeth wedi gweithio'n
dda ac mae cael cynrychiolydd o'r tu allan i Abertawe fel Castell-nedd Port
Talbot yn gadarnhaol er mwyn gallu gweithio ar draws ffiniau a chydag ystod
eang o bartneriaid er budd ein dysgwyr. ·
Dywedwyd wrth y Panel, er mwyn
gwella a symud ymlaen ymhellach y bydd angen iddynt wneud y canlynol: o
Ailedrych ar ddiben a bwriadau
gwreiddiol a chynnwys mwy o feddwl o'r newydd gan gynnwys cyfranogiad gan y
gymuned fusnes. o
Adnewyddu blaenoriaethau wrth
symud ymlaen. o
Adeiladu ar y momentwm
presennol (hanfodol i beidio â cholli momentwm nawr yn enwedig wrth symud i'r
byd ar ôl COVID) o
Canolbwyntio ar un neu ddau o
is-grwpiau allweddol y dylai un ohonynt fod yn NEET. Roedd y Panel yn falch o glywed am yr effaith
gadarnhaol y mae'r partneriaethau'n ei chael, yn arbennig mewn perthynas â
dysgu digidol a llwyfan gyrfaoedd. Mae'r
Panel yn edrych ymlaen at weld sut mae'r Bartneriaeth yn datblygu yn y dyfodol
drwy adeiladu ar y sylfeini cynnar da hyn. Hoffai'r Panel bwysleisio'r angen i
ymgysylltu â'r gymuned fusnes leol a'i chynnwys ar y bartneriaeth wrth symud
ymlaen (a byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth am yr agwedd hon). Cadarnhaol
gweld is-grŵp i edrych ar NEETs, a fydd yn faes
hanfodol y gall yr holl bartneriaid ddylanwadu arno wrth symud ymlaen. Er mwyn cytuno ar y camau nesaf, rhaid
cynnwys ffocws ar yr heriau a wynebir gan ddysgwyr sy'n agored i niwed. Diolchodd y cynghorwyr i bawb a fynychodd y
cyfarfod gan ddweud y gall y Panel bellach weld map llwybr ar gyfer dyfodol y
Bartneriaeth. |
|
Diweddariad ar Gynllun Adfer Addysg Covid Y Cynghorydd Jen
Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees
(Cyfarwyddwr Addysg Gweithredol) Cofnodion: Amlinellodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a'r
Cyfarwyddwr Addysg y sefyllfa bresennol mewn perthynas â COVID a'i effeithiau
ar addysg. ·
Ym mis Rhagfyr, roedd cyfarwyddeb
weinidogol i ddysgu o bell a oedd yn teimlo fel y peth iawn i'w wneud. Ond mae'n anoddach i ysgolion cynradd gynnal
dysgu o bell gan fod disgyblion yn llai abl i gymryd rhan mewn dysgu hunangyfeiriedig. ·
Roedd lefel presenoldeb wedi
gostwng i 44% cyn y gyfarwyddeb. Ar
gyfer mwyafrif y tymor, 80% oedd y gyfradd bresenoldeb ·
Roedd 92 o'r 94 ysgol yn
Abertawe wedi cael eu heffeithio gan achosion positif. Roedd gan un ysgol y
nifer uchaf o achosion, sef 69, gyda nifer o ysgolion â mwy na 25 o achosion. ·
Hyd yma, bu 938 o achosion
positif mewn ysgolion ac yna mwy o blant ysgol yn hunanynysu. ·
Mae'r tarfu wedi bod yn
sylweddol. ·
Dywedwyd wrth y Panel na fydd
pob disgybl yn dechrau nôl ar y 4 Ionawr a bydd yn dibynnu ar y sefyllfa ar y
pryd. Bydd gallu ysgolion i weithredu'n
ddiogel yn dibynnu ar a ydynt yn mynd yn ôl i addysgu wyneb yn wyneb ar
ddechrau'r tymor. Dechrau gyda diogelwch
a staffio. ·
Mae'n bwysig dysgu oddi wrth
yr ysgolion hynny sydd wedi cael cyfraddau positif uchel ond mae'n ymddangos bod
cyfraddau trosglwyddo cymunedol yn allweddol. Ystyried pethau fel cyflwyno
newid parthau ysgolion etc. ·
Gweithio mewn partneriaeth ag
Iechyd Cyhoeddus Cymru i nodi unrhyw batrymau mewn ysgolion sy'n ddefnyddiol
wrth ddysgu a deall hyn. ·
Cynigir profion llif ochrol i
atal hunanynysu ar gyfer cysylltiadau mewn
ysgolion. Mae agweddau ymarferol a
logisteg yn ei gwneud yn anodd gweithredu hyn ac mae angen ymchwilio mwy iddo. |
|
Cynllun Gwaith 2020/2021 PDF 263 KB Cofnodion: Oherwydd y pwysau presennol ar yr Adran Addysg, mae'r Panel wedi cytuno i
ohirio'r holl eitemau a drefnwyd ym mis Ionawr a mis Chwefror, ar wahân i
dderbyn diweddariad COVID addysg ar lafar a'r Gyllideb Flynyddol am ei fod yn
ymwneud ag addysg. Caiff hyn ei adolygu
ddechrau mis Mawrth. |
|
Er gwybodaeth - Adroddiad Archwiliad Blynyddol PDF 556 KB Cofnodion: Nodwyd adroddiad blynyddol yr Archwiliad o'r Ysgol. Daeth y cyfarfod i ben am 5.27pm |
|