Lleoliad: Ystafell Gyfarfod y Siambr - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Nodiadau a llythyrau cynullyddion PDF 154 KB Nodiadau a llythyrau cynullyddion o gyfarfod y panel ar 12 Gorffennaf and 18 Gorffennaf 2018 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ymateb y Cabinet
i lythyr sy'n codi o ymweliad ag Ysgol Gynradd Tregŵyr ar 12 Gorffennaf.
Roedd y panel yn falch o glywed y bydd athro ychwanegol yn cael ei gyflogi fel
Arweinydd Strategol y Cyfnod Sylfaen yn ystod absenoldeb deiliad y swydd. |
|
Cofnodion: Bu Janet Waldron,
Ymgynghorydd Herio, yn bresennol yng nghyfarfod y panel i drafod Addysg yng
Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl gan gynnwys y safonau proffesiynol ar gyfer
athrawon ac arweinwyr ysgol. Rhoddwyd copi o'r ddogfen genhadaeth i'r panel
ynghyd â thaflen 'Rhagoriaeth mewn Addysg a Hyfforddiant' gan Estyn. Roedd y
cyflwyniad a'r drafodaeth yn cynnwys: ·
Mae'r
Genhadaeth Genedlaethol yn canolbwyntio ar godi safonau, lleihau'r bwlch
cyflawniad a darparu system addysg sy'n ffynhonnell o falchder a hyder
cenedlaethol. ·
Mae'n
esbonio bod pob un ohonom yn gyfrifol am sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru'n cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf
posib. ·
Mae'n
ddyletswydd arnom i roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i genedlaethau'r
dyfodol fel y gallant chwarae rôl weithredol a llawn
yn eu cymunedau ac yn y gymdeithas ehangach. ·
Bod ffyniant, cydlyniant a lles
ein cenedl yn rhan o system addysg lwyddiannus ·
Mae'r
diwygiadau trawsnewidiol hyn yn cael eu cyflawni o fewn amgylchedd heriol. Mae
hyn yn cynnwys parhau â chaledi ar draws y DU, ansicrwydd Brexit,
trawsnewidiad technolegol bywydau economaidd a gwaith, a'r gwahaniaethau cynyddol rhwng systemau
cymwysterau. ·
Mae
gan Gymru uchelgais y bydd pob ysgol yn datblygu fel sefydliad dysgu. ·
Mae
rhai o gamau gweithredu allweddol y cynllun yn cynnwys: ·
Ehangu'r
Grant Datblygu Disgyblion ·
Hyrwyddo
gweithio rhwng ysgolion ·
Sefydlu
Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol ·
Ymrwymiad
i asesu ffurfiannol, gan gefnogi cynnydd wedi'i bersonoli ·
Cyflwyno
cwricwlwm trawsnewidiol newydd ·
Sefydlu
ymagwedd genedlaethol at ddysgu proffesiynol a gwella gallu fel y gall pob
athro elwa o ddatblygiad drwy gydol gyrfa yn seiliedig ar ymchwil a chydweithio
effeithiol ·
Cyflwyno
Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth newydd ·
Datblygu
fframwaith tâl ac amodau athrawon 'yng Nghymru' newydd ·
I fod
yn llwyddiannus wrth gyflwyno'r cwricwlwm trawsnewidiol a'r trefniad asesu
newydd, bydd angen diwygiadau sydd wedi'u cydlynu'n dda. Caiff y diwygiadau hyn
eu datblygu wrth gydweithio â gweithwyr addysg proffesiynol, ac maent yn elwa o
ddysgu am arfer gorau ar draws y byd. Bydd angen ffocws clir ar yr amcanion
galluogi allweddol canlynol: 1.
Datblygu
proffesiwn addysg o safon 2.
Arweinwyr
ysbrydolus sy'n cydweithio i godi safonau 3.
Ysgolion
cryf a chynhwysol sy'n ymroddedig i ragoriaeth, ecwiti a lles 4.
Trefniadau
hunanasesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn sy'n cefnogi system hunan-wella ·
Caiff
y genhadaeth genedlaethol ei rhoi ar waith yn unol â phum egwyddor gwaith Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015: tymor hir, cydweithio, ataliaeth,
integreiddio a chyfranogaeth. ·
Bydd
y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn canolbwyntio ar elfennau
hanfodol addysgu o'r fath, a byddant hefyd yn datblygu safonau ar gyfer staff
cefnogi er mwyn eu galluogi i wella'u sgiliau ac i ymrwymo i ddysgu
proffesiynol. ·
Yr
athrawon ddylai fod y myfyrwyr mwyaf ymroddedig yn yr ystafell ddosbarth. Cânt
eu cefnogi i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes er mwyn helpu i godi
safonau i'n holl bobl ifanc. ·
Roedd
y panel yn falch o weld ffocws ar y person cyfan yn y genhadaeth, yn academaidd
ac yn alwedigaethol. Cytunodd y panel fod gweld y person cyfan, gan gynnwys
iechyd meddwl ac effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn bwysig. ·
Cytunodd
y panel ni all ysgolion wneud hyn heb gymorth a bod angen cynnwys rhieni yn y
daith wella. Cytunodd y panel
hefyd fod angen gwell cydbwysedd rhwng y galwedigaethol a'r academaidd, a bod
angen i gyrff arholi gydnabod bod hyn yn rhan o'r broses wella. |
|
Cynllun Gwaith 2018 - 2019. PDF 92 KB Cofnodion: Cytunodd y panel
i symud Canlyniadau Addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal i'r cyfarfod ym mis
Ionawr. |
|
Cyhoeddwyd Arolygiad Estyn diweddar ar gyfer ysgolion
unigol Cofnodion: Derbyniodd y
panel bedwar canlyniad arolygiad Estyn a nodwyd bod pob un ohonynt yn
gadarnhaol. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.10pm |