Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Susan Jones gysylltiad personol ag eitem 6. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Llythyr at Aelod
y Cabinet sy'n deillio o gyfarfod y panel ar 12 Medi. Codwyd mater data
cyrhaeddiad disgyblion prydau ysgol am ddim. Dymunodd Aelod y Cabinet a’r
Pennaeth Cyflawniad Addysg a Phartneriaeth fanylu ar yr wybodaeth a roddwyd yn
y cyfarfod diwethaf. Yn benodol, fod mesurau cyrhaeddiad yng Nghymru yn newid o
fesur data, i edrych ar daith wella a chyrhaeddiad plant unigol. Esboniwyd nad
oedd y ffigurau a gyhoeddwyd eleni'n adlewyrchu'r newidiadau hyn ac y bydd
mesurau atebolrwydd newydd yn adlewyrchu'r ffocws newydd hwn yn y blynyddoedd i
ddod. |
|
Sesiwn baratoi gyda'r Ymgynghorydd Herio. Cofnodion: Cyfarfu'r Panel
â'r Ymgynghorydd Herio i drafod taith wella Ysgolion Cynradd Penclawdd. |
|
Ysgolion Cynradd Penclawdd PDF 198 KB Cyfarfod gyda'r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfarfu'r Panel a'r
Pennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Penclawdd. Dewison nhw
siarad ag Ysgol Gynradd Penclawdd oherwydd ei bod wedi'i chategoreiddio'n Goch
ar matrics cefnogi ERW. Roedden nhw am drafod taith wella'r ysgol, edrych ar yr
hyn yr oedd yr ysgol yn ei wneud i wella ar ei pherfformiad presennol a sut yr
oedd am wella yn y dyfodol. Mae'n nhw wedi mynegi eu meddyliau ar sut y mae'r
ysgol yn datblygu yn llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet hwn. Clywodd y panel am
gyd-destun yr ysgol gan y Pennaeth, gan gynnwys y canlynol: ar hyn o bryd mae
146 disgybl ar y gofrestr, nodwyd bod 15% ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae
datganiadau gan 3 disgybl. Mae 15.6% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am
ddim ac mae Saesneg yn iaith ychwanegol i 7.5% o ddisgyblion. Ar hyn o bryd mae
7 athro dosbarth (2 rhan-amser) a 10 cynorthwy-ydd
addysgu (rhai ohonynt yn rhan-amser). Clywon nhw am broblemau
arweinyddiaeth cymhleth yr adeg y cafodd yr ysgol arolygiad gan Estyn ac yna am
benodi staff gan gynnwys y Pennaeth presennol ym mis Medi 2018 a'r Dirprwy
Bennaeth a benodwyd yn ddiweddar. Roedd Cadeirydd y Llywodraethwyr am gofnodi
gwerthfawrogiad y Corff Llywodraethu i dimau Adnoddau Dynol a chyfreithiol y
cyngor am eu hamser a'u hymroddiad wrth helpu i ddatrys y problemau staffio cymhleth
hynny. Daeth y Panel i'r casgliad
o'n trafodaeth â'r Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr a'r Ymgynghorydd Herio
fod gwelliannau yn yr ysgol yn datblygu'n dda a bod hyn yn bennaf oherwydd y
canlynol: ·
Mae gan yr ysgol gorff llywodraethu sy'n cefnogi, yn dangos diddordeb ac yn
herio, ac sy'n deall ei sylfaen sgiliau ei hun, sy'n ei wneud yn wydn ac mewn
sefyllfa dda i helpu i ysgogi gwelliannau. Roedd gan gynghorwyr ddiddordeb
arbennig mewn clywed am y gwaith y mae'r corff llywodraethu wedi'i wneud gan
ddefnyddio matrics i asesu ei sylfaen sgiliau. Roedd y Panel yn falch o glywed
bod llywodraethwyr bellach yn weithredol, yn weladwy, yn wybodus ac yn barod i
herio. ·
Mae tîm arweinyddiaeth cryfach ar waith gyda Phennaeth sy'n amlwg yn
frwdfrydig a Dirprwy Bennaeth profiadol newydd ei benodi. ·
Mae gan yr ysgol gynllun gwella clir ac mae'n gweithio gyda’r awdurdod
lleol a'r Gwasanaeth Gwella Addysg ac yn derbyn cefnogaeth ganddynt. ·
Mae arweinwyr ysgol sy'n defnyddio prosesau hunanwelliant
yn effeithiol i nodi'r hyn y mae disgyblion yn ei wneud yn dda a beth sydd
angen ei wella. ·
Mae'r ysgol yn ystyried yn ofalus pa offer gwella sydd orau ar gyfer ei
chyd-destun gan gynnwys, er enghraifft, Building Blocks
a Seesaw. ·
Mae'r ysgol yn dysgu'n frwdrydig drwy weld arfer
da gan ysgolion eraill, a thrwy rannu arfer da ag ysgolion eraill. ·
Mae gan yr ysgol gefnogaeth gref gan rieni a'r gymuned
leol ac mae'r ysgol wrth weithio’n ystyried ei rôl yn y gymuned yn ddifrifol. ·
Mae cynllun gweithredu cynnal a chadw i fynd i'r afael â
diffygion gyda'r adeilad bellach ar waith, gan gynnwys diogelwch y safle. Mae'r Panel yn falch o
glywed bod yr ysgol mewn sefyllfa llawer gwell o adeg arolygiad Estyn, ac yn
cydnabod ei bod wedi gwella llawer mewn amser byr. Mae hyn oherwydd ymrwymiad y
Pennaeth a staff yr ysgol, y llywodraethwyr a'r Gwasanaeth Gwella Addysg i
symud yr ysgol yn ei blaen o ran y gwelliannau y mae eu hangen. Roedd y Panel yn dymuno llongyfarch y Pennaeth a'r
corff llywodraethu yn yr ysgol am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i'r daith
wella hon, sy'n amlwg yn profi'n llwyddiannus. Estynnwyd gwahoddiad i'r Panel
ymweld â'r ysgol ac maen nhw'n bwriadu gwneud hynny er mwyn gweld y cynnydd
sydd wedi'i wreiddio ymhellach yn ystod haf 2020. |
|
Cynllun Gwaith 2019 - 2020 PDF 208 KB Cofnodion: Adolygodd y panel
eu rhaglen waith. |
|
Cofnodion: Derbyniwyd
cyhoeddiadau diweddar o arolygiadau Estyn ysgolion unigol gan y Panel. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.45pm |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol: |