Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Susan Jones a Dave Anderson Thomas gysylltiadau personol ar gyfer
eitemau 5 a 6. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniwyd y
llythyrau a'r cofnodion gan y panel. |
|
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif PDF 226 KB Cofnodion: Diolchodd y panel
i'r Cynghorydd Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, am
ddarparu adroddiad ac am fod yn bresennol yn y cyfarfod i drafod y cynnydd o
ran Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Trafodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Mae'n
ddiweddariad cadarnhaol iawn o ran y rhaglen. Mae pethau wedi bod yn symud
ymlaen yn dda yn yr ymagwedd dymor hir hon i wella ein darpariaeth ysgol ac
mae'n gyson â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. ·
Mae
Band A bron wedi'i gwblhau ac mae hwn wedi cael effaith fawr, gan ddangos
canlyniadau cadarnhaol wrth ei wneud yn y ffordd gynlluniedig hon. ·
Symud
i fand B, sydd teirgwaith maint Band A. Mae cynnydd da yn cael ei wneud gan
ystyried bod llai o swyddogion ac adnoddau ledled y cyngor, gan gynnwys
cefnogaeth gyfreithiol. Gwaethygwyd sefyllfa'r diffyg staff a'r gwydnwch gan
ofynion mentrau ariannu cyfalaf eraill y mae'r cyngor hefyd yn ceisio eu
darparu mewn perthynas â lleihau maint dosbarthiadau babanod, grantiau gofal plant,
Dechrau'n Deg a Hybiau Cymunedol yr 21ain Ganrif. Mae hefyd diffyg gwydnwch a
gallu y tu allan i'r awdurdod, gan fod nifer y contractwyr ar y fframwaith
presennol wedi lleihau, ac mae'r risgiau ariannol i'r rheini sydd ar ôl wedi
cynyddu. ·
Mae
breuder yn y sector adeiladu a gallu'r cyngor i gyflogi a chadw sgiliau wrth i
gyflogau uwch gael eu cynnig yn allanol yn faterion sydd hefyd yn effeithio ar
ba mor gyflym y gallwn symud ymlaen gyda phrosiectau, ac nid y rheini ym maes
addysg yn unig. Mae'r cyngor yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer
cwmnïau canolig fel eu bod yn gallu cofrestru a gwneud ceisiadau yn y farchnad
hon ochr yn ochr â'r sefydliadau mwy sydd â thimau o bobl sydd wedi'u hyfforddi
a'u cyflogi i gyflwyno ceisiadau. Bydd hwn yn helpu i ddenu rhagor o gwmnïau
i'r farchnad a helpu i gyflogi pobl yn lleol.
·
Cymerwyd
£61 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer Band B. Caiff y gwaith ei
flaenoriaethu a'i drefnu fesul cam yn y rhaglen, fel sy'n digwydd ym Mand A, ac
mae hynny'n cynnwys y canlynol ar hyn o bryd: o
Adeilad
newydd Ysgol Gynradd Gorseinon o
Adeilad
newydd yr Uned Cyfeirio Disgyblion o
Adeilad
newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan o
Adeilad
newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw o
Adeiladu
estyniad ac ailfodelu Ysgol Gyfun Gymraeg Gŵyr i gynyddu nifer y lleoedd
ar gyfer 195 o ddisgyblion ychwanegol o
Gwaith
cam cyn adeiladu ar gyfer ailfodelu, adnewyddu ac ymestyn Ysgol Gyfun Llandeilo
Ferwallt o
Clywodd
y panel hefyd y byddai gwaith yn parhau i ddatblygu cynlluniau busnes manwl ar
gyfer y cynlluniau cyfalaf sy'n weddill, gan ddibynnu ar faint o adnoddau a
swyddogion sydd ar gael. ·
Teimlai'r
Panel fod yr adroddiad yn un cyffrous sy'n dangos yr holl adeiladau newydd hyn
sy'n cael eu creu. ·
Gofynnodd
y panel beth oedd y ffigwr a gronnwyd ar hyn o bryd ar gyfer cynnal a chadw
adeileddol ledled ysgolion yn Abertawe. Hysbyswyd y panel bod arolwg cyflwr yn
cael ei gynnal yn ysgolion Abertawe ar hyn o bryd ac unwaith y caiff ei gwblhau
bydd ffigwr ar gael. Gofynnodd y panel i weld yr adroddiad arolygu cyflwr a
chrynodeb o ffigurau cynnal a chadw strwythurol pan fyddant ar gael. ·
Gofynnwyd
beth yw canran y gyfradd ymyriad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr adeiladau
newydd? Dywedwyd wrth y panel bod dwy ffynhonnell ar gyfer ariannu sef (1)
arian cynnal a chadw a chyfalaf traddodiadol gan Lywodraeth Cymru, sy'n rhoi
65% i ysgolion prif ffrwd, a 75% i UCD ac Ysgolion Arbennig a (2)Model
Buddsoddi Cydfuddiannol, sy'n rhoi 81% ond mae costau nes ymlaen. ·
Roedd
y panel am ddiolch i bawb a fu'n rhan o hyn am eu gwaith caled wrth symud y
cynlluniau hyn ymlaen mewn modd mor effeithlon. |
|
Cofnodion: Cododd aelod o'r
cyhoedd fater i'r panel ei ystyried, sef 'Ni allwch ofyn i riant fynd â'i
blentyn i'r ysgol yn ei gar symudedd.
Pam nad yw hyn wedi cael ei ystyried oherwydd ei fod yn bryder enfawr
i rai rhieni. Os ydych chi'n dechrau defnyddio hyn fel nod, bydd yn
wahaniaethol ac ni fydd yn gyfreithlon a bydd yn creu gwrthdaro rhwng y cyngor
a'r rhieni'. Clywodd y panel y
soniwyd am hwn fel rhan o'r adroddiad trosolwg fel rhywbeth y gellir ei
ystyried yn y dyfodol. Ni wnaed unrhyw benderfyniad am y mater hwn, nid yw'r
mater wedi cael ei drafod yn llawn hyd yn hyn a phan/os bydd hyn yn digwydd,
byddwn yn ceisio cyngor cyfreithiol, ac yn cynnal ymgynghoriad, cyn y byddai unrhyw
benderfyniad yn cael ei wneud. Diolchodd y panel i'r Cynghorydd Raynor, Brian Roles a Cath Swain, Rheolwr
yr Uned Cludiant Integredig, am ddarparu'r adroddiad briffio ac am fod yn
bresennol yn y cyfarfod. Trafodwyd y materion canlynol: ·
Mae darpariaeth llawer gwell ar gyfer disgyblion ADY ar
draws y sir ac mae hyn wedi arwain at arbedion yn y gyllideb cludiant, oherwydd
nad oes angen cludo cynifer o ddisgyblion pellterau mawr i'r ysgol. ·
Darperir cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n byw dwy
filltir neu fwy o ysgol gynradd eu dalgylch neu dair milltir neu fwy o ysgol
uwchradd eu dalgylch. Mesurir y pellter
hwn yn ôl y llwybr cerdded byrraf yn unol â Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r
Ysgol y cyngor sy'n seiliedig ar Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a
darpariaeth statudol gysylltiedig ac arweiniad gweithredol. Darperir cludiant
am ddim o ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r disgyblion yn cyrraedd pum mlwydd
oed ond ni ddarperir i blant iau/oed meithrin. ·
I blant â datganiad o anghenion dysgu ychwanegol, mae’r
polisi cludiant cyffredinol a ddisgrifir uchod yn berthnasol. Darperir cludiant am ddim i ddysgwyr ADY lle
mae'r Adran Addysg yn eu gosod mewn ysgol brif ffrwd sy'n wahanol i'w hysgol
ddalgylch leol; mewn cyfleuster addysgu arbenigol sy'n wahanol i'w hysgol leol;
neu mewn ysgol arbennig. Os bydd rhiant yn dewis anfon ei blentyn i ysgol brif
ffrwd wahanol, yna bydd y rhiant yn gyfrifol am unrhyw drefniadau neu gostau
cludiant. ·
Gall y cyngor ddarparu cludiant o’r cartref i’r ysgol am
ddim yn ôl ei ddisgresiwn gan ddibynnu ar natur anghenion dysgu ychwanegol y
disgybl. Os yw'r cyngor yn credu y gellir diwallu anghenion plentyn yn ei ysgol
brif ffrwd leol ond bod ei rieni'n dewis ysgol brif ffrwd wahanol, y rhiant
fydd yn gyfrifol am unrhyw drefniadau a chostau cludiant. o
Roedd 4,366 o ddisgyblion yn derbyn cludiant o’r cartref
i’r ysgol yn y brif ffrwd am gost o £3.627 miliwn yn 2018/19. o
Roedd 678 o ddisgyblion ADY wedi derbyn cludiant o'r
cartref i'r ysgol am gost o £4.071m y llynedd o
Roedd 151 o gontractau ar gyfer cludiant prif ffrwd ac
roedd 409 o ddisgyblion ADY y llynedd. ·
Mae nifer y disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim
yn Abertawe wedi aros yn sefydlog. Fodd bynnag, mae cost gyffredinol
darpariaeth cludiant wedi cynyddu'n sylweddol. Clywodd y panel fod y cynllun
ariannol tymor canolig a'r cynlluniau gweithredol yn adlewyrchu'r angen i nodi
gweithredoedd sylweddol pellach i liniaru pwysau costau ac i geisio sicrhau
sefydlogrwydd tymor hir. ·
Mae'r mesur yn gofyn bod y cyngor yn ystyried y canlynol
wrth ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol: oedran y plentyn, natur y llwybr,
unrhyw ddymuniad sydd gan y rhiant am dderbyn addysg mewn ysgol sy'n darparu
addysg grefyddol, yn Gymraeg, anghenion dysgwyr anabl a phlant sy'n derbyn gofal.
·
Y Adran Addysg sy'n goruchwylio'r polisi cludiant ysgol
ac mae'r Uned Cludiant Integredig yn yr Adran Lleoedd yn gyfrifol am gyflwyniad
gweithredol yr anghenion cludiant yn unol â'r polisi. ·
Cyflawnwyd arbedion sylweddol dros y blynyddoedd
diwethaf, trwy reoli'r gwasanaeth yn gadarn ac yn gyson a thrwy aildendro contractau a llwybrau'r bysys a gweithredwyr
tacsis yn rheolaidd, er mwyn cael darpariaeth mor effeithlon â phosib.
Cyflawnwyd y rhain heb ddefnyddio cefnogaeth ymgynghorol allanol ddrud. ·
Gofynnodd y panel gwestiwn am brynu a defnyddio cerbydau
sy'n eiddo i'r cyngor ar gyfer cludiant ysgol a dysgu ADY penodol. Clywodd y
panel fod y cerbydlu mewnol yn cael ei ddefnyddio i'r
eithaf cyn contractio darparwyr eraill. Clywodd y panel fod nifer o'r cerbydlu hŷn yn cael eu disodli gan gerbydau a fydd yn
fwy hygyrch ac felly yn fwy ystwyth o ran eu defnydd. ·
Nododd yr Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant y
cynllun i greu llwybrau cerdded newydd/gwell rhwng ysgolion (a chymunedau) fel
ffordd bosib o arbed refeniw yn y tymor canolig. Byddai hyn o ganlyniad i
leihau'r baich ar yr ALl i ddarparu cludiant statudol
lle mae llwybr cerdded diogel ar gael o fewn y radiws statudol. Argymhellwyd
tri llwybr gan gynnig y posibilrwydd o arbed £280 y flwyddyn, yng Ngellifedw, Pontybrenin a'r Clun. ·
Clywodd y panel y byddai perygl o gael ein herio bob tro
lle na fyddai gofynion a disgwyliadau'r rhieni'n cael eu bodloni wrth argymell
newidiadau yn y ddarpariaeth. ·
Mae hefyd risg barhaus o ran newidiadau pellach i'r polisi
cenedlaethol, a all godi disgwyliadau'n uwch yn ogystal â chyfyngu'r incwm y
gellir ei wneud o werthu seddi dros ben yn y dyfodol. Mae'r panel yn cydnabod y
gall y risgiau hyn effeithio ar yr hyn rydym yn ceisio'i wneud a'i danseilio. |
|
Cynllun Gwaith 2019 - 2020 PDF 217 KB Cofnodion: Nodi taith i Ysgol
Gynradd Waunwen ac i Ysgol Gyfun Penyrheol ar gyfer y
rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ddinesig newydd. |
|