Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Mo Sykes gysylltiad personol a rhagfarnol ag Eitem 4 a gadawodd yr ystafell am yr eitem honno.

 

Cadeiriodd y Cyng. Louise Gibbard Eitem 4.

 

2.

Craffu cyn penderfynu ar yr Adolygiad o Ysgolion Bach pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn sesiwn holi ac ateb gydag Aelod y Cabinet a swyddogion ynghylch y cynigion i'r Cabinet, daeth y panel i'r casgliadau canlynol:

 

Teimla'r panel y cynhaliwyd ymgynghoriad llawn ac adolygwyd ac ailystyriwyd pob opsiwn yn seiliedig ar hyn.

Rhannodd y panel y pryder fod yr ysgol wedi bod i mewn ac allan o'r categori Ambr am lawer o'r pum mlynedd diwethaf ac na wnaed gwelliannau sylweddol er mwyn gwella deilliannau yn yr ysgol. Mae'r panel felly'n cydnabod y bydd Ysgol Gynradd Clydach yn darparu deilliannau a chyfleoedd addysgol gwell i ddisgyblion yn seiliedig ar ei pherfformiad addysgol presennol.

Mae cynghorwyr hefyd yn deall y cymhlethdodau yn nalgylch yr ysgol gydag ysgol gynradd ffydd ac ysgol gynradd Gymraeg gerllaw.  Rydym wedi derbyn nad yw niferoedd y disgyblion yn Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc, yn seiliedig ar ragfynegiadau, yn debygol o gynyddu yn y tymor byr neu ganolig.

Roeddem yn gwerthfawrogi'r pryderon a fynegwyd o ran plant yn defnyddio cludiant ysgol ond rydym yn fodlon y bydd yr un rhagofalon ar waith â'r hyn a geir mewn ysgolion eraill pan fydd disgyblion ar eu pennau eu hunain.

Mae'r panel hefyd yn deall pwysigrwydd sicrhau bod Abertawe'n gwneud y defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol o adnoddau er lles pob disgybl yn ardal yr awdurdod lleol.

Mae'r panel felly'n derbyn, er yn gyndyn, y cynigion i'r Cabinet fel y'u cynhwysir yn yr adroddiad, gan gytuno y dilynwyd proses briodol, bod yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb wedi asesu effaith y cynigion, y cafwyd lefel uchel o ymgynghori a bod pob opsiwn arall wedi cael ei archwilio cyn penderfynu cau'r ysgol.

 

3.

Craffu cyn penderfynu Trefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn sesiwn holi ac ateb gydag Aelod y Cabinet a swyddogion ynghylch y cynigion i'r Cabinet, daeth y panel i'r casgliadau canlynol:

 

Cwblhawyd ymgynghoriad llawn ac ymdriniwyd â'r materion yn llawn.

Mae cau Felindre'n rhan o Gynllun Addysg Gymraeg ehangach a thymor hwy a fydd o fudd i ddisgyblion yn Abertawe yn y tymor hwy.

Mae'r holl ysgolion Cymraeg amgen yn cynnig addysg dda.

Mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn dod o'r tu hwnt i ddalgylch Felindre felly ni fydd cau'r ysgol yn cael llawer o effaith ar y gymuned; mae gan y gymuned neuadd bentref ffyniannus.

 

Mae'r panel felly'n derbyn, er yn gyndyn, y cynigion i'r Cabinet fel y'u cynhwysir yn yr adroddiad, gan gytuno y dilynwyd proses briodol, bod yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb wedi asesu effaith y cynigion, y cafwyd lefel uchel o ymgynghori a bod pob opsiwn arall wedi cael ei archwilio cyn penderfynu cau'r ysgol.

 

 

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 161 KB