Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

2.

Nodiadau a llythyrau cynullyddion pdf eicon PDF 161 KB

Nodiadau a llythyrau cynullyddion o gyfarfod y panel ar 11/12/18

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodiadau, llythyrau ac ymatebion y cynullydd a dderbyniwyd gan y panel.

 

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

10 minute public question time.

Cofnodion:

Dim

4.

Adrodd yn Flynyddol am Berfformiad Addysg pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees, Pennaeth y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth, yn bresennol er mwyn cyflwyno'r adroddiad ac ateb cwestiynau.  Mae'r pwyntiau allweddol a nodwyd yn cynnwys:

 

·         Mae mesurau perfformiad yng Nghymru yn newid sydd wedi effeithio ar y data a ddarperir a bydd yn parhau i effeithio arno. Am y tro cyntaf, mae disgyblion yn y cyfnod sylfaen yn cael eu mesur ar feysydd dysgu diwygiedig. Mewn ysgolion cynradd, rhoddir mwy o bwyslais ar gynnydd disgyblion yn hytrach nag ar eu perfformiad ar ddiwedd y cyfnod allweddol. Yn y sector uwchradd, cyflwynwyd cymhwyster newydd.

 

·         Mae perfformiad yn y cyfnod sylfaen wedi gostwng 10% yn dilyn tuedd gadarnhaol rhwng 2014 a 2017. Serch hynny, clywodd y panel fod hyn oherwydd newid i ddisgrifwyr y cyfnod sylfaen ac adlewyrchir hyn hefyd ar lefel genedlaethol. Cytunodd y cynghorwyr fod angen ffocws parhaus ar y maes hwn.

 

·         Gwelir tuedd gadarnhaol yng nghynnydd cyfnod allweddol 2 dros y pum mlynedd diwethaf ac mae Abertawe gystal â'r cyfartaledd cenedlaethol. 

 

·         Gwelwyd gwelliant blynyddol yng nghyfnod allweddol 3 dros y 5 mlynedd diwethaf ond mae Abertawe’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer y dangosydd pwnc craidd er ei fod wedi dangos cyfradd gyflymach o gynnydd.    

 

·         Mae perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 wedi bod yn rhagorol dros y 5 mlynedd diwethaf gydag ysgolion Abertawe'n dangos gwelliant parhaus yn y prif ddangosyddion.

 

·         Mae bwlch amlwg yn parhau rhwng disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim. Clywodd y panel fod perfformiad disgyblion PYDd wedi gwella ychydig ond mae'r bwlch yng nghyfnod allweddol 4 yn parhau i fod yn 32.8%. Cytunodd y cynghorwyr y dylai hyn barhau i fod yn ffocws ar gyfer gwella ac yn brif flaenoriaeth i Abertawe.

 

·         Mae'r bwlch rhwng y rhywiau mewn deilliannau perfformiad yn llai nag yn 2017 ond mae tuedd sy’n ehangu'n parhau i fod. Clywodd y panel fod rhai ysgolion yn gwneud yn well wrth dargedu bechgyn sy’n tanberfformio ac mae gweithdrefnau da ar waith i rannu arfer da ynghylch y mater hwn. Dywedodd Aelod y Cabinet fod ymgyrch i ganolbwyntio ar lythrennedd bechgyn, gan gynnwys darllen gydag aelod gwryw o'r teulu, yn gadarnhaol. Cytunodd y panel y byddai cynnal yr ymgyrch hon eto ynghyd â mwy o waith rhwng y cenedlaethau ar y mater hwn yn fuddiol.

 

·         Mae cyrhaeddiad disgyblion chweched dosbarth yn Abertawe'n dangos gwelliant, a chytunwyd bod angen parhau i gynnal mwy o waith yn y maes hwn er mwyn cryfhau perfformiad.

 

·         Roedd y panel yn falch o glywed bod perfformiad disgyblion mewn Saesneg fel iaith ychwanegol yn gryf.

 

·         Mae’r panel yn deall y gall y data ar gyfer plant sy'n derbyn gofal fod yn anodd i’w gyrchu oherwydd gall gael ei seilio ar garfan fach o ddisgyblion. Felly, mae'r panel yn bwriadu ystyried yr agwedd hon yn fwy trylwyr mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

5.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018 pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Cytunodd y panel y caiff yr eitem a ohiriwyd ynghylch deilliannau addysgol plant sy'n derbyn gofal ei thrafod ar y cyd â'r Panel Craffu'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Cyfarfod ar y cyd i'w drefnu.

 

6.

Er gwybodaeth pdf eicon PDF 58 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y panel grynodeb o ganlyniadau arolygiadau ysgolion unigol Estyn.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 146 KB