Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Michelle Roberts,Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cynullydd Panel Cofnodion: Ail-gadarnhawyd y
Cynghorydd Lyndon Jones fel Cynullydd y Panel. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Llythyrau a'r Cofnodion PDF 456 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd llythyrau
eu derbyn a'u hystyried gan y panel.
Cytunwyd ar y cofnodion. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Addysg Adferiad a dychwelyd i’r ysgol PDF 390 KB Y Cynghorydd Jen
Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees
(Cyfarwyddwr Addysg Gweithredol) Cofnodion: Cyfarfu’r Panel ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, y
Cynghorydd Jen Raynor a'r Cyfarwyddwr Addysg Dros Dro, Helen Morgan Rees, i
drafod sut mae addysg yn adfer yn dilyn effeithiau COVID-19. Clywodd a thrafododd y Panel y canlynol: ·
Y flaenoriaeth ar ddechrau mis Medi oedd cael cynifer o
ddisgyblion yn ôl i'r ysgol â phosib.
Rhoddwyd cyfnod gras tan 14 Medi gan Lywodraeth Cymru, pan ddisgwylid y
byddai pob ysgol yn gwbl weithredol. Cyflawnwyd hyn yn Abertawe yn
llwyddiannus, drwy waith caled y penaethiaid a staff yr ysgol a chydweithio
agos rhwng pawb a oedd yn rhan o'r Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i fynd
i'r afael â'r cyfnod anodd hwn. Mae'r Grŵp Tasg a Gorffen bellach wedi atal gweithgarwch ond bydd yn ailymgynnull
ym mis Rhagfyr i weld a oes angen i ni adolygu unrhyw beth wrth i amser fynd yn
ei flaen. ·
Roedd datblygu canllawiau gweithredol lleol
i ysgolion ar ben y canllawiau gweithredol a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru yn
allweddol i lwyddiant ein hadferiad a'n dychweliad i addysg yn Abertawe. Gan gynnwys datblygu cynllun parhad
dysgu, mae hynny wedi ein gwasanaethu'n dda, yn enwedig mewn perthynas â'r
dysgu cyfunol sy'n ofynnol ac sydd wedi bod yn ofynnol. Mae polisi clir wedi'i
ddatblygu fel bod ysgolion yn gallu ymateb ar fyr
rybudd os gofynnir i blant hunanynysu. ·
Rydym yn darparu prydau ysgol am ddim yn
ystod y cyfnodau gwyliau rhwng nawr a Phasg 2021, rydym yn dal i ddarparu
taliadau a byddwn yn parhau i wneud hynny, naill ai taliadau uniongyrchol i
gyfrifon banc neu barseli bwyd yn ystod y gwyliau hyn. ·
Dechreuodd addysg orfodol ar 14 Medi ac ers
hynny rydym wedi gweld presenoldeb da a chadarn yn ein hysgolion ledled
Abertawe. Ar ddechrau mis Medi, cawsom
gynifer â 60 o geisiadau gan rieni yn gofyn i addysgu eu plant gartref trwy
ddewis. Fodd bynnag, ers mis Medi, rydym wedi gweld cyfradd presenoldeb uchel
ar draws ysgolion ac mae hyn wedi aros yn sefydlog ar gyfer y cyfnod hwn. ·
Bu'n rhaid i'n Prifathro ac arweinwyr
ysgolion wneud penderfyniadau anodd iawn er mwyn cadw ein hysgolion mor ddiogel
â phosib. Roedd y cyngor o'r safbwynt pe byddent yn gwneud unrhyw
benderfyniadau yn seiliedig ar asesiad risg cadarn iawn, y byddai'r cyngor yn
cefnogi'r penderfyniadau hynny ac eglurwyd hynny iddynt ar ddechrau'r
tymor. Rydym wedi canolbwyntio ar les
staff ysgolion ac yn enwedig arweinwyr ysgolion. Rydym wedi gorfod gwneud
penderfyniadau anodd iawn hyd at ddechrau'r tymor er mwyn sicrhau bod eu
sefydliadau'n gweithio'n dda ac rydym wedi ceisio annog llywodraethwyr i ofyn y
cwestiynau hynny i'w penaethiaid yn benodol er mwyn sicrhau y gofalir am eu
lles. ·
Fodd bynnag, mae angen i ni herio'r holl
weithrediadau o hyd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu'n barhaus ar lefel
ddiogel a bod yr asesiadau risg hynny'n cael eu gweithredu. Yr wythnos hon, aeth yr Awdurdod Gweithredol
Iechyd a Diogelwch i naw o'n hysgolion i ymweld â safleoedd er mwyn sicrhau bod
ein hysgolion yn dal i fod yn ddiogel o ran COVID-19. Cawsom hefyd ymweliad
rhithwir gan ein rheolydd addysg, Estyn. ·
Yn ystod y prif gyfyngiadau symud, bydd
Cynghorwyr wedi clywed am set gyson o egwyddorion ar gyfer ein hysgolion er
mwyn sicrhau rhywfaint o gonsensws. Roeddem yn symud ymlaen gyda'n gilydd, ac
yn cryfhau wrth wneud hynny drwy wneud penderfyniad gyda'n hathrawon a'n
pennaeth. ·
Rydym wedi cynyddu'r defnydd o'n llwyfannau
digidol gan gynnwys Ysgol Rithwir Abertawe a phlatfform HWB, y siaradais â chi
amdano ym mis Gorffennaf, ac rydym wedi gweld rhagor o bobl yn manteisio
arnynt, sy'n gadarnhaol. ·
Derbyniodd ysgolion grant penodol i helpu
plant i ddal i fyny, o'r enw 'rhaglen ddysgu gyflym'. Roedd hyn i’w galluogi i ychwanegu at allu eu
gweithlu a'u hamser dysgu ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr sydd ei angen
fwyaf. ·
Roeddem wedi ceisio mabwysiadu ymateb
cymesur yn Abertawe pan welsom achosion yn dod i mewn i ysgolion o'r gymuned. Daw'r arweiniad a'r cyngor gan
swyddogion iechyd yr amgylchedd. Felly, pan wneir penderfyniad i leihau'r
gweithrediad mewn unrhyw ysgol, caiff ei wneud mewn partneriaeth â'r gwasanaeth
Profi, Olrhain a Diogelu lleol. ·
Roeddem yn teimlo ei bod yn hanfodol yn
ystod y cyfnodau ansicr hyn fod yn rhaid i ni gyfathrebu'n glir iawn â rhieni
ac unrhyw gymuned ysgol. ·
Yn ystod mis Medi a mis Hydref, cafodd y
cwricwlwm cenedlaethol ei israddio er mwyn galluogi athrawon i ganolbwyntio ar
les plant wrth iddynt ddychwelyd i addysg. ·
Defnyddiwyd catalydd y cyfyngiadau symud
cyntaf i ddysgu a gwneud pethau'n wahanol. Felly, mae'r ffordd yr ydym yn
gweithredu'n awr fel adran sy'n rhyngweithio â'n partneriaid ysgol yn wahanol
iawn ac nid ydym yn bwriadu newid hyn yn ôl. ·
Gwnaethom roi cyngor i'n hysgolion yn ystod
misoedd yr haf ar wydnwch a'r newid yn ôl. Hefyd ar brofedigaeth, a ddarparwyd
ar y cyd â'n gwasanaeth seicoleg addysg yma yn Abertawe. ·
Roedd gennym bryderon am yr hyn a fydd yn
digwydd yn ystod yr arholiadau. Cafwyd adolygiad annibynnol o arholiadau mewn
perthynas â 2020, a fydd yn adrodd yn fuan. Yn ogystal â hyn, roeddem yn
disgwyl clywed gan Lywodraeth Cymru ar 9 Tachwedd am yr hyn a fydd yn digwydd
yn 2021. Cwestiwn: A oes unrhyw blant sy'n ei
chael hi'n anodd cysylltu ag offer cyfrifiadurol neu gael mynediad atynt? Yn ystod misoedd yr haf, dosbarthom lawer o offer,
a mabwysiadwyd dull hyblyg iawn o sicrhau bod unrhyw ddisgybl sydd wedi'i
eithrio'n ddigidol yn dal i dderbyn yr offer hwnnw a'r cysylltedd. Byddwn yn parhau i fonitro hynny'n ofalus.
Rydym yn annog ein hysgolion i gyfathrebu â ni er mwyn inni allu eu helpu os
oes ei angen arnynt, ond ar y cyfan, rydym yn hyderus bod ganddynt yr hyn sydd
ei angen arnynt. Cwestiwn: O ran presenoldeb, beth yr ydym yn ei wneud am
y disgyblion nad ydynt wedi gofyn am ganiatâd i fod gartref? A ydym yn cadw'r
niferoedd sy'n ymwneud â hynny? Sut mae
mynd ar drywydd diogelu? Mae
swyddogion lles yn mynd ar drywydd rhai o'r galwadau hynny o ysgolion i'r
cartref os oes angen. Mae gennym hefyd swyddog diogelu ym maes addysg, os oes
unrhyw bryderon penodol. Rydym yn gweithio gydag eraill gan gynnwys y
gwasanaethau cymdeithasol, i sicrhau ein bod yn gweld pob plentyn ac os nad yw
plant yn dod i'r ysgol heb reswm da dros hynny, byddwn yn mynd ar drywydd hyn
drwy ein swyddogion lles addysg. Rydym wedi cadw rhestr benodol o ran plant
sy'n agored i niwed, felly mae ysgolion yn nodi'r rheini yr oeddent yn credu eu
bod yn agored i niwed - ar draws ysgolion Abertawe roedd gennym oddeutu
3000. Roedd dysgwyr yn agored i niwed am
sawl rheswm. Gwnaethom leihau'r rhestr
honno i sicrhau ein bod yn edrych ar y plant lle'r oedd perygl o niwed yn ystod
cyfnod y cyfyngiadau symud ac archwiliwyd y rhestr benodol honno'n ofalus iawn. Cwestiwn: Sut rydym yn cadw golwg ar
beth yn union sydd wedi cael ei dalu a beth sydd heb ei dalu? Rydym bob amser wedi bod yn gyson o ran y
meini prawf rydym wedi'u cynnig i ysgolion ac wedi ailadrodd y neges hon yn
aml, ei bod yn rhaid iddi fod yn ychwanegol, yn gost na ellir ei hosgoi. Gallai
fod gwrthodiad o ran yr hyn yr ydym yn ei hawlio, yr amodau yr ydym wedi'u
darparu i ysgolion, rydym yn weddol hyderus y bydd yr arian hwnnw'n dilyn gan
Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw sicrwydd,ac yn nhermau cynllun wrth gefn os
oes unrhyw ysgol mewn sefyllfa anodd gan ei bod wedi gorwario ac nid yw’n
derbyn unrhyw gredyd, yna byddai angen i ni edrych yn ofalus ar gynllun adfer. Cwestiwn: Ydych chi’n pryderu am yr oedi
cyn i ganlyniadau profion gyrraedd ar gyfer aelodau staff ysgolion? Pa gamau sy'n cael eu cymryd i wthio am
ymatebion cyflymach ac a oes unrhyw beth ychwanegol y gallem fod yn ei wneud
fel Panel Craffu i gefnogi hyn? Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn fater i'r
cyngor cyfan. Mae'r arweinydd a nifer o aelodau'r cabinet yn gweithio ar
hyn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roeddem
yn mynd i gysylltu â rhagor o'r prifysgolion a gweld a allwn gyflwyno rhagor o
brofiad o'r labordy. Un broblem yw nad yw gweithlu'r ysgol bob amser yn nodi eu
bod yn weithwyr hanfodol, felly mae hwnnw'n ddarn o waith y mae angen inni ei
wneud i sicrhau ein bod yn rhoi tic yn y blwch cywir. Cwestiwn: Ydych chi'n meddwl y bydd
model yr hwb gymunedol yn cael ei ddefnyddio eto? Nid oes bwriad i
ailedrych ar y lleoliadau gofal plant brys hynny. Blaenoriaeth Llywodraeth
Cymru a ni fel cyfarwyddwyr addysg yw parhau gyda'r dysgu gymaint â phosib.
Bydd tarfu o'n blaenau ond gallwn leihau'r rhain gan ein bod wedi gwneud ein
hysgolion mor ddiogel â phosib o ran COVID-19. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Dros Dro y blaenoriaethau
presennol ym maes addysg gan gynnwys: ·
Darpariaeth EOTAS lwyddiannus a strategaeth
ymddygiad cadarnhaol ·
Gwella’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ·
Cadw dysgwyr yn ddiogel ·
Meithrin gallu digidol ym maes addysg ·
Rhoi'r cwricwlwm newydd ar waith ·
Cynnig dysgu proffesiynol Dywedodd Aelod y Cabinet, y Cynghorydd Jen Raynor, fod yr
Adran Addysg yn gweithio'n wych fel tîm, roedd cyfarfodydd, gan gynnwys y
Grŵp Tasg a Gorffen a oedd yn cynnwys nifer o bartneriaid a Phenaethiaid, wedi bod yn agored ac yn
onest, sy'n ddefnyddiol ar gyfer datrys unrhyw broblemau. Mae llawer o hyder yn ein penaethiaid y
gwrandawyd ar eu barn a'u parchwyd yn ystod y cyfnod hwn. Dywedodd ei bod yn falch iawn o'r ffordd y
mae'r adran yn cael ei chynnal a'i bod yn fwy na bodlon gyda'n sefyllfa
bresennol. Cytunodd y Panel i anfon llythyr at y Cyfarwyddwr Addysg y gall ei
drosglwyddo i holl staff yr ysgol sy'n diolch iddynt am eu gwaith rhagorol dros
y cyfnod anodd hwn. |
|
Cynllunio Rhaglen Waith Craffu ar Addysg 2020/2021 PDF 276 KB Cofnodion: Trafododd y Panel
ar eu rhaglen waith a chytuno arni gynnwys ychwanegu Addysg Ddewisol yn y
Cartref i'r cyfarfod ar 19 Tachwedd ac ychwanegu cyfarfod ym mis Mai lle
byddant yn edrych ar Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) a Rhaglen Ysgolion yr
21ain Ganrif. Byddent hefyd yn hoffi cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd
am sut mae COVID-19 yn effeithio ar addysg ac ysgolion, a chynhelir y nesaf o'r
rhain yn ystod cyfarfod mis Rhagfyr. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.15pm |
|