Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Mike Day gysylltiad personol ag eitem 4.

 

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 414 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion a llythyrau.

4.

Sesiwn Friffio ar y Fenter Ysgolion Iach pdf eicon PDF 9 KB

Cofnodion:

Roedd Catie Parry, Emma Griffiths a Catrin Ford o Iechyd Cyhoeddus Cymru'n bresennol yng nghyfarfod y panel. Rhoesant gyflwyniad a thrafodwyd y materion gyda'r panel. Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

·         Clywodd y panel am y Fenter Ysgolion Iach yn Abertawe gan y cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, pam y mae mor bwysig, y cynllun ysgolion iach ei hun a sut y mae'r cyfan yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru.

·         Roedd y Cynghorwyr yn falch o glywed bod holl ysgolion Abertawe wedi defnyddio Menter Ysgolion Abertawe i lefelau gwahanol, gyda 12 ysgol yn Abertawe'n derbyn y Wobr Ansawdd Genedlaethol (GAG) sydd gyfwerth â 13% o ysgolion Abertawe. Cyflawnodd 99% o ysgolion gam 3 neu'n uwch. Mae 20% o ysgolion yn gweithio tuag at y GAG ar unrhyw adeg. Mae'r ffigyrau hyn i gyd yn fwy na thargedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y fenter. Clywsom fod y mwyafrif o ysgolion sydd wedi ennill y GAG o'r sector cynradd ond nid yw hyn yn golygu nad oes gwaith yn cael ei wneud mewn ysgolion uwchradd. Maent yn cymryd rhan yn y fenter ond nid ydynt mewn sefyllfa i ymgeisio am y wobr ar hyn o bryd. Sicrhawyd y panel bod y tîm iechyd cyhoeddus yn rhoi cymorth i unrhyw ysgol sydd efallai heb gymryd rhan yn llawn neu sydd wedi oedi yn y broses.

·         Gofynnodd y Cynghorwyr faint o bwyslais sydd ar iechyd meddwl fel rhan o'r fenter hon. Roeddent yn falch o glywed bod iechyd meddwl a lles yn destun sylfaen yr adeiladir popeth arall ar ei ben ac mae'n sail i bwrpas y cynllun.

·         Clywodd y panel am y data HAPPEN clir (O'r data Iechyd a Lles a gasglwyd gan Brifysgol Abertawe). Amlinellodd hyn rhai o'r heriau sy'n wynebu Cymru mewn perthynas ag iechyd a lles ein plant. Er enghraifft:

o   Mae gan 74.8% o blant dan 5 oed yn Abertawe bwysau iach ond mae gan 25.2% bwysau afiach.

o   28% yn unig o'r plant a gymerodd ran yn yr arolwg oedd wedi nodi eu bod yn bwyta 5 dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod.

o   Ar gyfartaledd, bydd gan blentyn 5 oed sy'n byw yn Abertawe o leiaf un dant coll, dant wedi'i lenwi neu dant sydd wedi pydru.

o   Dangosodd data a gasglwyd gan Brifysgol Caerdydd hefyd (sef data SHRN) fod 44% o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 11 yn bwyta un dogn o ffrwythau a llysiau neu fwy y diwrnod. Dangosodd hefyd fod 44% o ddisgyblion wedi nodi eu bod yn yfed alcohol.

·         Roedd y panel yn cydnabod bod hyn yn dangos bod ein plant a phobl ifanc yn bwyta'r bwydydd anghywir a bod eu glanweithdra deintyddol yn wael. Clywsom fod modd atal hyn ac mae'n dangos yn glir pa mor bwysig yw'r gwaith a wneir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ysgolion i fynd i'r afael â hyn. Cytunodd y Cynghorwyr fod gweithio gyda rhieni i annog arferion bwyta gwell hefyd yn allweddol.

·         Clywodd y panel am ychydig o'r gwaith gwella iechyd gwych sydd ar waith mewn ysgolion yn Abertawe a chytunwyd â'r tîm iechyd cyhoeddus pan ddwedon nhw y dylid cadw'r mater hwn yn uchel ar yr agenda os nad ar y brig.

·         Roedd y panel yn falch o glywed fod Cwricwlwm i Gymru 2022 yn gyffrous gan y bydd yn cyflwyno ffordd newydd o ddysgu ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, sef addysgu sgiliau wrth iddynt dyfu i fyny. Roedd y Cynghorwyr yn falch iawn y bydd Iechyd a Lles yn un o'r chwe maes dysgu a phrofiad a bydd ganddo statws cyfartal â'r 5 maes arall ar y cwricwlwm.

Diolchodd y panel i Iechyd Cyhoeddus Cymru am fod yn bresennol ac rydym yn edrych ymlaen at glywed sut y bydd y cwricwlwm newydd yn helpu'r agenda bwysig hon i symud ymlaen.

5.

Sesiwn i edrych ar Genhadaeth Genedlaethol Cymru a datblygu cwricwlwm trawsnewidiol pdf eicon PDF 244 KB

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a Helen Morgan Rees, Pennaeth Cyflawniad a Phartneriaeth Addysg yn bresennol yng nghyfarfod y panel, a rhoesant adroddiad ysgrifenedig am sut y mae'r ysgolion yn mynd i'r afael â chamau gweithredu yn y cynllun gweithredu 'Cenhadaeth ein Cenedl' ar gyfer addysg, gan gynnwys cwricwlwm trawsnewidiol. I grynhoi, roedd yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:

 

·         Cynllun Cenhadaeth ein Cenedl ar gyfer gwella addysg a chynllun gweithredu

·         Rôl Cyfarwyddiaeth Addysg Abertawe fel cynlluniwr a darparwr gwybodaeth effeithiol er mwyn galluogi ysgolion i wella deilliannau a lles dysgwr.

·         Yr anghydraddoldebau sy'n wynebu dysgwyr diamddiffyn a'r gofyniad i hwyluso partneriaethau amlasiantaeth

·         Hybu arweinyddiaeth sy'n ysbrydoli drwy bedwar diben craidd y cwricwlwm trawsnewidiol newydd

·         Yr ymagwedd genedlaethol at ddysgu proffesiynol

·         Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu

·         Yr ymagwedd broffesiynol gymysg a sut y mae'n datblygu yn Abertawe

·         Gwella dysgu ar y lefel uchaf mewn dosbarthiadau'r chweched trwy Ganolfan Rhwydwaith Seren

·         Ymrwymiad i gamau gweithredu cenedlaethol i leihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth

·         Newid y ffordd y caiff perfformiad yr ysgol ei fesur

 

Casgliad

1.    Mae ysgolion Abertawe'n arddangos dealltwriaeth gref o'r newidiadau cymhleth yn y system addysg yng Nghymru ac fe'u cefnogir i reoli newid trwy gamau gweithredu strategol lleol a rhanbarthol.

2.    Mae'r cydlyniant rhwng y blaenoriaethau rhanbarthol a lleol â'r camau gweithredu yn y cynllun Cenhadaeth ein Cenedl yn ddefnyddiol ac yn glir.

3.    Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn cael eu newid yn sylweddol. Mae datblygu ysgolion fel sefydliadau dysgu'n allweddol er mwyn eu cefnogi trwy'r newid.

4.    Mae'r dulliau hanesyddol o werthuso perfformiad ysgolion yn newid a bydd mwy o bwyslais ar iechyd a lles emosiynol disgyblion nawr ac yn y dyfodol.

 

Mae'r pwyntiau a nodwyd yn y drafodaeth hon yn cynnwys:

·         Dyma gyfle amserol i edrych ar sut y mae ysgolion Abertawe'n ymateb i'r her hon. Mae'n bwysig ein bod ni'n ystyried y sefyllfa bresennol a gallu ein hysgolion i wneud hyn.

·         Mae angen i ni ddatblygu arferion asesu cadarn ar draws yr holl ranbarth ynghyd â chysondeb. Cydnabyddir bod Abertawe'n dangos asesiadau cadarn ond a ydynt cystal mewn rhannau eraill o'r rhanbarth?

·         Dyma gyfnod anodd iawn i'r awdurdodau lleol a'r tîm craffu sy'n barnu safon addysg. Yn enwedig gan y bydd llawer mwy o bwyslais ar gynnydd dysgwyr unigol yn hytrach na data.

·         Sut y mae'r ysgolion yn mynd i'r afael â rhoi'r cwricwlwm newydd a phopeth sy'n ymwneud ag ef ar waith. Bydd y Panel Craffu Addysg yn ychwanegu hyn at y rhestr o gwestiynau y maent yn ei defnyddio ar gyfer eu gwaith craffu ar ysgolion unigol.

·         Sut y mae Estyn yn newid gyda'r cwricwlwm newydd. Bydd yn canolbwyntio'n fwy ar sgyrsiau ag ysgolion yn hytrach na barnau. Bydd hyn yn unol â'r adroddiad Donaldson diweddar am yr Arolygiaeth. Bydd Estyn yn sicrhau bod eu gwaith yn cefnogi'r cwricwlwm newydd. Bydd ymweliadau anfeirniadol y flwyddyn nesaf. Dilynir hyn gan fwlch blwyddyn er mwyn rhoi cyfle i ysgolion gael hoe a mesur a phwyso'r sefyllfa. Yn dilyn hyn bydd y drefn arolygu'n wahanol, ac yn canolbwyntio'n fwy ar ymagwedd partneriaeth integredig er byddant yn parhau i arolygu ysgolion lle mae pryderon. Dyma gam cadarnhaol wrth symud ymlaen.

·         Bydd ysgolion yn lleihau gwaith diangen. Gwerthusir meysydd penodol y mae angen i'r ysgol eu gwella yn fwy manwl yn hytrach na llunio llwyth o adroddiadau ar feysydd ehangach. Dylai hyn fod yn offeryn gwella mwy pwerus yn hytrach na chanolbwyntio ar ysgrifennu'r adroddiad i fodloni perfformiad mwy cyffredinol yn unig. Cytunodd y panel mai dyma'r ffordd ymlaen orau.

·         Er y gall hyn fod yn her i rai ysgolion gan eu bod yn ymrwymedig i'r hen system o hyd, lle'r ystyrir bod adrodd am atebolrwydd yn bwysig o hyd, bydd angen cymorth a chefnogaeth arnynt i symud i ffordd newydd o weithio.

·         Bydd yn bwysig sicrhau bod llywodraethwyr yn deall y cwricwlwm newydd a'r pwyslais newydd ar iechyd a lles emosiynol disgyblion. Bydd yn bwysig eu bod yn gofyn y cwestiynau iawn.

·         Nid yw'r cwricwlwm newydd mor ragnodol, bydd rhai athrawon yn ffynnu yn yr amgylchedd hwn ond mae angen i ni gydnabod y bydd angen ychydig o gymorth ychwanegol ar rai er mwyn datblygu hyn yn llwyddiannus.

·         Gofynnodd y panel am yr hyn sydd ar gael i'r disgyblion hynny sydd am ddilyn llwybr llai academaidd. Mae partneriaethau ag amrywiaeth eang o bartneriaid lleol er mwyn sicrhau ein bod ni'n cynnig profiad yn y byd gwaith gan gynnwys nifer o brentisiaethau. Mae'r Academi Prentisiaethau'n gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu cyfleoedd. Cytunodd y panel y gellir datblygu'r berthynas hon a'r cyfleoedd am brentisiaethau mewn amrywiaeth o rolau ymhellach. Tynnodd y Panel sylw at y cyfleoedd digidol nad oes ganddynt o reidrwydd lwybr academaidd ynghlwm wrthynt.

·         Clywodd y Panel am y rhaglen adeiladu gadarnhaol 'Build me' gyda'r UCD a chynllun adeiladu Parc y Werin, sy'n cynnig deuddydd yr wythnos o gyfleoedd hyfforddiant mewn gweithgareddau adeiladu, sy'n cynnwys ymweliadau dan oruchwyliaeth a thrafodaeth am rolau gwahanol a'r sgiliau y mae eu hangen ar y safle.

·         Roedd y Panel yn hapus gyda'r cynnydd a wneir yn Abertawe mewn perthynas â datblygiad y cwricwlwm newydd a'r ymrwymiad i ddatblygu Cenhadaeth ein Cenedl yma yn Abertawe. Hoffem dderbyn diweddariadau rheolaidd wrth iddo ddatblygu.

 

 

6.

Cynllun Gwaith 2019 - 2020 pdf eicon PDF 213 KB

Cofnodion:

Hysbysodd y Cynullydd y panel fod yr eitem a drefnwyd ar gyfer 13 Chwefror 2020 ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi'i symud i'r cyfarfod a gynhelir ar 19 Rhagfyr. Symudwyd yr eitemau a drefnwyd ar gyfer 19 Rhagfyr i 13 Chwefror.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 237 KB