Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Nodiadau a llythyrau cynullyddion pdf eicon PDF 159 KB

Nodiadau a llythyrau cynullyddion o gyfarfod y panel ar 20/02/2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd

 

3.

4.00pm Sesiwn baratoi gydag ymgynghorydd her

Cofnodion:

Cyfarfu'r panel gydag Ymgynghorydd Herio'r ysgol i drafod taith wella'r ysgol i baratoi ar gyfer ei sesiwn gydag Ysgol Gynradd Burlais.

 

4.

4.30pm Ysgol Gynradd Bwrlais pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfarfu'r panel â Phennaeth Ysgol Gynradd Burlais, Alison Bastian, a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Chris Holley, i drafod eu taith wella.

 

Roeddent wedi dewis siarad â'r ysgol hon gan ei bod yn y categori oren ar y matrics cefnogaeth a chategoreiddio. Roedd y panel yn falch o glywed ei bod bellach yn rhan o'r categori melyn. Roedd y cynghorwyr am drafod yr hyn y mae'r ysgol yn ei wneud i wella'i pherfformiad presennol a'i rhagolygon ar gyfer gwella. 

 

Clywodd y panel gan y Pennaeth am gyd-destun yr ysgol, gan gynnwys y ffaith ei bod yn ysgol newydd sy'n gyfuniad o ddwy ysgol gynradd. Mae'n ysgol gynradd fawr gyda 553 o ddisgyblion ar y gofrestr bresennol ac adlewyrchir hyn yn nifer uchel y staff addysgu a chefnogi. Mae 31.6% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim ac mae 10.7% ohonynt yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol (EAL).

 

Yn dilyn y sgwrs gyda'r Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr a'r Ymgynghorydd Herio, daeth y panel i'r casgliad bod y gwelliannau a roddwyd ar waith yn yr ysgol yn dwyn ffrwyth a bod yr ysgol yn perfformio'n llawer gwell nag yn ystod yr arolygiad gwreiddiol Estyn. Mae tystiolaeth o hyn hefyd wedi cael ei dangos drwy enw'r ysgol yn cael ei dynnu oddi ar restr gweithgaredd dilynol Estyn ym mis Rhagfyr 2018. 

 

Roedd y panel yn teimlo bod hyn yn bennaf oherwydd y rhesymau canlynol:

·       Mae gan yr ysgol gorff llywodraethu cefnogol, gwybodus a heriol a chanddo'r sgiliau angenrheidiol i helpu i ysgogi gwelliant.

·       Mae Pennaeth ac Uwch-dîm Rheoli'r ysgol yn hollol ymrwymedig i helpu'r ysgol i wella.

·       Parodrwydd yr ysgol i weithio gyda'r awdurdod lleol a'r Gwasanaeth Gwella Addysg a derbyn cefnogaeth ganddynt.

·       Glynwyd wrth y cerrig milltir ar gyfer gwella a roddwyd ar waith yn dilyn yr arolygiad.

·       Mae'r ysgol yn dysgu trwy weld arfer da gan ysgolion eraill, a thrwy rannu arfer da ag ysgolion eraill.

·       Mae'r ysgol yn cael cefnogaeth gref gan rieni a'r gymuned leol, gyda'r ysgol yn cymryd ei rôl yn y gymuned o ddifri.

 

Diolchodd y panel i Bennaeth, Ymgynghorydd Herio a Chorff Llywodraethu'r ysgol, gan eu llongyfarch am eu gwaith caled a'u hymroddiad i'r daith wella hon sy'n amlwg yn un llwyddiannus.

 

5.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Bydd y cyfarfod nesaf ar 2 Mai yn gyfarfod ar y cyd gyda Phanel Craffu'r Gwasanaethau Plant ac Oedolion a bydd yn ystyried deilliannau addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.45pm

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 161 KB